Mae gan orielau a sefydliadau celf yng Nghymru fynediad bellach i fenter Ein Celf, sef rhaglen sy’n rhychwantu’r DU gyfan gyda’r nod penodol o wneud celf a chrefft cyfoes yn fforddiadwy. Mae ganddo enw Cymraeg (Ein Celf) ac enw Saesneg (Own Art) yng Nghymru a chynllun yw hwn sy’n derbyn cymhorthdal cyhoeddus drwy gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd yn cynnig benthyciadau di-log ar gyfer prynu gweithiau celf gwreiddiol, ac mae’n olynu’r cynllun benthyciadau hirsefydlog Cynllun
Casglu, sydd wedi hwyluso dros 40,000 o drafodion prynu celf yn llwyddiannus ers i Gyngor Celfyddydau Cymru ei sefydlu ym 1983.
Mae Ein Celf, sy’n cael ei weithredu gan Creative United mewn partneriaeth â chwmni cyllid Novuna Consumer Finance, yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 eleni. Mae’r garreg filltir hon yn cyd-daro ag amseru ymestyn y gwasanaeth i orielau yng Nghymru am y tro cyntaf, o dan gytundeb partneriaeth newydd â Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae dros 300 o orielau ar hyd a lled Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon eisoes yn cymryd rhan yn y cynllun, diolch i nawdd Cyngor Celfyddydau Lloegr, Yr Alban Greadigol a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.
Rhwydwaith ar hyd y wlad a system gwbl ddigidol
Drwy Ein Celf, gall orielau Cymru bellach gyrraedd cynulleidfa lawer ehangach o brynwyr celf drwy gael mynediad i rwydwaith y cynllun sy’n rhychwantu’r DU gyfan. Byddant yn derbyn cymorth marchnata am ddim er mwyn tyfu ac arallgyfeirio’u sail gwsmeriaid, ac yn elwa hefyd ar arbenigedd cynllun cyllido Novuna, ynghyd â’i wybodaeth o’r diwydiant a’r bartneriaeth hirsefydlog sydd ar waith.
Elfen allweddol a gyflwynwyd gan Ein Celf yng Nghymru yw’r system gwbl ddigidol i brosesu’r benthyciadau, gan symleiddio’r profiad i orielau a phrynwyr celf fel ei gilydd, drwy hwyluso’r broses o drefnu benthyciadau.
Sefydliadau amrywiol ar draws Cymru
Mae rhwydwaith y Cynllun Casglu yn adlewyrchu tapestri diwylliannol cyfoethog Cymru, sydd ag ystod amrywiol o dros 60 o orielau a sefydliadau, y mae nifer ohonynt eisoes wedi cwblhau’r camau trosglwyddo i gynllun Ein Celf. Disgwylir i lawer mwy ddilyn yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
O ofodau celf gyfoes fel Oriel TEN yng Nghaerdydd, sy’n arddangos gweithiau gan artistiaid sefydlog o Gymru a rhai sy’n dod i’r amlwg, i ganolfannau celf fel Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog, un o leoliadau celf hynaf Cymru sy’n hwb creadigol hanfodol i’r gymuned, mae Ein Celf yn cynnig y cyfle i brynu gweithiau celf a chrefft gwreiddiol gan artistiaid o Gymru a thu hwnt. Ymhlith yr orielau eraill sy’n symud i gynllun Ein Celf mae Oriel King Street yng Nghaerfyrddin sy’n cael ei harwain gan artistiaid, ynghyd ag Oriel Ffin y Parc yn Llandudno, lle mae arddangosfeydd deinamig sy’n arddangos rhai o fawrion celf gyfoes Cymru ochr yn ochr â gweithiau celf eithriadol o’r ugeinfed ganrif.
Dros 300 o orielau ar draws y DU
Ers ei lansio yn 2004, mae Ein Celf wedi darparu dros 80,000 o fenthyciadau drwy rwydwaith o dros 300 o orielau, ffeiriau celf a sefydliadau sy’n cael eu harwain gan artistiaid ar draws y DU, gan helpu mwy na 50,000 o brynwyr celf i brynu gweithiau gan artistiaid sefydlog ac artistiaid sy’n dod i’r amlwg, tra’n cefnogi sector celf weledol bywiog y DU gyda gwerth dros £79 miliwn o werthiannau.
Nododd arolygon ymysg defnyddwyr y cynllun a gynhaliwyd gan Novuna ei bod yn fwriad gan 91% o ddefnyddwyr brynu mwy o gelf o ganlyniad i’w profiad, gyda 7 o bob 10 cwsmer yn dweud na fyddent wedi prynu’r gwaith celf pe na bai’r cynllun wedi bod ar gael.
Dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Ers ei lansio ym 1983, mae’r Cynllun Casglu wedi bod yn fenter arloesol o ran ymestyn mynediad i gelf
yng Nghymru drwy gynnig ffordd syml o brynu gweithiau celf mewn rhandaliadau di-log.
Drwy ymuno â rhwydwaith Ein Celf ar draws y DU, a lansio Ein Celf yma yng Nghymru,
rydym yn cynnig hyd yn oed fwy o gyfleoedd i orielau ac artistiaid yng Nghymru godi eu
proffil a chysylltu â phobl o bob man sy’n caru celf.”
Dywedodd Mary-Alice Stack, Prif Weithredwr Creative United:
“Rydym wrth ein bodd yn croesawu orielau Cymru i rwydwaith Ein Celf am y tro cyntaf yr hydref hwn, gan
adeiladu ar waddol y Cynllun Casglu. Wrth i ni ymestyn y gwasanaeth i Gymru, ein nod yw darparu hyd yn oed fwy o gyfleoedd i bobl sy’n caru celf gysylltu ag artistiaid ac orielau. Mae’r estyniad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i sbarduno’r economi greadigol drwy wneud celf yn fforddiadwy i gynulleidfaoedd ehangach ym mhob cwr o’r DU.”
Cefnogir Ein Celf / Own Art gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a’r Loteri Genedlaethol drwy Yr Alban Greadigol. Mae’r cynllun yn cynnig y cyfle i gwsmeriaid brynu gwaith celf gwreiddiol a lledaenu’r gost dros 10 mis gyda budd benthyciad di-log.