Mae Neuadd Ogwen ym Methesda yn cynnal gŵyl Mawr y Rhai Bychain ar 18 – 19 Hydref 2024, gan wahodd artistiaid, blaenoriaid ac arweinwyr cymunedol o Genhedloedd Brodorol Canada i berfformio ochr yn ochr ag artistiaid Cymreig.
Mewn cydweithrediad ag International Indigenous Music Summit, Canada Council for the Arts a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae’r digwyddiad hwn yn dathlu gweledigaeth, cariad a chefnogaeth Neuadd Ogwen i ddiwylliannau Brodorol.
Dywedodd Dilwyn Llwyd, sy’n rheoli Neuadd Ogwen:
Sefydlwyd Mawr y Rhai Bychain i agor y ddeialog rhwng y gymuned Gymraeg a chymunedau, ieithoedd a diwylliannau brodorol eraill. Eleni mae’n fraint i ni wahodd llawer o artistiaid, blaenoriaid ac arweinwyr cymunedol o Genhedloedd Brodorol Canada i rannu eu cerddoriaeth a’u diwylliannau amrywiol gyda’n cymuned. Nod y digwyddiad hwn yw hybu dealltwriaeth, empathi a dathlu safbwyntiau ac ieithoedd brodorol.
Mae’r penwythnos o ddigwyddiadau yn cychwyn ar ddydd Gwener 18 Hydref gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch a’r feiolinydd Gwyddelig Aoife Ni Bhriain. Mae'r ddeuawd wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf Double You ym mis Hydref y llynedd, ac mae’n cynnwys casgliad coeth o gyfansoddiadau newydd sy'n tynnu ysbrydoliaeth o bob genre. Hefyd yn perfformio ar 18 Hydref mae grŵp drymio traddodiadol a chanu corawl Anishinaabeg, Nimkii and the Niniis, y cafodd ei EP cyntaf Nang Giizhigoong ei henwebu ar gyfer Artist Brodorol Traddodiadol / Grŵp y Flwyddyn yng Ngwobrau Juno 2022.
Ar brynhawn dydd Sadwrn 19 Hydref, bydd cyflwyniad am ddim a thrafodaeth banel am hanes, diwylliant ac ieithoedd Brodorion Canada. Mae'r panel yn cynnwys yr actifydd ShoShona Kish (Anishinaabe); y cynhyrchydd Denise Bolduc (Anishinaabe), a’r cerddorion Shauit (Innu), Nimkii and the Niniis (Anishinaabe a Chenhedloedd Brodorol eraill) a Siibii (Cree) gyda Lisa Jên a chyfleoedd am gyfraniad gan y gynulleidfa.
Bydd y penwythnos yn gorffen gyda pherfformiadau gan dri artist o fri o Ogledd Cymru, Quebec a Montreal. Bydd Plu, triawd o ddwy chwaer a brawd – Elan, Marged a Gwilym Rhys o Eryri, yn chwarae pop-gwerin Cymraeg amgen, gyda harmonïau 3 llais. Bydd Shauit (Innu), brodor o Arfordir Gogleddol Quebec, yn canu am gymhlethdod a harddwch cenedl Innu trwy asio gwerin a reggae. Hefyd yn perfformio ar y nos Sadwrn mae'r artist pop brodorol, cwiar, traws o Montreal, Siibii (Cree).