Daw carreg filltir bwysig ym myd theatr fis Tachwedd pan glywir y Gymraeg am y tro cyntaf erioed ar lwyfan yn Shakespeare's Globe.

Bydd Romeo a Juliet - cynhyrchiad newydd, dwyieithog o drasiedi oesol William Shakespeare, a gynhyrchwyd gan Theatr Cymru mewn cydweithrediad â Shakespeare's Globe - yn agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ar 29 Medi 2025, ac ar ôl taith pedair wythnos o amgylch Cymru caiff ei pherfformio yn y Sam Wanamaker Playhouse, gofod theatr dan do'r Globe, 4-8 Tachwedd 2025.

Hwn fydd ymddangosiad cyntaf Theatr Cymru yn y theatr eiconig yma yn Llundain.

Wedi'i pherfformio yn y Gymraeg a'r Saesneg a'i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly, bydd Romeo a Juliet yn plethu Saesneg gwreiddiol Shakespeare â chyfieithiad Cymraeg clodwiw J.T. Jones, gan bontio diwylliannau ac ieithoedd i greu persbectif ffres ar fydoedd rhanedig y Montagiws a'r Capiwlets ac archwiliad pwerus o wrthdaro, cysylltiad a hunaniaeth Cymru fodern.

Mi fydd Steffan Cennydd ac Isabella Colby Browne yn perfformio’r prif rannau, gyda chefnogaeth ensemble o berfformwyr Cymreig sy’n dod i’r amlwg a rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf.

Meddai Steffan Donnelly – Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru ac Artist Cyswllt yn Shakespeare's Globe: “Mae hwn yn garreg filltir arwyddocaol i’r iaith Gymraeg, i Theatr Cymru, i’r Globe ac i boblogrwydd a chreadigrwydd cynyddol theatr ddwyieithog. Mae’r rhan fwyaf o boblogaeth y byd yn siarad mwy nag un iaith, ac mae cymhlethdodau hunaniaeth ddeuol yn ffrâm berffaith ar gyfer drama glasurol Shakespeare am ddau deulu sy’n gwrthdaro. Rydym yn hynod falch ac yn gyffrous i rannu’r cynhyrchiad hwn gyda chynulleidfaoedd ar ddwy ochr y ffin.”

Bydd capsiynau dwyieithog agored ar gael drwy gydol y daith o gwmpas Cymru, yn ogystal â pherfformiad Iaith Arwyddion Prydain gyda'r dehonglydd Cathryn McShane yn Theatr y Sherman, Caerdydd, ar 1 Hydref 2025 a Disgrifiadau Sain Cymraeg gydag Eilir Gwyn ym mhob perfformiad yn Theatr y Sherman, Caerdydd. Bydd capsiynau caeedig ar gael yn y perfformiadau yn y Sam Wanamaker Playhouse drwy Sibrwd, sef ap mynediad at yr iaith Theatr Cymru.

Lleoliadau a Dyddiadau'r Daith

Theatr Sherman, Caerdydd
Rhagddangosiadau: 29 + 30 Medi 2025
01 - 03 Hydref 2025

Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
07 Hydref 2025

Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth
09 Hydref 2025

Pontio, Bangor
13 + 14 Hydref 2025

Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug
16 + 17 Hydref 2025

Ffwrnes, Llanelli
22 + 23 Hydref 2025

Sam Wanamaker Playhouse, Llundain
4 – 8 Tachwedd 2025