Mae’n bleser gan brif arddangosfa eilflwydd a gwobr gelf gyfoes ryngwladol y Deyrnas Unedig gyhoeddi manylion ei hunfed arddangosfa ar ddeg, Artes Mundi 11, gyda’r partner cyflwyno Sefydliad Bagri (AM11). Dangosir gwaith chwe artist gweledol cyfoes rhyngwladol yn yr arddangosfa, a gynhelir rhwng 24 Hydref 2025 a 1 Mawrth 2026. Yn dilyn llwyddiant AM10, bydd AM11 yn cael ei gyflwyno'n genedlaethol eto mewn pum lleoliad partner, gyda Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn cymryd rhan am y tro cyntaf. Cyhoeddir enw enillydd Gwobr fawreddog Artes Mundi gwerth £40,000 – gwobr gelf gyfoes fwyaf y DU – mewn derbyniad gwobrwyo yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 15 Ionawr 2026. 

Bydd gwaith gan bob artist i’w weld mewn cyflwyniad grŵp yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, a bydd hynny’n ganolbwynt canolog fydd yn cynnwys cynyrchiadau newydd uchelgeisiol a benthyciadau pwysig fydd yn cynrychioli craidd sylfaenol ymarfer pob artist. Bydd y sioe grŵp yn caniatáu datgelu deialog thematig rhwng pob artist, yn seiliedig ar hanesion a straeon personol sy’n archwilio cwestiynau am golled, cof, ac ymfudo, a’r trawma a’r gost amgylcheddol sy’n deillio. Ategir hyn gan arddangosfeydd unigol cynhwysfawr ledled y wlad. 

Dyma leoliadau cyflwyno gweithiau unigol AM11: Anawana Haloba a Sawangwongse Yawnghwe yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth; Sancintya Mohini Simpson yn Chapter, Caerdydd; Kameelah Janan Rasheed yn Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; a Jumana Emil Abboud ac Antonio Paucar ym Mostyn, Llandudno. 

Fel llwyfan hanfodol i gyfnewid diwylliannol rhwng cymunedau artistig y Deyrnas Unedig a’r byd, a’i ffocws ar archwilio’r ‘cyflwr dynol’, mae Artes Mundi’n casglu arddangosfa sylweddol at ei gilydd bob dwy flynedd o gelf gyfoes gan artistiaid rhyngwladol dylanwadol. Mae AM11 yn parhau â’i draddodiad o gyflwyno gwaith arbennig yng Nghymru sy’n ymdrin â chwestiynau mawr ein hoes.