Cynulleidfaoedd Penwythnos Celfyddydau Abertawe fydd y cyntaf i brofi rhagolwg arbennig o When Pelé Broke Our Hearts, darlleniad wedi'i ymarfer gan Theatr na nÓg o ddrama newydd Nick Davies a Brett Davies, yn seiliedig ar lyfr poblogaidd Mario Risoli.

Cyn taith sydd wedi’i chynllunio yn y dyfodol, bydd cast medrus yn perfformio fersiwn fyrrach o’r ddrama; comedi chwaraeon galonog am git benthyg, pasbortau coll, siwmperi fel pyst gôl, a’r perthynas anorchfygol rhwng pump o bêl-droedwyr a fagwyd i gyd ar yr un stryd yn Abertawe. Yn ei hanfod, mae hefyd yn mynd i’r afael ag un o faterion mwyaf anwybyddedig cymdeithas: iechyd meddwl dynion, a’r ffyrdd y mae dynion yn ymgodymu â galar, gwydnwch a chyfeillgarwch.

Mae'r ddrama'n mynd â ni'n ôl i 1958, pan wnaeth Cymru, ar ôl cyfres o gamgymeriadau a throeon annhebygol, nid yn unig gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd FIFA ond brwydro eu ffordd i'r rownd gogynderfynol. Yno, collon nhw 0-1 yn erbyn Brasil, gyda gôl bendant gan Pelé, 17 oed: ei gôl gyntaf erioed yng Nghwpan y Byd, yr un a'i gyhoeddodd ef i'r byd.

Dywedodd Geinor Styles, cyfarwyddydd artistig Theatr na nÓg a chyfarwyddydd y cynhyrchiad: “Roedden ni wrth ein bodd i gael ein gwahodd i gymryd rhan ym Mhenwythnos Celfyddydau Abertawe. Mae cefnogaeth Cyngor Abertawe i gymunedau celfyddydol lleol ac ehangach yn ysbrydoledig, ac roedd hyn yn teimlo fel y cyfle perffaith i roi cipolwg i gynulleidfaoedd ar ein cynhyrchiad sydd ar ddod. Mae gennym gast anhygoel yn arddangos stori wirioneddol arbennig. Nid dim ond i gefnogwyr pêl-droed y mae When Pelé Broke Our Hearts – mae’n ymwneud â sut mae pobl Cymru’n glynu at ei gilydd, yn sefyll yn dal, ac yn chwerthin gyda’i gilydd, hyd yn oed yn yr amseroedd anoddaf. Ac yn bwysicaf oll, mae am ddim! Galwch heibio am y darlleniad, yna arhoswch i fwynhau’r hyn sy’n addo bod yn benwythnos gwych.”

Yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe, sydd am ddim ac yn para am ddau ddiwrnod, mae'r darlleniad ymarferedig hwn yn ymuno â dathliad bywiog o greadigrwydd, diwylliant a chymuned, gan lenwi canol y ddinas â cherddoriaeth fyw, gweithdai, perfformiadau stryd, arddangosfeydd a theatr. Fe'i cyflwynir gan Theatr na nÓg, sy'n enwog am ddod â straeon ysbrydoledig Cymru yn fyw.

Dywedodd David Brayley, awdur chwaraeon a chyfarwyddwr y rhaglen ddogfen Ivor Allchurch - Golden Days, sy’n arddangos yr un stori o 1958: “Mae stori Cymru yn cyrraedd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd FIFA 1958 yn Sweden yn un o’r rhai pwysicaf yn hanes nid yn unig pêl-droed Cymru, ond chwaraeon Cymru hefyd. Mae’n stori am lawer mwy na phêl-droed yn unig. Mae’n stori am reolwr yn delio â galar un o drasiedïau mwyaf chwaraeon; mae’n stori am ddyn ifanc o Abertawe sy’n awyddus i brofi i’r byd y gallai fod y chwaraewr gorau yn ei genhedlaeth; mae’n stori am grŵp o ddynion ifanc a oedd lai na deng mlynedd ynghynt yn chwarae pêl-droed ysgol ym Mharc Cwmbwrla ac a fyddai nawr yn herio’r byd; mae’n stori am system anhyblyg o weinyddwyr nad oeddent erioed wedi deall yr angen i roi chwaraewyr o flaen pwyllgorau. 

“Mae When Pelé Broke Our Hearts yn stori sy’n dathlu popeth sy’n wych mewn chwaraeon Cymru ac mae’n hen bryd ei hadrodd ar ffurf drama lwyfan, diolch i Theatr na nÓg am roi sylw i’r stori anhysbys hon. Dim ond llwyddiant rwy’n dymuno iddi.”

Bydd darlleniad 40 munud When Pelé Broke Our Hearts, wedi’i ddilyn gan Q&A gyda Nick Davies, yn digwydd am 2.30yp a 6yh ar Dydd Sadwrn 11 Hydref yn Theatr Volcano, Stryd Fawr. Mae tocynnau am ddim ac ar gael o wefan Penwythnos Celfyddydau Abertawe.