10yb-2.00yp

Rhagfyr 8

The Place Casnewydd

10 Bridge Street #9 Casnewydd NP20 4AL

Gyrfaoedd allan o’r bocs mewn cerddoriaeth – ymunwch ag Operasonic i glywed gan ystod o weithwyr proffesiynol cerddoriaeth ac archwiliwch lwybrau i yrfaoedd sy’n cynnwys cerddoriaeth na fyddech efallai wedi meddwl amdanynt! Bydd y diwrnod yn cynnwys sesiynau blasu a thrafodaeth panel, gan gynnwys cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y diwydiant gemau, cerddoriaeth ar gyfer ffilm a theledu a llawer mwy.  

Mae Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect aml-randdeiliad a arweinir gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. Mae’n gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu rhwydweithiau a gweithgareddau creadigol ar lawr gwlad.

Archebwch docynnau