Mae’r cwmni, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n ymroddedig i ail-ddychmygu opera, ymhlith y tri phrosiect enwebedig o bedwar ban byd. 

Mae Music Theatre Wales (MTW) wedi ei enwebu ar gyfer Gwobr Addysg 2025 gan FEDORA, Platfform Ewropeaidd sy’n cefnogi arloesi mewn Opera a Dawns. 

Mewn seremoni lansio ym Mhlas Garnier ym Mharis ar 26 Hydref 2024, cyhoeddwyd rhaglen arloesol y Cwmni, “Future Directions”, sydd wedi ei datblygu mewn partneriaeth â Hijinx, yn un o'r tri phrosiect enwebedig ar ôl ei ddewis o restr fer o 10 prosiect arloesol o bob cwr o'r byd, ac yntau yn ei thrydedd flwyddyn. Mae’r prosiectau wedi’u dewis am eu dulliau newydd o arloesi, y defnydd o ddigidol, a’u hymrwymiad i gynaliadwyedd, i feithrin deialogau rhyng-ddiwylliannol a rhyng-genedlaethol drwy’r celfyddydau perfformio. 

Os yw MTW yn llwyddiannus, byddant yn derbyn gwobr o €50,000 i dyfu “Future Directions” ymhellach yn 2025-2026, gyda ffocws ar ardal Butetown a De Caerdydd, i ddatblygu cydweithredu ychwanegol gyda’r Arts Active Trust, ac ehangu’r prosiect i gynnig Lleoliadau Hyfforddi i gyfranogwyr blaenorol fel cam cyntaf ar eu taith i fod yn hwyluswyr creadigol eu hunain. Gallwch wylio’r fideo byr yn cyflwyno’r prosiect yma

Roedd y digwyddiad lansio’n gyfle gwerthfawr i’r prosiectau enwebedig gyflwyno’u gwaith a ymgysylltu’n uniongyrchol ag aelodau’r panel, partneriaid a noddwyr ac ariannwyr posib, yng nghwmni Judith Videcoq, Pennaeth Uned Creative Europe, DG Addysg, Ieuenctid, Chwaraeon a Diwylliant y Comisiwn Ewropeaidd. 

Dywedodd Michael McCarthy, Cyfarwyddwr Music Theatre Wales, a fynychodd y digwyddiad: 
“Mae Future Directions yn galluogi MTW i ddatblygu fframwaith cynhwysol ar gyfer creu a rhannu opera: mae’r rhaglen yn rhan annatod o’n hymchwil i ddyfodol posib opera, ac yn dyst i’n hymrwymiad i fynd i’r afael ag anghyfartaledd systemig ac allgáu cymdeithasol. Mae Future Directions yn gwahodd pobl ifanc ag anableddau dysgu a chyflyrau niwroamrywiol rhwng 16 a 25 oed i ffurfio Cwmni Ifanc i greu opera ddigidol. Nid rhaglen i gyflwyno pobl ifanc i opera yw hon – ond cyfle iddynt gyfrannu at ein dealltwriaeth ni o’r hyn y gallai opera fod yn y dyfodol. Bydd cefnogaeth gan wobr FEDORA yn cwmpasu dros hanner cost y prosiect, gan wneud gwahaniaeth sylweddol a’n helpu i wireddu’r prosiect yn llawn fel y’i bwriadwyd.” 

Yn ogystal, cychwynnwyd ymgyrch cyllido torfol lle gall pobl ddewis unrhyw un o’r prosiectau enwebedig a chyfrannu €5 neu fwy, gyda detholiad eang o wobrau ar gael. Bydd yr holl arian a godir drwy’r dull hwn yn mynd yn syth at y prosiect a ddewisir, boed y prosiect yn ennill y Wobr ai peidio.  

Gallwch ddarganfod y prosiectau enwebedig ar gyfer Gwobrau FEDORA ar y Platfform FEDORA, ac fe fydd yr Ymgyrch Cyllido Torfol yn agored i dderbyn rhoddion rhwng Dydd Sadwrn, 26 Hydref 2024 hyd at Dydd Mercher, 15 Ionawr 2025. I wneud cyfraniad neu ddysgu mwy am raglen Future Directions MTW, ewch i’r dudalen ymgyrch cyllido torfol yma: