O grombil y Mabinogi, mae OLION yn ail-ddychmygiad cyfoes o chwedl Arianrhod, sydd yn cael ei gyflwyno fel sioe theatr lwyfan, theatr byw awyr agored ar strydoedd Bangor, a ffilm fer ddigidol.
Dan arweiniad creadigol Angharad Elen, Anthony Matsena, Marc Rees a Gethin Evans, mae OLION yn argoeli i roi profiad hollol newydd i gynulleidfaoedd tra’n parhau i gael ei wreiddio mewn traddodiad llenyddol Cymraeg.
Gyda’r ymarferion yn cychwyn mewn ychydig wythnosau, mae Gethin Evans yn rhannu’r weledigaeth greadigol sy’n archwilio’r dewrder o fod yn ‘wahanol’ mewn byd anfaddeuol.
O le ddaeth ysbrydoliaeth OLION?
Doedd ‘na dim union ddyddiad cychwyn – wnaethon ni ddim mynd ‘dyma sioe nesaf Frân Wen’.
Dechreuodd ein partneriaeth gyda GISDA a phrosiect Nabod ddwy flynedd yn ôl. Fe wnaeth y bobl ifanc sy’n rhan o’r prosiect lunio stori, naratif a chymeriadau dros 18 mis oedd yn dilyn thema eithaf penodol.
Ar yr un pryd, roeddwn yn cael sgyrsiau gydag artistiaid amrywiol am bethau roedden nhw’n dyheu amdanyn nhw o ran prosesau creadigol - graddfa, uchelgais, cyd-greu, a chyfleoedd i weithio mewn ffyrdd newydd. Ac felly dyna ddechreuad OLION, gyda'r weledigaeth o gynnig rhywbeth gwahanol i artistiaid a chynulleidfaoedd.
Sut fyddech chi'n crynhoi OLION?
Mae'n brosiect eithaf mawr i gael eich pen o’i gwmpas o fewn 10 munud. Ond dyna fy ngwaith i am wn i, i gyfathrebu hyn mewn ffordd syml iawn.
Mae’n stori sy’n cael ei hadrodd mewn tair rhan sy’n archwilio’r syniad a’r teimlad o fod yn wahanol yn y byd hwn.
A phan rydych chi'n ofni sut y mae’r byd yn eich trin oherwydd pwy ydych chi, a yw'n well aros yn y cysgodion neu sefyll yng ngolau dydd a datgan 'Dw i yma a dydw i ddim am guddio'?
Mae’r rhan gyntaf yn debyg i chwedl epig Roegaidd sy’n cychwyn yn nyfnderoedd y Mabinogi a stori Arianrhod.
Mae’r ail yn gweld disgynyddion Arianrhod, cymuned sy’n cuddio, yn dod i’n byd ni heddiw ac yn gofyn i’n cynulleidfa ystyried sut y bydden nhw’n eu croesawu a’u trin.
Bydd y drydedd rhan yn cymryd y digwyddiadau epig yma a'u gosod mewn un cartref ym Mangor; nid yn ein chwedlau yn unig y mae'r straeon hyn yn bodoli, maent yn bodoli heddiw yn ein byd ni.
Beth fydd naws y cynhyrchiad?
Mi faswn i’n ei ddisgrifio fel antur seicedelig, ‘sucker punch’ emosiynol a lot o hwyl. Yn weledol, rydyn ni’n gwrthdaro rhwng yr organig a’r diwydiannol ac rydw i eisiau i gynulleidfaoedd adael wedi teimlo gwefr. Mi fydden nhw angen amser i brosesu a thrafod, ond yn teimlo bod rhywbeth trydanol am y profiad o gyfuno symudiad, cerddoriaeth, dylunio a geiriau cyfoethog.
RHAN I: ARIANRHOD [20 - 28 MEDI 2024]
RHAN II: YR ISFYD [28 MEDI 2024]
RHAN III: Y FAM [HYDREF 2024]