Mae rhagor o gyllid ar gyfer cydweithio a chyfnewid diwylliannol rhyngwladol wedi’i roi i 39 o brosiectau newydd yn ail rownd Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl.
Mae’r prosiectau yn dwyn ynghyd 60 o bartneriaid o bedair cenedl y Deyrnas Unedig a 50 o bartneriaid rhyngwladol o 25 o wledydd gwahanol, o Bortiwgal i Lebanon; o Norwy i Nigeria; ac o Canada i Bosnia a Herzegovina.
Mae’r awch i weithio yn rhyngwladol drwy Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn dal yn gryf, ac mae nifer y ceisiadau wedi cynyddu’n sylweddol o dan y rownd newydd hon o’r gronfa. Mae’r buddsoddiad hollbwysig hwn, sy’n werth £315,765 ac yn cael ei roi gan Creative Scotland, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn galluogi artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol ym mhedair cenedl y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol i rannu, cysylltu a dysgu gan ei gilydd mewn ffyrdd newydd.
Mae modd i amrywiaeth eang o ffurfiau celfyddydol a phobl o wahanol gefndiroedd ac ardaloedd daearyddol fod yn rhan o’r gweithgareddau. Ymhlith y dyfarniadau mae: menywod o liw yn chwyldroi ysgrifennu am fyd natur; dadlennu bywydau a hanesion cwiar ledled yr ynysoedd; adrodd straeon pobl ifanc sy’n cael eu magu yng nghanol gwrthdaro; ac arferion artistig ymhlith pobl f/Fyddar ac anabl mewn ieithoedd lleiafrifol, i enwi dim ond rhai.
Mae’r canlynol ymhlith y prosiectau sy’n cael eu harwain yng Nghymru:
Bydd y dramodydd a’r awdur Kaite O’Reilly yng Nghymru, Ramesh Meyyappan yn yr Alban ac Equal Voices Arts yn Aotearoa, Seland Newydd, yn creu trafodaeth ryngwladol ac yn ffurfio rhan o raglen hyfforddiant hygyrch Equal Voices Arts ar gyfer y gymuned Fyddar yn Aotearoa. Prosiect yw hwn sy’n gwbl gynhwysol i bobl f/Fyddar, a bydd yn eu galluogi i gael hyfforddiant ym meysydd y theatr, dawns, adrodd straeon corfforol, a pherfformiadau dwyieithog a deuddiwylliannol, a’r cyfan yn hygyrch i gynulleidfaoedd b/Byddar a chynulleidfaoedd sy’n gallu clywed. Bydd gweithdai hybrid yn cael eu cynnal dros nifer o fisoedd, gan roi cyfle i’r gwneuthurwr theatr Ramesh Meyyappan a Kaite O’Reilly greu cysylltiadau diwylliannol ac ieithyddol rhwng cyd-destunau Byddar Māori a Pākehā, a chyfle i Equal Voices Arts edrych ar ddulliau o weithio’n ddwyieithog ac yn ddeuddiwylliannol o safbwyntiau brodorol.
Meddai Laura Haughey, Cyfarwyddwr Artistig Equal Voices Arts:
“Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n arw y cyfle hwn i ddod â thîm rhyngwladol o artistiaid o bob rhan o’r byd ynghyd fel rhan o’r prosiect aml-haenog ac aml-gyfeiriad hwn sy’n cyfnewid gwybodaeth ac arferion. Bydd y broses gyfnewid arloesol hon yn mynd rhagddi mewn cyd-destunau rhyng-ddiwylliannol, gan fynd ati i archwilio, rhannu a dysgu llawer iawn gan ein gilydd a gyda’n gilydd.”
- Freya Beath, (Gwynedd, Cymru) yn arwain gyda Nicholas Partridge (Caint, Lloegr), Ruben Campbell-Paine (Bryste, Lloegr) a Serene Quinn (Boston, UDA) fel partneriaid.
Cyfnod preswyl chwe diwrnod o hyd, wyneb yn wyneb, i ddatblygu act sy’n bodoli’n barod a’i throi yn sioe deithiol. Mae’r act chwe munud o hyd ar hyn o bryd yn cynnwys tri pherfformiwr. Act awyr yw hi sy’n defnyddio’r We Sbaenaidd draddodiadol mewn ffordd wreiddiol a chreadigol. Mae’r act ar hyn o bryd yn ysbrydoli’r gynulleidfa i roi adborth sy’n disgrifio ymdeimlad o gydweithio, cyd-ddealltwriaeth a gofal rhwng y perfformwyr.
- Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant (Ceredigion, Cymru) yn arwain gyda Juana Adcock (Glasgow, yr Alban), Adrian Fisher a Luna Montenegro (Llundain, Lloegr), Zoë Skoulding (Ynys Môn, Cymru), Iestyn Tyne (Gwynedd, Cymru), Kerala Literature Festival (KLF) a DC Residency (Kerala, India), Mathrubhumi International Festival of Letters (MBIFL) (Kerala, India) a Anitha Thampi (Kerala, India) fel partneriaid.
Bydd y prosiect arfaethedig yn dwyn ynghyd bump o feirdd a pherfformwyr o’r Deyrnas Unedig - Juana Adcock, Adrian Fisher, Luna Montenegro, Zoe Skoulding ac Iestyn Tyne gyda’r bardd Malayalam, Anitha Thampi, i gyd-greu gwaith amlieithog newydd sy’n edrych ar y newid yn yr hinsawdd a’n perthynas â byd natur o safbwynt a fydd yn rhoi pwyslais ar y cysyniad o gyfiawnder hinsawdd ac anghydraddoldebau byd-eang sy’n cael eu gwaethygu drwy ddinistrio’r amgylchedd. Mae’n anochel y bydd y prosiect yn edrych ar y berthynas hanesyddol rhwng y Deyrnas Unedig ac India, ond hefyd ar gysylltiadau trefedigaethol eraill sy’n berthnasol i gefndiroedd yr artistiaid.
- Tom Cardew (Caerdydd, Cymru) yn arwain gydag Aled Simons (Abertawe, Cymru), Divisions of Labour (Contemporary Gallery) (Manceinion, Lloegr) a Bláithín Mac Donnell (Dingle, Iwerddon) fel partneriaid.
Bydd Tom Cardew ac Aled Simons (ar ffurf Failures & Repetitions) yn gweithio gyda Bláithín Mac Donnell a Divisions and Labour yn ystod cam cychwynnol i sgwrsio a rhannu gwybodaeth ynghylch dulliau cynaliadwy a theg o feithrin gyrfa mewn celfyddyd gyfoes. Bydd hynny wedyn yn arwain yn raddol at greu darllediadau arbrofol, newydd ar y cyd: at gyflwyno gweithiau sain sydd ar y gweill, at greu deunydd ymchwil datblygiadol, at recordio trafodaethau ar-lein rhwng yr ymarferwyr, ac at ddatblygu cysylltiadau proffesiynol a chreadigol newydd drwy gyfnewid ymarferol.
Detholiad o brosiectau eraill sy’n cael cyllid:
Bydd Alycia Pirmohamed, enillydd diweddar Gwobr Nan Shepherd 2023, yn arwain Fieldnotes Collective o’r Alban. Gan gysylltu â chymheiriaid yn Lloegr a’r Almaen gan gynnwys y bardd Alycia, yr awdur Jessica J. Lee, y bardd Pratyusha a’r awdur Nina Mingya Powles, maen nhw’n gobeithio torri tir Newydd yn y genre ysgrifennu am fyd natur.
Meddai Fieldnotes Collective:
“A ninnau’n awduron byd natur gyda diddordebau tebyg, ac sydd wedi cyd-greu mewn gwahanol ffyrdd dros y blynyddoedd, mae’r pedair ohonon ni wedi edmygu gwaith ein gilydd ers tro. Mae cael y cyllid hwn yn gyfle cyffrous i ni ddatblygu ein gwaith ysgrifennu ar y cyd, ar draws ffiniau, a hynny ar gyfer cynulleidfaoedd newydd, gan ein herio i ailddychmygu ein harferion creadigol.”
Bydd hyn yn arwain at gyfres o weithdai ar-lein sy’n trafod ysgrifennu am fyd natur, yn ogystal ag at waith ffeithiol greadigol a barddoniaeth ar y cyd sy’n plethu genres wrth ailddychmygu rôl yr adroddwr mewn ysgrifennu amgylcheddol. Yn draddodiadol, cysylltwyd dynion â hyn, a bydd y prosiect yn archwilio sut y mae hanesion trefedigaethol wedi llywio llenyddiaeth ecolegol.
Wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon, bydd prosiect Our Queer Isles: Unearthing the Ancestors, yn camu i fyd hanesion cwiar yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Bydd tri artist eithriadol, y bardd Cat Brogan, yr adroddwr straeon Rachel Rose Reid a’r cerddor Branwen Kavanagh yn bwrw goleuni ar naratifau cwiar y gorffennol, sy’n aml wedi bod ynghudd, gan arwain at berfformiad byw yn Strule Arts Centre mewn partneriaeth ag Omagh Pride. Gan blethu eu gwaith creadigol ym meysydd adrodd straeon, barddoniaeth a cherddoriaeth, byddan nhw’n darlunio gwaddol bywydau cwiar y gorffennol drwy naratif grymus a fydd yn taro tant â chynulleidfaoedd, yn ysbrydoli sgyrsiau a chreadigrwydd, ac yn creu gwell dealltwriaeth o dreftadaeth cwiar.
Meddai Cat Brogan, arweinydd y prosiect:
“Bydd y grant hwn yn rhoi amser a gofod i ni gydweithio fel artistiaid amlddisgyblaethol ar ddarn i’w berfformio sy’n cyfuno cerddoriaeth, adrodd straeon, barddoniaeth lafar, mythau, cymeriadau, gwaith ymchwil a phrosesau ailddychmygu er mwyn bwrw goleuni ar straeon cwiar sydd heb gael eu hadrodd. Mae’n wych croesawu Rachel a Branwen i fy nhref enedigol ar y cyd ag Omagh Pride, gan roi lle amlwg i waith newydd ac iddo themâu cwiar mewn cyd-destun gwledig.”
Yn Lloegr, bydd y cwmni theatr Fake Escape yn gweithio gydag Amgueddfa Ryfel PlentyndodSarajevo, Bosnia a Herzegovina, a’r Kabosh Theatre a’r MAC Theatre yn Belfast, Gogledd Iwerddon, i edrych ar wydnwch cadarnhaol pobl ifanc sy’n cael eu magu yng nghanol rhyfel a gwrthdaro, a hynny ar gyfer gwaith theatr dogfennol o’r enw Innocence Unbroken. Byddan nhw’n edrych ar y pethau tebyg ym mywydau’r plant a gafodd eu magu yng nghanol y gwrthdaro yn Belfast yn ystod y ‘Troubles’ ac yn Rhyfel Bosnia 1992-95.
Meddai David Shopland, Cyfarwyddwr Artistig Fake Escape:
“Mae Fake Escape wedi bod yn tyfu fel cwmni theatr blaengar, rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd y grant hwn yn ein galluogi i greu rhwydweithiau a chysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol er mwyn adrodd y straeon hyn mewn ffordd ddilys a sensitif. Ond bydd hefyd yn fodd o edrych ar ffordd newydd o greu theatr; i lywio hynny, ceir proses gyfweld a fydd yn casglu gwaith ymchwil, yn hytrach na dechrau’r gwaith gyda syniad terfynol mewn golwg.”
Gan eu trwytho’u hunain mewn dros 300 awr o gyfweliadau llafar sy’n edrych yn ôl ar yr hanes, ynghyd ag arddangosfeydd a rhwydwaith yr Amgueddfa Ryfel Plentyndod, byddan nhw’n mynd â’r deunydd hwn at gwmnïau theatr Belfast ac yna’n dechrau creu darn theatrig sy’n pwysleisio ymdeimlad o chwarae a diniweidrwydd yn stori’r bobl ifanc hyn.
Creative Scotland sy’n rheoli proses ymgeisio’r gronfa ar ran cynghorau celfyddydol ac asiantaethau’r pedair cenedl. Ar ran y bartneriaeth, meddai Dana MacLeod, Cyfarwyddwr Gweithredol y Celfyddydau, Cymunedau a Chynhwysiant yn Creative Scotland:
“Mae ail rownd Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl wedi golygu bod artistiaid yn y Deyrnas Unedig ac o amgylch y byd yn gallu bod yn rhan o gynlluniau cyffrous sy’n fodd o gysylltu, cyfnewid a chydweithio.
“Mae’r 39 o brosiectau yn dangos amrywiaeth fawr o ran diwylliannau, arferion a safbwyntiau, gan amlygu’r effaith gadarnhaol y gall celfyddydau a diwylliant ei chael ar gymunedau yn y pedwar ban.
“Drwy ddod ynghyd fel asiantaethau a chyllidwyr i rannu adnoddau a gwybodaeth, mae’n fodd o greu mwy o gyrhaeddiad ac effaith i’n hartistiaid a’n cynulleidfaoedd. Gallwn ni hefyd fynd i’r afael â materion a heriau pwysig sy’n wynebu artistiaid ac ymarferwyr o amgylch y byd.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
Dyma restr o’r rheini o Gymru a fydd yn cael arian drwy Gronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl (prosiectau sy’n cael eu harwain gan bobl o Gymru a phrosiectau sydd â phartneriaid yng Nghymru):
Gwaith ar y cyd sy’n cael ei arwain yng Nghymru:
Sefydliadau |
Partneriaid |
Swm |
Freya Beath (Gwynedd, Cymru)
|
Nicholas Partridge (Caint, Lloegr)
Ruben Campbell-Paine (Bryste, Lloegr) Serene Quinn (Boston, UDA) |
£7,500 |
Kaite O'Reilly (Ceredigion, Cymru) |
Ramesh Meyyappan (Glasgow, Yr Alban)
Equal Voices Arts (Waikato, Seland Newydd)
|
£7,500 |
Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant (Ceredigion, Cymru) |
Juana Adcock (Glasgow, Yr Alban)
Adrian Fisher a Luna Montenegro (Llundain, Lloegr)
Zoë Skoulding (Ynys Mon, Cymru)
Iestyn Tyne (Gwynedd, Cymru) Kerala Literature Festival (KLF) a DC Residency (Kerala, India)
Mathrubhumi International Festival of Letters (MBIFL) (Kerala, India)
Anitha Thampi (Kerala, India) |
£7,000 |
Tom Cardew (Caerdydd, Cymru) |
Aled Simons (Abertawe, Cymru)
Divisions of Labour (Contemporary Gallery) (Manceinion, Lloegr)
Bláithín Mac Donnell (Dingle, Iwerddon) |
£7,500 |
|
Is-gyfanswm |
£29,500 |
Prosiectau sydd â phartner o Gymru
Sefydliad |
Partneriaid |
|
Isabelle Moore (Caeredin, Yr Alban) |
David Colwell (Powys, Cymru)
Yuri Kobayashi (Maine, UDA)
|
£7,500 |
BREAK MISSION (DONATE TO PARTICIPATE) CIC (Gorllewin y Canolbarth, Lloegr) |
Avant Cymru (Rhondda Cynon Taf, Cymru)
ASD Uprock (Spaghetti Flava) (Mesagne, Yr Eidal) |
£7,440 |
Ed Viney (Dorset, Lloegr) |
Noni Lewis (Sir Fynwy, Cymru)
Jerry Reilly (Newton, Massachusetts, UDA) |
£6,900 |
FROZEN LIGHT (Norfolk, Yr Almaen) |
Oshis World (Caerdydd, Cymru) Sensorium Theatre (Perth, Awstralia) |
£7,500 |
Neta Gracewell (Llundain, Lloegr) |
Jenny Alderton (Castell-nedd Port Talbot, Cymru)
Lou Sarabadzic (Swydd Warwig, Lloegr)
Foivi Psevdou (Athens, Gwlad Groeg)
Tricia Enns (Montreal, Quebec, Canada)
Rik Fisher (Berlin, Yr Almaen) |
£7,500 |
STUDIO ABOVEandBELOW LTD (Llundain, Lloegr) |
CULTVR (Caerdydd, Cymru)
Associazione Culturale Umanesimo Artificiale (UA) (Fano, Yr Eidal) |
£7,500 |
Roedd hyd at £7,500 ar gael i ymgeiswyr o gyllideb gwerth £320,000, gan gynnwys £28,000 a oedd wedi’i ddyrannu ar gyfer Costau Hygyrchedd er mwyn helpu gydag unrhyw ofynion hygyrchedd a chael gwared â rhwystrau rhag gwneud cais.
Creative Scotland yw’r corff cyhoeddus sy’n cefnogi’r celfyddydau, diwydiannau’r sgrin a’r diwydiannau creadigol ledled yr Alban, ac mae’n dosbarthu cyllid sy’n cael ei roi gan Lywodraeth yr Alban a’r Loteri Genedlaethol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn creativescotland.com. Dilynwch ni ar Twitter, Facebookac Instagram. Dysgwch fwy am werth y celfyddydau a chreadigrwydd yn yr Alban ac ymunwch yn www.ourcreativevoice.scot
Arts Council England yw’r asiantaeth ddatblygu genedlaethol ar gyfer creadigrwydd a diwylliant yn Lloegr. Rydyn ni wedi cyflwyno ein gweledigaeth strategol yn Let’s Create, sef y bydd Lloegr erbyn 2030 yn wlad sy’n gwerthfawrogi creadigrwydd pob un ohonon ni, ac yn rhoi cyfle i greadigrwydd pawb ffynnu. Bydd pawb hefyd yn gallu mwynhau amrywiaeth rhyfeddol o brofiadau diwylliannol o ansawdd da. Rydyn ni’n buddsoddi arian cyhoeddus gan y Llywodraeth a’r Loteri Genedlaethol er mwyn helpu i gefnogi’r sector a chyflawni’r weledigaeth hon. www.artscouncil.org.uk
Yn dilyn argyfwng COVID-19, datblygodd Arts Council England Becyn Ymateb mewn Argyfwng gwerth £160 miliwn, gyda bron i 90% o’r arian wedi’i roi gan y Loteri Genedlaethol, a hynny ar gyfer sefydliadau ac unigolion yr oedd angen cymorth arnyn nhw. Ni hefyd yw un o’r cyrff sy’n gweinyddu Cronfeydd Adfer Diwylliannol y Llywodraeth, a’r rheini’n werth £1.96 biliwn, sy’n swm digynsail. Mae rhagor o wybodaeth yn www.artscouncil.org.uk/covid19.
Arts Council of Northern Ireland yw’r brif asiantaeth sy’n cyllido ac yn datblygu’r celfyddydau yng Ngogledd Iwerddon, ac mae’n cefnogi prosiectau celfyddydol ledled y rhanbarth drwy gyllid gan y Trysorlys a’r Loteri Genedlaethol. Mae ein cyllid yn galluogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol i wneud y celfyddydau yn fwy hygyrch drwy gymdeithas gyfan ac i ddarparu celfyddyd wych sydd o fewn cyrraedd pawb.
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yw asiantaeth ryngwladol fewnol Cyngor Celfyddydau Cymru, sef y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am ariannu a datblygu’r celfyddydau yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth yn wai.org.uk/cy ac arts.wales/cy. Dilynwch ni ar Twitter, Facebook ac Instagram
Cydnabyddiaeth y llun: Perfformwyr EVA yn Where Our Shadows Meet, ffotograffiaeth gan Michael Smith
Cysylltiadau i’r cyfryngau:
Creative Scotland
Jacqueline Munro, Swyddog Cysylltiadau a’r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus
Jacqueline.Munro@creativescotland.com
+44 (0) 7967 822 266
Arts Council England
Sarah Deen
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru
Siwan Dafydd
Arts Council of Northern Ireland
Sarah Coburn