Bydd cerddoriaeth fyw yn cynnwys yr iaith Gymraeg yn dychwelyd i leoliadau ar draws Abertawe eto eleni wrth i raglen gelfyddydol Menter Iaith Abertawe ddechrau ar ei hail flwyddyn.
Yn dilyn 28 digwyddiad ym mlwyddyn gyntaf y prosiect, gyda dros 4,000 o bobl yn mynychu i fwynhau perfformiadau gan artistiaid sy’n defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu gwaith, bydd rhediad arall o ddigwyddiadau byw ar draws y ddinas yr hydref hwn. Mae’r prosiect yn anelu at adeiladu ar y sîn gerddoriaeth iaith Gymraeg yn y ddinas, gan gynnig llwyfan rheolaidd i artistiaid o’r ardal a thu hwnt i berfformio, yn ogystal â chynnig cyfleoedd cyson i bobl Abertawe fwynhau cerddoriaeth iaith Gymraeg o’r safon uchaf.
Bydd y rhaglen unwaith eto yn cynnwys gigs rheolaidd ar draws lleoliadau yng nghanol y ddinas gan gynnwys Tŷ Tawe, The Bunkhouse a’r Elysium, ac yn cynnwys setiau gan artistiaid amrywiol megis Angel Hotel, Tecwyn Ifan, HMS Morris, a Band Pres Llareggub. Yn ychwanegol i’r digwyddiadau yma, bydd y prosiect hefyd yn ymweld â lleoliadau newydd am y tro cyntaf. Ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fedi, bydd prynhawn o gerddoriaeth acwstig yn Nhafarn y Railway, Cilâ mewn cydweithrediad â Trac Cymru.
Mae The Gentle Good yn ymweld â man geni Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive fel rhan o’r prosiect teithio rhwng y Mentrau Iaith a PYST ar nos Fercher y 4ydd o Hydref. Ar nos Sadwrn y 4ydd o Dachwedd bydd DnA (Delyth ac Angharad Jenkins) yn perfformio yn y Forge Fach yng Nghlydach fel rhan o ddigwyddiad arbennig i ddathlu menywod o Gymru yn y byd gwerin.
Bydd Gŵyl NAWR, dathliad o gerddoriaeth arbrofol, yn ymweld â Tŷ Tawe ar ddydd Sadwrn y 10fed o Dachwedd. Bydd y digwyddiad yma yn cynnwys setiau gan Pat Morgan, Ani Glass, a R.Seiliog, gyda’r lein yp llawn i gyhoeddi cyn hir.
Dywedodd Tomos Jones, Prif Swyddog Menter Iaith Abertawe: “Roeddwn wedi mwynhau cymaint o ddigwyddiadau gwych yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect, yn cyrraedd uchafbwynt gyda’r dathliad Gŵyl Tawe yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ym mis Mehefin. Mae parhau i weithio gyda’n partneriaid mewn lleoliadau ar lawr gwlad yr ardal yn bwysig iawn i sicrhau fod y profiadau yma ar gael trwy gydol y flwyddyn, ac yn hwb i’r iaith Gymraeg a’r sîn gelfyddydol yn y ddinas. Rydym yn edrych ‘mlaen at gychwyn ar ein rhaglen ar gyfer yr hydref.”
Bydd dau ddyddiad ychwanegol yn y Bunkhouse yn cael eu cyhoeddi cyn hir. Mae pob dyddiad arall ar werth nawr, ac mae tocynnau ar gael fan hyn neu drwy Siop Tŷ Tawe. Bydd tocynnau am ddim yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe diolch i gefnogaeth gan Academi Hywel Teifi.
Yn ogystal bydd y clwb cerddoriaeth wythnosol mewn cydweithrediad â Urdd Gorllewin Morgannwg yn parhau i redeg ochr yn ochr gyda’r digwyddiadau. Mae’r sesiynau yma yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau megis cyfansoddi a recordio trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y cylch nesaf o sesiynau yn dechrau ar y 4ydd o Hydref ac yn parhau i redeg gyda’r tymor ysgol.
Dyddiadau Medi – Rhagfyr 2023:
Sadwrn 9.9 – Sadwrn Acwstig: Bwca + Catrin O’Neill + Gwilym Bowen Rhys + Plu + Melda Lois (Railway Inn)
Gwener 15.9 – Angel Hotel + The Bad Electric + Ffredi Blino + Head Noise (Elysium)
Iau 28.9 – Gwilym + Y Cledrau + Parisa Fouladi (The Bunkhouse)
Sadwrn 30.9 – Tecwyn Ifan + Dafydd Owain + Lily Beau (Tŷ Tawe)
Mercher 4.10 – The Gentle Good + Angharad Jenkins (5 Cwmdonkin Drive)
Iau 5.10 – Sadwrn 7.10 – Gŵyl Ymylol Abertawe (lleoliadau amrywiol) – yn cynnwys Band Pres Llareggub + Mr Phormula + Francis Rees (Tŷ Tawe)
Gwener 20.10 – Gai Toms a’r Atomau + mwy/cefnogaeth (Tŷ Tawe)
Gwener 3.11 – HMS Morris + mwy/cefnogaeth (Elysium)
Sadwrn 4.11 – DnA - Delyth & Angharad Jenkins (Forge Fach, Clydach)
Gwener 10.11 – Clwb Ifor Bach yn cyflwyno: Mellt + mwy/cefnogaeth (The Bunkhouse)
Sadwrn 11.11 – Gŵyl NAWR: Pat Morgan + Ani Glass + R.Seiliog + mwy i gyhoeddi (Tŷ Tawe)
Gwener 24.11 – TBA (The Bunkhouse)
Sadwrn 25.11 – TBA (The Bunkhouse)
Gwener 1.12 – Ynys + mwy/cefnogaeth (Tŷ Tawe)