Yn ei neges fideo ddiweddaraf, mae Nick Capaldi yn edrych yn ôl dros heriau 2020, ac yn arbennig ar y caledi a grëwyd gan bandemig Cofid-19 cyn edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod. Neges ganolog ei neges yw bod angen ail-ddychmygu'r dyfodol mewn ffordd newydd lle mae'r celfyddydau er budd pawb ac ar gael ar sail decach a mwy cyfartal.
Yn ei fideo, dywed Nick Capaldi:
“Mae pwysau ariannol aruthrol ar y sector. Mae llawer ohonoch wedi symud eich gwaith ar-lein gan feddwl am ffyrdd eraill o gynnig y celfyddydau i'r cyhoedd.
“Wrth edrych ar y dyfodol, yn ogystal ag ailagor ein lleoliadau a chroesawu pobl yn ôl i’w llenwi, rhaid inni ystyried pa fath o gynnyrch a gynigiwn wedyn. Dros y flwyddyn ddiwethaf cwestiynwyd gwerthoedd ein bywyd cyhoeddus. Wrth i'r gwerthoedd yma newid, rhaid i ni beidio â hiraethu am ryw orffennol euraid. Rhaid inni wynebu’r dyfodol gwahanol gan osgoi cyflwyno fersiwn wannach o’n hen gynnyrch.
“Ni ddylem ychwaith geisio adennill rhyw normalrwydd coll. Yn hytrach, rhaid inni archwilio’r dirwedd newydd gyda dychymyg a haelioni. Rhaid ymgysylltu'n llawnach â'r bobl a’r cymunedau na chawsant fynediad at na budd o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei gyfeirio at y celfyddydau.”
Gellir gweld y fideo 10 munud o hyd yma
DIWEDD dydd Mercher, 27 Ionawr 2021