• Trysorau o Gasgliad Opera Rara Foyle yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf
  • Perfformiadau gydag artistiaid sy’n dod i’r amlwg: y mezzo-soprano Kezia Bienek a’r tenor Julian Henao Gonzalez mewn datganiadau gyda’r pianydd James Southall 

ARDDANGOSFA: Dydd Sadwrn 10 – Dydd Sul 18 Mehefin 2023, Ystafell Opera Rara Foyle, Adeilad Raymond Edwards
TEITHIAU TYWYS: Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14 a Dydd Iau 15 Mehefin 2023 am 12.15pm, 2.30pm a 3.15pm
CYNGHERDDAU YN YSTOD AMSER CINIO: Dydd Mawrth 13 a Dydd Mercher 14 Mehefin 2023 am 1.15pm, Neuadd Dora Stoutzker

Mae’r bartneriaeth barhaus rhwng Opera Rara Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru [RWCMD] yn taro nodyn newydd ym mis Mehefin gydag arddangosfa sy’n ymchwilio i Gasgliad Opera Rara Foyle. Dyma un o’r casgliadau gorau o lawysgrifau, llythyrau a phethau cofiadwy sy’n ymwneud â’r opera bel canto Eidalaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg (10-18 Mehefin). Bydd dau gyngerdd yn ystod amser cinio gan y mezzo-soprano Kezia Bienek (13 Mehefin), y tenor Julian Henao Gonzalez (14 Mehefin) a’r pianydd James Southall, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Dros Dro yn Ysgol Opera David Seligman, RWCMD, a fydd yn cynnwys fersiynau wedi’u hadfer o ganeuon Donizetti o’r casgliad. Mae’r cyngherddau a’r arddangosfa yn rhan o raglen RWCMD o ddigwyddiadau ymylol i gyd-fynd â chystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd.

Meddai Henry Little, Prif Weithredwr Opera Rara: “Mae Opera Rara yn ffynnu oherwydd ein partneriaethau. Ar ôl symud ein harchif i’r Coleg yn 2018, lle mae bellach yn rhan o Gasgliad Opera Rara Foyle, rydyn ni wedi dal ati i ganfod cysylltiadau rhwng ein dau sefydliad. Boed hynny wrth gyflwyno cynfyfyrwyr y Coleg yn ein cyfresi o gyngherddau clyd (“salon concerts”) neu yn ein prosiectau recordio – lle byddan nhw’n cael recordio mewn stiwdio am y tro cyntaf – neu drwy ganfod ffyrdd newydd o hyrwyddo’r Casgliad, fel rydyn ni’n ei wneud gyda digwyddiadau ymylol BBC Canwr y Byd Caerdydd, rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Coleg i gynnig cyfleoedd unigryw ac arbennig i’w fyfyrwyr.”

Ychwanegodd Tim Rhys-Evans MBE, Cyfarwyddwr Cerdd RWCMD: “Mae’r bartneriaeth rhwng RWCMD ac Opera Rara yn arbennig iawn oherwydd bod sawl haen iddi ac mae’n ystyrlon. Mae’r ffaith bod Casgliad Opera Rara Foyle yma yn y Coleg yn golygu bod ein staff, ein myfyrwyr a’r gymuned ehangach yn gallu cael mynediad at ddeunydd gwreiddiol anhygoel o gyfnod mor bwysig yn hanes opera. Mae nifer o’n myfyrwyr wedi mynd ymlaen i ganu mewn perfformiadau Opera Rara ac ar recordiadau Opera Rara, gan ddatgelu trysorau opera a oedd wedi'u hen anghofio a chyflwyno gwaith o'r ansawdd gorau gyda'n Cadeirydd Rhyngwladol mewn Arwain a Chyfarwyddwr Artistig Opera Rara, Carlo Rizzi.

Datblygodd y bartneriaeth eleni, ac ymunodd Prif Weithredwr Opera Rara, Henry Little â’r panel ar gyfer Gwobr Opera Janet Price RWCMD, sy’n dathlu opera bel canto. Eleni, bydd yr enillydd yn cael cynnig datganiad Opera Rara mewn lleoliad yn Llundain.  Yn olaf, am y tro cyntaf y flwyddyn hon, fel rhan o raglen ddigwyddiadau Canwr y Byd Caerdydd, bydd Opera Rara yn cyflwyno dau ddatganiad yn RWCMD, i ddathlu trysorau newydd bel canto. Mae’r bartneriaeth rhwng Opera Rara a RWCMD yn golygu bod ein myfyrwyr yn cael cyfleoedd gwych, mae ein cynfyfyrwyr yn cael datblygu eu gyrfaoedd ac mae’n ffordd wych o ddenu myfyrwyr i ymuno ag Ysgol Opera David Seligman.”

Mae’r digwyddiadau yn taflu goleuni ar y berthynas rhwng y Coleg ac Opera Rara, a ddechreuodd pan brynwyd Casgliad Opera Rara Foyle yn 2018 – sydd bellach yn rhan ganolog o gasgliadau arbenigol y coleg – ac mae wedi parhau gyda ffocws ar Opera Rara yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol i fyfyrwyr a chynfyfyrwyr Ysgol Opera David Seligman. Mae’r rhain yn cynnwys y cyfle i weithio ochr yn ochr â rhai o gantorion bel canto gorau’r byd ar y llwyfan ac mewn stiwdio recordio; ymddangosodd cynfyfyrwyr RWCMD, y bariton Lluís Calvet i Pey a’r tenor André Henriques am y tro cyntaf ym mherfformiad a recordiad diweddar Opera Rara o L’esule di Roma gan Donizetti. Bydd cynfyfyrwyr RWCMD yn parhau i ymddangos ym mhrif berfformiadau Opera Rara yn y tymhorau nesaf hefyd. Cyflwynir enillydd Gwobr Janet Price yn RWCMD (a enwyd ar ôl y soprano wych o Gymru a ymddangosodd ar recordiad cyntaf erioed Opera Rara*) mewn datganiad sy’n rhan o gyfres o gyngherddau clyd Opera Rara. Bydd enillydd y wobr yn 2020, y soprano Elena Zamudio, yn cyflwyno datganiad mewn cyngerdd clyd gyda’r pianydd James Southall ym mis Tachwedd eleni).

Mae’r bartneriaeth agos hefyd yn parhau drwy’r arweinydd Carlo Rizzi, sy’n Gadeirydd Rhyngwladol mewn Arwain yn RWCMD yn ogystal ag yn Gyfarwyddwr Artistig Opera Rara. Dywed: “Mae’r bartneriaeth rhwng Opera Rara a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn agos iawn at fy nghalon. Yn rhinwedd fy rôl fel Cyfarwyddwr Artistig Opera Rara a Chadeirydd Rhyngwladol y Coleg mewn Arwain, rwy’n gallu gweld drosof fy hun pa effaith mae hyn yn ei chael ar fyfyrwyr, p’un ai ydyn nhw’n archwilio Casgliad Opera Rara Foyle i geisio dod o hyd i weithiau newydd a phrin i’w perfformio, yn gweld llawysgrif wreiddiol cyfansoddwr o fri neu’n paratoi ar gyfer eu bywyd fel cerddor proffesiynol yn y diwydiant. Gyda’r Casgliad yn y Coleg, rydyn ni’n gobeithio y bydd y bartneriaeth hon, dros amser, yn gwella’r addysg o safon fyd-eang i’r myfyrwyr ac yn parhau i gynnig cyfleoedd proffesiynol i'r cynfyfyrwyr.” 

* Ugo, conte di Parigi gan Donizetti

ARDDANGOSFA

Dydd Sadwrn 10 – Dydd Sul 18 Mehefin 2023, Ystafell Opera Rara Foyle, Adeilad Raymond Edwards
TEITHIAU TYWYS: Dydd Mawrth 13, Dydd Mercher 14 a Dydd Iau 15 Mehefin 2023 am 12.15pm, 2.30pm a 3.15pm

Yn ystod y flwyddyn pan fydd Opera Rara yn dathlu 225 mlynedd ers geni Donizetti, mae rhan amlwg i'r cyfansoddwr yn arddangosfa gyhoeddus gyntaf RWCMD o Gasgliad Opera Rara Foyle, gyda llythyrau a llawysgrifau wedi’u llofnodi gan y cyfansoddwr. Mae’r llawysgrifau sydd wedi’u llofnodi yn taflu goleuni ar broses greadigol Donizetti, gan ddatgelu sut roedd prentisiaid yn gweithio ochr yn ochr ag ef a sut roedd adolygu ac ailysgrifennu yn rhan o’i ymarfer cerddorol. Mae’r sioe yn cynnwys yr unig lawysgrif y gwyddom sydd wedi’i llofnodi gan Donizetti, o ddiweddglo amgen diddorol ar gyfer yr opera olaf a lwyfannwyd yn ystod ei oes, sef Caterina Cornaro, a ysgrifennwyd yn dilyn y croeso gwan a gafodd y gwaith pan gafodd ei berfformio am y tro cyntaf yn Napoli yn 1844.

Mae’r arddangosfa hefyd yn rhoi sylw i’r gymuned operatig ehangach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a bywydau ac arferion creadigol y cerddorion dylanwadol, yn eu geiriau eu hunain. Mae detholiad o lythyrau (o’r cannoedd sydd yn y Casgliad) yn cael eu harddangos yn gyhoeddus am y tro cynaf. Llythyrau rhwng cyfansoddwyr a libretwyr, a chyfansoddwyr a chyhoeddwyr – ochr yn ochr â charicaturau dyfrlliw o’r cyfnod gan yr artist, Frederick Chalon (a oedd yn un o ffefrynnau’r Frenhines Victoria). Gobaith prosiect ymchwil parhaus yn RWCMD yw darganfod a chyflwyno’r straeon y tu ôl i’r llythyrau hyn. Mae’r arddangosfa hefyd yn amlinellu hanes Casgliad Opera Rara Foyle yn RWCMD, rhywfaint o’r gwaith diddorol o warchod papurau a gyflawnwyd ar eitemau allweddol a’r ffyrdd y mae myfyrwyr ac academyddion yn defnyddio’r gwaith mewn perfformiadau ac astudiaethau. Bydd Judith Dray, Pennaeth Gwasanaethau Llyfrgell RWCMD, yn arwain teithiau, dros gyfnod o dri diwrnod, o amgylch yr arddangosfa mewn ystafell bwrpasol ar gyfer Casgliad Opera Rara Foyle yn Adeilad Raymond Edwards RWCMD (13-15 Mehefin).

 

GAIR AM GASGLIAD OPERA RARA FOYLE

Mae Casgliad Opera Rara Foyle yn rhan ganolog o gasgliadau arbennig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac mae modd i unrhyw un gael ei weld, a hynny am ddim. Mae'r casgliad yn adlewyrchu diddordebau Patric Schmid a Don White a sefydlodd Opera Rara yn 1970. Mae’n canolbwyntio ar y traddodiad bel canto o’r Eidal ac yn cynnwys cyfoeth o ddeunyddiau sy’n taflu goleuni unigryw ar gynhyrchu opera yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’n cynnwys casgliad helaeth o lawysgrifau operatig – nifer yn llawysgrifen y cyfansoddwyr eu hunain, sgorau operâu cyntaf a chynnar o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, llythyrau wedi’u hysgrifennu gan gyfansoddwyr a chantorion, a detholiad mawr o adnoddau o’r archifau sy’n ymwneud ag operâu, fel lluniau, cardiau post, rhaglenni, dyluniadau gwisgoedd a thoriadau papur newydd.

Sylfaenwyr Opera Rara sydd wedi casglu’r rhan fwyaf o’r eitemau ar gyfer y casgliad, drwy chwilota mewn siopau cerddoriaeth a siopau llyfrau am eitemau diddorol ar eu taith drwy Ewrop. Oherwydd hyn, mae’r casgliad yn amrywiol iawn. Mae’n cynnwys: sgorau cynnar a chyntaf o operâu o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; llawysgrifau wedi’u llofnodi yn llawysgrifen Donizetti, Mercadante, Mayr, Pacini ac eraill; copïau cynnar o lawysgrifau o sgorau llawn a rhai unigol; llythyrau wedi’u hysgrifennu yn llawysgrifen cyfansoddwyr a chantorion o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg; libretti cynnar; gwaith celf yn ymwneud ag operâu; pethau cofiadwy eraill sy’n berthnasol i operâu; archifau Opera Rara ei hun, gan gynnwys dyluniadau a sgorau perfformio.

Daeth Casgliad Opera Rara, sef Casgliad Opera Rara Foyle bellach, i feddiant Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru diolch i grant sylweddol gan Sefydliad Foyle. Roedd Sefydliad Foyle, yn garedig iawn, wedi talu am symud y casgliad a chyflogi archifydd ar gyfer blwyddyn gyntaf y casgliad yng Nghaerdydd hefyd. Mae RWCMD hefyd yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, sydd wedi talu am waith ar y Casgliad, gan gynnwys storio, catalogio a gofalu am y casgliad, yn ogystal â chyflogi archifydd am flwyddyn arall. Mae llawysgrifau o’r Casgliad wedi cael eu gwarchod diolch i grant gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer lluniau cliciwch yma.

 

CYNGHERDDAU OPERA RARA YN YSTOD AMSER CINIO YN NEUADD DORA STOUTZKER

Dydd Mawrth 13 Mehefin am 1.15pm: Kezia Bienek a James Southall
Dydd Mercher 14 Mehefin am 1.15pm: Julian Henao Gonzalez a James Southall
TOCYNNAU: £10-£12

Fel rhan o BBC Canwr y Byd Caerdydd, bydd dau gyngerdd Opera Rara yn ystod amser cinio yn cynnwys artistiaid sy’n dod i’r amlwg. Y mezzo-soprano Kezia Bienek (a fu’n canu rôl Leontina ym mherfformiad a recordiad Opera Rara o L’esule di Roma yn ddiweddar) a’r tenor Julian Henao Gonzalez, a fydd yn perfformio am y tro cyntaf gydag Opera Rara, gyda’r pianydd James Southall, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth Dros Dro Ysgol Opera David Seligman yn RWCMD. Bydd y datganiadau’n cynnwys trysorau newydd bel canto o Gasgliad Opera Rara Foyle, wedi’u curadu a’u cyflwyno gan ymgynghorydd cerddoriaeth Opera Rara Roger Parker. Yn ogystal â hyn, bydd y datganiadau’n cynnwys caneuon a detholiadau operatig gan Donizetti a’i gydoeswyr gan gynnwys Bellini, Rossini a Verdi, gan gymysgu repertoire cyfarwydd iawn â chaneuon llai adnabyddus o’r archifau. Bydd y ddau ganwr yn ymddangos yng Nghyfres o Ddatganiadau Clyd Opera Rara yn Llundain yn nes ymlaen eleni: Julian Henao Gonzalez gyda’r pianydd Anna Tilbrook ar 21 Mehefin, a Kezia Bienek gyda James Southall ar 5 Hydref.

RHAGLENNI

Dydd Mawrth 13 Mehefin | 1.15pm
Kezia Bienekmezzo-soprano
James Southall, piano

Bei labbri gan Gaetano Donizetti
Che non mi disse gan Gaetano Donizetti
Occhio nero gan Gaetano Donizetti
Sull’onda gan Gaetano Donizetti
La conocchia gan Gaetano Donizetti
La Fiancée gan Gaetano Donizetti
Ne me plaignis pas gan Gaetano Donizetti
La folle gan Saverio Mercadante
La primavera gan Saverio Mercadante
La folle gan Gaetano Donizetti
“Cruda sorte” o L’italiana in Algeri gan Gioachino Rossini

Dydd Mercher 14 Mehefin | 1.15pm
Julian Henao Gonzaleztenor
James Southall, piano

Odi Elisa: questa è l’ora gan Gaetano Donizetti
Mi lagnerò tacendo gan Gioachino Rossini
Sovra il remo sta curvando gan Gaetano Donizetti
“Fra poco a me ricovero” o Lucia di Lammermoor gan Gaetano Donizetti
Vanne o rosa gan Vincenzo Bellini
D’ogni più sacro impegno”, o L’occasione fa il ladro gan Gioachino Rossini
Morte! Et pourtant hier gan Gaetano Donizetti
Oh! ne me chasse pas gan Gaetano Donizetti
Il tramonto gan Giuseppe Verdi
“Una furtiva lagrima” o L’elisir d’amore gan Gaetano Donizetti