Bydd Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n dod ag artistiaid, perfformwyr, dawnswyr a phobl greadigol byd-enwog i'r digwyddiad yn y ddinas a fydd yn para tridiau

Rhwng 4 - 6 Hydref 2024 bydd digwyddiad agoriadol Penwythnos Celfyddydau Abertawe yn trawsnewid y ddinas drwy uno arddangosiadau a pherfformiadau ymdrochol, cerddoriaeth fyw, comedi, dawns a gweithgareddau celf rhyngweithiol. 

Bydd y Penwythnos Celfyddydau'n cynnig gweithdai celf, perfformiadau ac arddangosfeydd am ddim ynghyd â digwyddiadau cerdd fyw y bydd angen tocynnau ar eu cyfer i ymwelwyr eu mwynhau. 

Mae’r digwyddiadau newydd am ddim wedi cael eu curadu ar gyfer yr ŵyl: Sgwrs â Michael Sheen yn Theatr Dylan Thomas; Artistiaid Ydym Oll, a gynhelir ar draws pum oriel yn Abertawe; ac Olympic Fusion, perfformiad dawns ymdrochol ym Mharc yr Amgueddfa yn Abertawe.

Mae Gŵyl Ymylol boblogaidd Abertawe sy'n dathlu cerddoriaeth, comedi a theatr hefyd yn ymuno yn y Penwythnos Celfyddydau, gan greu llwyfan cyffrous i bobl ddawnus ar lawr gwlad berfformio ochr yn ochr ag artistiaid sefydledig mewn lleoliadau adloniant a cherddoriaeth yn Abertawe. Bydd angen tocyn ar gyfer Gŵyl Ymylol Abertawe, ac mae bandiau arddwrn mynediad ar gael am £20.00.

Cynhelir y Penwythnos Celfyddydau rhwng 4 - 6 Hydref yng nghanol dinas Abertawe, ac mae'r rhaglen lawn o ddigwyddiadau ar gael yma

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau ar gyfer pob oriel sy'n cymryd rhan yma. 

Ac mae rhagor o wybodaeth am Benwythnos Celfyddydau Abertawe a thocynnau ar gael yma