Yn dilyn blwyddyn o waith ymchwil i gynaladwyedd yng Nghymru fel rhan o Gymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol, mae Heledd wedi dyfeisio gwaith theatrig a pherfformiad promenâd o NON, sef dathliad o fam Dewi Sant, y fam ddaear, a’i ddysgodd i wneud y pethau bychain, i arafu, i fyfyrio, i rannu gweledigaeth dyner. Drwy rannu saith stori am y cnwd cywarch a chodi ymwybyddiaeth o gnydau bwyd a chynaliadwyedd Cymru’r Dyfodol, lles ac ymateb cadarnhaol i’r argyfwng hinsawdd, bydd Rhys Slade Jones yn portreadu NON, gydag elfennau symbolaidd o Theatr Noh (ffurf o ddrama ddawns glasurol o Japan), i gyplusu ac adrodd straeon am ddefnydd a phwysigrwydd cywarch ar hyd yr oesoedd: o 7 mil o flynyddoedd yn ôl i'r dyfodol. Bydd symudiadau a straeon pwrpasol a lliwgar am ffermwyr a phob un ohonom sy’n breuddwydio am fyd gwell yn y dyfodol. Wedi'i wisgo mewn gwisg theatrig syfrdanol, bydd NON yn arwain y dorf trwy daith o amgylch lleoliad tawel a gwyrddni coed. Perfformiad symbolaidd, myfyriol, emosiynol a phersonol, gyda delweddau trawiadol ac eiliadau hyfryd a fydd yn gofyn i’r gynulleidfa ystyried a myfyrio ar wneud y pethau bychain.
Pe bawn ni fel cenedl i gyd yn diffodd un peth ar ddiwrnod NON, sef Gwyl banc Cenedlaethol ar Fawrth y 1af, fe fyddai'r ystadegau yr impact amgylcheddol yn syfrdanol.
Mae Heledd eisioes wedi sicrhâu perfformaidau cyhoeddus ar gyfer eleni, gan gynnwys yn y Senedd, Caerdydd, Yr Eisteddfod ac yng Ngŵl Y Dyn Gwyrdd.
Mae angen cefnogaeth i gynllunio, creu a pherfformio y gwaith.
Fel cyfarwyddwr creadigol bydd Heledd Wyn yn artist gweledol, cyfarwyddwr a chynhyrchydd angerddol a phrofiadol sy’n creu straeon dramatig a chynnwys creadigol ar gyfer ffilm, arddangosfeydd a theledu. Mae hi wedi gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu ac o fewn y byd addysg, ac wedi ennill enw da am gyflwyno prosiectau o ansawdd.
Mae'r perfformiwr Rhys Slade-Jones yn pontio cabaret, perfformio a chrefft ac yn ymdrin â syniadau am le, hanes, a hunaniaeth.