Bydd Richard Nicholls yn dechrau ym Medi fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau. Mae’n ymuno â’r Cyngor ar ôl 6 blynedd o arwain yn llwyddiannus dîm datblygu Amgueddfa Cymru. Yno roedd yn gyfrifol am gael incwm oddi wrth noddwyr, aelodau, partneriaid masnachol, ymddiriedolaethau a sefydliadau.

Bydd Iona Lamy-Yang yn ymuno â’r Cyngor fel Swyddog a Chydlynydd Ymchwil. Ar hyn o bryd mae’n astudio am radd Meistr mewn datblygiad yr ymennydd. Bydd Sara Llewelyn o Ben Llŷn yn dechrau fel Cydlynydd Tîm Ariannu'r Celfyddydau.