Yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2016, dechreuodd Llywodraeth y DU y broses o ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE). Mae hyn i fod i ddigwydd ar 31 Hydref 2019.
Bydd ymadawiad y DU o’r UE yn achosi goblygiadau sylweddol i gyrff cyhoeddus Cymru a’r sefydliadau a’r gwasanaethau sy’n cael eu cefnogi ganddynt, yn ogystal â chwmnïau llawrydd a bach yn y sector diwylliannol. Bydd llawer o faterion yn cael eu rhannu’n ehangach ar draws y sector diwylliannol a threftadaeth. Ond mae rhai sy’n benodol i’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn parhau i fod wedi’i ymrwymo’n gadarn i waith rhyngwladol yn y celfyddydau. Byddwn yn parhau i gefnogi anghenion y sector mewn unrhyw berthynas Ewropeaidd newydd, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda’n chwaer-sefydliadau yng ngweddill y DU i hyrwyddo golwg cydlynol o’r materion sy’n effeithio’r sector.
Darllennwch y nodyn briffio yn llawn drwy glicio'r ddolen isod.
Fel y dywed y nodyn briffio:
"Mae Brexit yn berthnasol i chi.
.... os ydych chi’n…
• teithio, trafeilio neu weithio’n rhyngwladol
• cydweithio neu gyd-gynhyrchu gyda phartneriaid Ewropeaidd
• gwerthu nwyddau a gwasanaethau dramor
• mewnforio nwyddau a gwasanaethau i Gymru
• cyflogi neu roi gwaith ar gontract i ddinasyddion yr UE
• cael eich effeithio gan reoliadau rhyngwladol
• cynllunio i ddatblygu perthnasau rhyngwladol
… yna bydd materion ymarferol pwysig i chi eu hystyried."
Dolenni i ddigwyddiadau, ymatebion i ymgynghoriadau neu dystiolaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ar yr effaith posibl ar Brexit ar y celfyddydau yng Nghymru:
- Canlyniadau i’r arolwg i’r celfyddydau yng Nghymru a'r effaith bosibl o ganlyniad i adael yr UE gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Hydref 2016
- Adroddiad Brexit Ffederasiwn y Diwydiannau Creadigol, Hydref 2016
- The impact of Brexit on the creative industries, tourism and the digital single market, ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Tŷ'r Cyffredin, Hydref 2016
- Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol, gan Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Mawrth 2018
- Cyflwyniad Eluned Hâf ym Mhwyllgor Diwylliant ac Addysg Senedd Ewrop
- Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit, Llywodraeth Cymru, Mehefin 2018
- Ymchwiliad Is-bwyllgor Materion Cartref yr UE gan Dŷ'r Arglwyddi, Brexit: movement of people in the cultural sector, Gorffennaf 2018
- Paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido'r UE yng Nghymru pan fydd y DU yn gadael yr UE, gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Medi 2018
- Moving Beyond Brexit: Uniting the Cultural and Creative Sectors, Y Cyngor Prydeinig, Bozar, Sefydliad Diwylliannol Ewrop, Medi 2018
- Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Hydref 2018