Ydych chi’n arweinydd â gweledigaeth sy’n frwd dros gerddoriaeth gerddorfaol ac sy’n hen law ar gynhyrchu a chynllunio artistig? Oes gennych chi’r uchelgais a’r creadigrwydd i lywio dyfodol un o gerddorfeydd enwocaf y DU?
Mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC (BBC NOW) yn chwilio am Bennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig deinamig i ymuno â’n tîm ac i arwain y ffordd o ran darparu rhaglenni arloesol a pherfformiadau o’r radd flaenaf.
Fel Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn nhwf a llwyddiant parhaus BBC NOW. Byddwch yn atebol yn uniongyrchol i’r Cyfarwyddwr, ac yn arwain tîm talentog sy’n gyfrifol am gyflwyno rhaglen artistig y gerddorfa ar hyd a lled Cymru a’r tu hwnt.
Mae hon yn swydd uwch reoli, sy’n gyfle i sbarduno cyfeiriad artistig, sicrhau gwerthoedd cynhyrchu uchel, a meithrin perthynas ag arweinwyr, unawdwyr a phartneriaid blaenllaw yn y diwydiant.
Pam ymuno â ni?
Nid cerddorfa yn unig yw BBC NOW – mae’n un o gonglfeini bywyd diwylliannol yng Nghymru ac mae’n rhan allweddol o allbwn cerddorol y BBC, yn enwedig ar BBC Radio 3.
Fel Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig, cewch gyfle i lywio dyfodol y gerddorfa, sbarduno rhaglenni arloesol a hygyrch, a chydweithio â rhai o’r cerddorion a’r artistiaid gorau yn y byd.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arwain un o sefydliadau cerddorol mwyaf nodedig y DU, gan gyfrannu at ei lwyddiant parhaus, ei gynaliadwyedd a’i ymgysylltiad â chynulleidfaoedd.
Dyddiad cau: 22/04/2025
Mae rhagor o wybodaeth am y swydd hon a sut i wneud cais ar gael drwy ddilyn y ddolen isod.