Bu Papertrail yn llwyfannu straeon nas mynegwyd gan leisiau a dangynrychiolir yng Nghymru a thu hwnt am y 10 mlynedd ddiwethaf. Diolch i Gamau Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r cwmni yn awr yn dechrau ar gyfnod newydd cyffrous o ddatblygiad gyda Jonny Cotsen yn cyd-arwain y cwmni ynghyd â’r Cyfarwyddwr Artistig sefydlol, Bridget Keehan. Eu gweledigaeth ar y cyd yw hybu ac arbrofi gyda’r ffyrdd y caiff mynediad creadigol ei ddefnyddio mewn cynyrchiadau. Bydd Papertrail hefyd yn cynnig dwy swydd newydd ar gyfer artistiaid cyswllt sydd wedi profi rhwystrau ac sy’n cael eu tangynrychioli yn y celfyddydau.

“Sefydlais i Papertrail yn wreiddiol er mwyn llwyfannu straeon nas mynegwyd ac i gyd-weithio gydag unigolion a chymunedau ar y cyrion trwy greu sgriptiau newydd. Ymunodd Jonny â Papertrail fel Artist Cyswllt yn 2021 a dechreuon ni greu sioe newydd gyda’n gilydd. Daeth yn amlwg mewn dim o dro ein bod ni'n rhannu'r un angerdd am ddatgymalu rhwystrau i greadigrwydd ac am rannu straeon nas mynegwyd. Sylweddolon ni, trwy barhau i gydweithio, y gallwn fod yn rym ar gyfer creu newid. Dros y flwyddyn ddiwethaf buom yn gweithio’n galed ar gynllun artistig ar y cyd a, diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, gallwn nawr ddechrau’r broses gyffrous o gynnig cyfleoedd newydd i artistiaid yng Nghymru, yn enwedig rheiny sydd wedi profi rhwystrau oherwydd achosion fel cefndir dosbarth, ethnigrwydd, anabledd a/neu caledi economaidd.”
- Bridget Keehan, Cyfarwyddwr Artistig Sylfaenol a Chyd-Gyfarwyddwr Creadigol

“Mae’n gyffrous iawn i mi fod yn ymuno â Papertrail fel Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol. Fel rhywun sydd yn Fyddar ac sydd wedi wynebu rhwystrau, yn arbennig yn y celfyddydau, teimlaf fod hwn yn amser cyffrous i ddatblygu mynediad creadigol yn y celfyddydau. Rydym eisiau ymestyn allan i artistiaid eraill sydd wedi profi rhwystrau, artistiaid Byddar, Anabl, Niwrowahanol sydd â’r llais anhygoel hwn ond na chafodd gyfle i’w ddefnyddio. Ar ôl cael y profiad o fod yn Artist Cyswllt gyda Papertrail a’r cyfle a roddodd i fi, mae’n wych medru cynnig cyfle datblygu tebyg i eraill.”
- Jonny Cotsen, Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol Papertrail

Bydd Papertrail yn ehangu’r cwmni dros y flwyddyn nesaf, gan greu dwy swydd ran-amser newydd, Cynhyrchydd Creadigol a Rheolwr Cyffredinol, ac yn penodi mwy o wirfoddolwyr i gefnogi twf y cwmni. Bydd hefyd yn recriwtio dau Artist Cyswllt i weithio wrth ochr Cyd-Gyfarwyddwyr y cwmni fel rhan o raglen mentora.

Ynghyd ag ehangu’r cwmni, bydd Papertrail yn parhau i wneud cynyrchiadau ysgogol  sy’n torri tir newydd. Mae cynlluniau creadigol yn cynnwys sioe newydd a gafodd ei chreu gan Jonny Cotsen a Bridget Keehan, ‘Moses, Grobbelaar and Me’, a thaith o gynhyrchiad diweddaraf y cwmni, A Visit, yn dilyn ei berfformiadau llwyddiannus iawn ym Mhontypridd. Bydd Papertrail hefyd yn datblygu rhaglen hyfforddiant beilot mewn sgiliau llwyfan ar gyfer dehonglwyr BSL a Mynediad Creadigol ar gyfer Cyfarwyddwyr Llwyfan mewn partneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

“Rydym eisiau bod ar flaen y gad wrth ddatblygu mynediad creadigol ac i fynediad gael ei integreiddio gymaint fel ei bod bron yn gudd ac yn cael ei wneud mewn ffordd hardd. Rydym eisiau ysbrydoli sefydliadau ac artistiaid eraill i fod yn gyffrous am estheteg mynediad.”
- Jonny Cotsen, Cyd-Gyfarwyddwr Creadigol, Papertrail.

Dywedodd Suzanne Carter, Cadeirydd Papertrail: “Mae dyfodol y cwmni a sut y gallwn greu theatr cynhwysol a rhannu hynny gyda mwy o gynulleidfaoedd yn gyffrous iawn. Mae gan Papertrail hanes anhygoel o gynhyrchu theatr dewr, safon uchel mewn partneriaeth gyda chyrff trydydd sector tebyg i Gyngor Ffoaduriaid Cymru a Gwasanaeth Prawf Cymru. Hyd yma mae’r cwmni wedi llwyfannu straeon am bobl yn ceisio lloches, creu taith fws farddol drwy strydoedd y Barri a gwahodd cynulleidfaoedd i bryd o fwyd ym mwyty Clink yng ngharchar Caerdydd i glywed straeon gan bobl sy’n gadael carchar, a’u gobeithion am ddyfodol gwahanol. Yn fwy diweddar cynhyrchodd y cwmni A Visit gan Siân Owen, mewn cysylltiad â Clean Break. Roedd y ddrama afaelgar hon yn dangos effaith y system carchardai ar deuluoedd carcharorion, yn arbennig plant. Bydd y bennod newydd hon yng ngwaith Papertrail yn cefnogi’r hyn sydd ei angen nawr yn y celfyddydau ac yng Nghymru.  Rydym yn falch iawn bod Jonny Cotsen yn cymryd y swydd allweddol hon gyda’r cwmni ac y bydd yn gweithio gyda ni i gyflawni profiadau theatr hynod a chynhwysol ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.”