Roeddem yn drist iawn o glywed am farwolaeth Mike Baker yn ddiweddar.  Bu’n ffigwr nodedig ym myd y ddrama yng Nghymru o ganlyniad i’w flynyddoedd fel actor, athro, swyddog drama ac yna Cyfarwyddwr Drama Cyngor Celfyddydau Cymru. 

Rhaid i unrhyw berson sy’n dal y swydd honno wneud penderfyniadau anodd a byddai Mike ddim yn osgoi sefyllfaoedd dadleuol.  Fodd bynnag, byddai’n gwneud yn siŵr bob amser bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yn dilyn ymgynghori â’r gymuned artistig a’r pwyllgorau a sefydlwyd ganddo, a bod y penderfyniadau rheini yn medru goddef eu harchwilio’n fanwl ac yn dangos unplygrwydd.

Roedd yn ymrwymedig i’r rhwydwaith o gwmnïau theatr mewn addysg led-led Cymru a oedd yn achos cenfigen yn y DU yn ystod yr 80au a’r 90au ac yn gefnogwr brwd o weithiau newydd, ysgrifennu newydd yn ogystal â chynnal cefnogaeth ariannol i’r cwmnïau mwy ar adegau a oedd yn aml yn rhai anodd.  Creodd gyfleoedd newydd ar gyfer cyfarwyddwyr a oedd yn dechrau dod i amlygrwydd yn ogystal â sicrhau bod rhaglenni hyfforddi ar gyfer y sector er mwyn iddi ddatblygu ei phroffesiynoldeb a medru cystadlu yn y maes y tu hwnt i Gymru.  Bu’n rhan o nifer o fentrau a esgorodd ar Theatr Genedlaethol i Gymru a byddai’n falch o fod wedi cael gweld yr ymdrechion rheini yn dwyn ffrwyth.

Roedd wedi bod yn anhwylus ers nifer o flynyddoedd, ac, yn drist iawn, nid oedd modd iddo ymwneud â’r bobl y bu’n agos atynt yn broffesiynol ac yn bersonol ers peth amser.  Mae ‘na nifer fawr o bobl ym maes y theatr yng Nghymru a fydd â hanesion diddorol ac atgofion cynnes amdano. Rydym ymhlith y rheini. Rydym yn cadw ei deulu yn ein meddyliau a dymunwn y gorau iddynt.