Newyddion Cyffrous!
Fel 'da chi'n gwybod, cyn hir bydd Cwmni Theatr Bara Caws yn chwilio am Gyfarwyddwr Artistig newydd.
'Da ni'n edrych am rywun sy'n teimlo'n angerddol at gyfrannu i fyd y theatr yng Nghymru, ac fydd â diddordeb mawr yn ein helpu i lunio pennod nesaf taith gyffrous y cwmni arbennig yma.
Bydd y drefn ymgeisio swyddogol yn dechrau dros gyfnod yr Haf, ond yn y cyfamser os oes gan unrhyw un ddiddordeb yn y swydd, neu am ddod i wybod mwy am y Cwmni a sut yr ydym yn gweithredu, yna mae croeso i chi godi'r ffôn, taro e-bost neu alw mewn am sgwrs a phaned.
mari@theatrbaracaws.co.uk
01286 676