Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal cyfarfod misol ar gyfer artistiaid, busnesau a gweithwyr llawrydd creadigol, o'r enw 'Paned i Ysbrydoli'. Bydd y digwyddiadau anffurfiol hon yn dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd ar gyfer y tair elfen hollbwysig - cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.
Ymunwch â ni am gyfle i gwrdd, cysylltu a dysgu oddi wrth bobl greadigol eraill sy'n siarad Cymraeg, p'un a ydych chi newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau. Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs, tebyg i sgwrs 'TED-talk', ar thema sy’n berthnasol ar draws yr holl sectorau creadigol, ac yna awr anffurfiol i eistedd i lawr, sgwrsio a bwyta cacen! Mae'r rhain yn gyfleoedd anffurfiol i gwrdd â phobl greadigol eraill a rhannu cyfleoedd, heb rwydweithio ffurfiol.
Paned i Ysbrydoli ar gyfer Wythnos Ffrinj Tafwyl: Pwy sy'n ofni TikTok?
Ar gyfer Wythnos Ffrinj Tafwyl, bydd y crëwr cynnwys Ellis Lloyd Jones yn ymuno â ni, ar gyfer y Paned i Ysbrydoli arbennig hon.
Mae Ellis, a raddiodd o Brifysgol Caerdydd, yn grëwr cynnwys TikTok, Drag Queen, dylanwadwr, podledwr a chyflwynydd o Gymoedd y Rhondda. Mae’n creu cynnwys doniol a chyfnewidiadwy ar ei TikTok lle mae ganddo 210K o ddilynwyr ac mae hefyd wedi gweithio gyda Hansh a BBC Sesh, ac wedi cydweithio â chwmnïau fel Netflix, Channel 4, Gay Times, Wales.com ac yn creu cynnwys rheolaidd ar gyfer Llywodraeth Cymru. Yn 2021, roedd hefyd ar restr fer Tiktoker y flwyddyn 2021 Blogosphere.
Dywed Ellis: "Rwyf wedi bod ar TikTok ers 5 mlynedd bellach ac wedi llwyddo i gael fy mhen o amgylch labyrinth TikTok y maent yn ei alw'n algorithm. Mae fy nghynnwys yn cynnwys cymeriadau, sgetsh a'r fideo achlysurol ohonof yn pigo sticeri afal allan o fy nghlustiau."
Bydd Ellis yn traddodi sgwrs 20 munud ar sut i greu cynnwys ar y platfform a bydd yn ateb eich cwestiynau.