Yr Hydref hwn, mi fydd cenedlaethau'n uno yn Y Neuadd Les, Ystradgynlais, mewn prosiect newydd pwerus sy'n cyfuno celf, cof ac ymgyrchedd. Gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, nod y fenter yw cynnal lleisiau o'r gorffennol a mwyngloddio yn Ne Cymru - trwy adrodd straeon digidol a chreu baneri dan arweiniad cymunedol - cyn iddynt gael eu colli am byth gyda threigl amser.
Prosiect cymunedol uchelgeisiol yw “Celf a Gweithredaeth yn y Meysydd Glo” sy'n nodi 40 mlynedd ers diwedd Streic y Glowyr 1984-85, cyfnod a ail-luniodd gymunedau Cwm Tawe a'r meysydd glo ledled De Cymru. Mae hefyd yn nodi dros 50 mlynedd ers streic 1974, a 91 mlynedd ers agor y Neuadd Les ei hun - adeiladwyd ym 1934 gyda cheiniogau'r glowyr eu hunain. Gyda llawer o'r rhai a oroesodd y digwyddiadau allweddol hyn bellach yn eu 70au, 80au a mwy, mae'r angen i gofnodi a chadw eu straeon yn bwysicach nag erioed.
Wrth wraidd y prosiect mae gweithdai ymarferol dan arweiniad artistiaid cymunedol lleol gan gynnwys Cerian Wilshere a Rhiannon Rees. Gydag ysbrydoliaeth yn deillio o faneri glofeydd gwreiddiol a gedwir gan Lyfrgell Glowyr De Cymru, bydd pobl ifanc yn archwilio iaith weledol protest ac undod, gan ddysgu am y rhan chwaraeodd celf yn ystod y streiciau ac yn defnyddio pwytho, defnyddiau a dychymyg i wyntyllu achosion sydd o bwys iddyn nhw heddiw.
Yn y cyfamser, bydd Screen Alliance Wales a'r gwneuthurwr ffilmiau Ryan Evans yn arwain pobl ifanc trwy'r broses o adrodd straeon yn ddigidol a chreu ffilmiau dogfen. Yn gweithio gyda dau glwb ieuenctid lleol, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i gyfweld, ffilmio ac archifo straeon gan bobl hŷn yn eu cymunedau - gan gynnwys siarad â thrigolion cartrefi gofal lleol nad yw eu hatgofion o lo, streiciau ac ymgyrchu erioed wedi cael eu cofnodi'n ffurfiol.
Mae'r prosiectau hyn yn rhan o Deffro'r Hydref/Autumn Rising, rhaglen dymhorol ehangach o ddigwyddiadau yn Y Neuadd Les. Ochr yn ochr â'r gweithdai creadigol a gwaith archif cymunedol, bydd y lleoliad yn cynnal Twmpath, dawns werin draddodiadol (Y Silwriaid, Hydref 24ain), elfennau o arddangosfa Streic! Amgueddfa Cymru, yn ogystal â cherddoriaeth fyw gyda pherfformwyr gwadd o feysydd glo yn Ne Affrica (Zulu Tradition, Hydref 10fed) a Nashville, UDA (Willow Hill, Tachwedd 20fed). Bydd dangosiadau ffilm hefyd (Pouring Water on Troubled Oil, a Facing Up To The Fascists, Hydref 19eg) a thrafodaeth banel ar Amrywiaeth mewn Mwyngloddio (Hydref 15fed). Diolch i'r cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, bydd rhai digwyddiadau hefyd yn cael eu cyfieithu i Iaith Arwyddion Prydain/Saesneg.
Ychwanegodd Wynne Roberts, Cyfarwyddwr Y Neuadd Les:
“'Dyn ni'n falch o nodi dros 90 mlynedd ers agor Y Neuadd Les drwy edrych ymlaen yn ogystal ag edrych yn ôl. Crëwyd ein hadeilad fel mangre ar gyfer cyfoethogi cymunedol ac mae'r prosiect yma'n gam beiddgar tuag at gadw'r ysbryd hwnnw'n fyw ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”
Bydd y straeon a gasglwyd yn ystod y gweithdai yn ffurfio archif ddigidol ar wefan Y Neuadd Les ac a gedwir yn gorfforol yn Llyfrgell Glowyr De Cymru a thrwy Gasgliad y Werin Cymru. Croesewir cyfraniadau yn y Gymraeg, gan annog pobl ifanc i ddefnyddio'r iaith mewn sgyrsiau bob dydd y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth.
Yn ei hanfod, mae Celf a Gweithredaeth yn y Meysydd Glo yn dathlu'r bobl a'r diwylliant a adeiladodd Ystradgynlais a'i chymunedau cyfagos, nid trwy hiraeth, ond trwy weithredu. Mae'n cydnabod bod hanes cymunedau dosbarth gweithiol heb gael ei gofnodi'n ddigon aml ac mae'n ceisio newid hynny trwy greadigrwydd, rhannu sgiliau, a gweithred feiddgar o greu atgofion ar y cyd.
Anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn cael eu cyfweld, neu ysgolion lleol a grwpiau cymunedol sy'n awyddus i gymryd rhan yn y gweithdai, i gysylltu â'r Neuadd Les, neu ddod i'r sesiynau rhannu cymunedol ar 19eg a 23ain Hydref. Bydd dathliad terfynol o'r prosiect, gan gynnwys dangosiad o rhai o'r lluniau a gasglwyd ddydd Gwener 28ain Tachwedd, am 6pm.
Mae'r Neuadd Les yn ganolfan gymunedol fywiog sy'n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol ac artistig yn ogystal ag adloniant. Gyda ffocws ar gynhwysiant a hygyrchedd, mae Y Neuadd Les wedi ymrwymo i ddarparu croeso i bob cynulleidfa.