Ballet Cymru yn Cyflwyno Rhaglen Driphlyg o Ddawnsio Newydd

Momentum

Bydd Cyfarwyddwr Artistig Phoenix Dance Theatre, ac un o Artistiaid Cyswllt Ballet Cymru, Marcus J Willis, yn llwyfannu gwaith newydd rhagorol a grëwyd yn arbennig ar gyfer dawnswyr eithriadol Ballet Cymru. Mae Momentum yn rhoi cip ar goreograffydd, dawnswyr a chwmni ar eu gorau.

Surge

Mae Marc Brew yn goreograffydd o fri rhyngwladol ac yn Artist Cyswllt arall i Ballet Cymru. Bydd Marc yn gweithio yng Nghymru i greu gwaith newydd hardd, Surge, sy'n archwilio'r modd y gallwn ddal symudiad y tonnau i greu ynni newydd.

The Night Is Darkest Just Before The Dawn

Am y drydedd flwyddyn, mae'n bleser gan Ballet Cymru groesawu’r dawnswyr ifanc o Ddawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru www.nyaw.org.uk a fydd yn arddangos gwaith newydd gan y coreograffydd arobryn, Yukiko Masui, a hynny am y tro cyntaf. 

I archebu tocynnau, ewch i'r calendr, neu cysylltwch â swyddfa docynnau Theatr Glan yr Afon newportlive.co.uk/riverfront

Cyhoeddiad Arbennig!

Bechgyn Ballet Cymru

Mae Ballet Cymru yn falch iawn o gyhoeddi y bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y rhaglen BECHGYN BALLET CYMRU, a lansiwyd yn ddiweddar, yn cyflwyno gwaith codi'r llen ar ddechrau perfformiadau’r noson. 

Bydd Surge gan Marc Brew a Momentum gan Marcus Jarrell Willis hefyd yn cael eu perfformio ar ffurf Rhaglen Ddwbl yn:

Lilian Baylis Studio, Sadler's Wells, Llundain

Stanley and Audrey Burton Theatre, Leeds

Ewch i dudalen y calendr i gael rhagor o fanylion ac i archebu tocynnau.