Mae Cydffederasiwn GIG Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru wedi adnewyddu eu hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o fanteision y celfyddydau i iechyd a lles pobl ac ymgorffori mentrau celfyddydol ac iechyd ar draws GIG Cymru.
Maent wedi llofnodi Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth newydd sy'n rhoi'r celfyddydau wrth wraidd y broses o drawsnewid gwasanaethau.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae buddsoddiad sylweddol wedi cefnogi rhwydwaith cenedlaethol o Gydgysylltwyr y Celfyddydau ac Iechyd. Eu nod yw datblygu partneriaethau mhob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i nodi'r cyfleoedd yn y GIG i ddefnyddio creadigrwydd i fynd i'r afael â blaenoriaethau iechyd a lles.
Mae’n hysbys erbyn hyn bod y mentrau a'r cynlluniau yn gwella iechyd meddwl a lles corfforol. Maent yn cadw pobl yn hapus, iach ac annibynnol yn eu cymuned am ragor o amser a gwella profiad pobl mewn ysbytai.
Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Mae effaith ein Memorandwm â’r Cydffederasiwn yn wych a dwi’n croesawu’r camau nesaf. Rydym ni wedi dangos gwerth y celfyddydau o ran gwella iechyd y meddwl a’r corff a lles y cleifion, y gweithwyr iechyd a'r cyhoedd.
"Mae Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG ledled Cymru yn gweld gwerth y celfyddydau a chroesawu'r gwaith gyda brwdfrydedd. Drwy'r Memorandwm newydd gallwn wreiddio'r celfyddydau mewn ymarfer iechyd, cynyddu arbenigedd a chyrraedd rhagor o bobl."
Dywedodd Nesta Lloyd-Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cydffederasiwn GIG Cymru:
"Ers dechrau ein perthynas yn 2017 rydym ni’n gweld cynnydd mewn dealltwriaeth o fanteision y celfyddydau i iechyd a lles, gyda llawer o’n mentrau’n cael cydnabyddiaeth ryngwladol.
"Mae eleni wedi bod yn heriol i iechyd meddwl pawb. Mae'r celfyddydau’n rhan bwysig o gadw pobl yn iachach yn ystod y pandemig.
"Mae ymarferwyr celfyddydol ac iechyd wedi defnyddio technoleg i barhau â’u gwasanaethau i'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Ar ôl y pandemig, bydd angen inni gynnig y gwasanaethau i ragor o bobl. Dylai creadigrwydd chwarae rhan ganolog i fynd i'r afael â’r problemau iechyd meddwl a ddaw yn sgil yr argyfwng.
"Rydym ni wrth ein bodd i lywio'r agenda a gweithio gyda’r Cyngor i wneud y mentrau’n rhan o’n gwaith atal yn rhagweithiol iechyd gwael."
Meddai Prue Thimbleby, Cydlynydd y Celfyddydau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
"Mae cydweithio mewn partneriaeth ar draws sectorau’n fwy effeithiol na gweithio ar ein pen ein hunain. Mae'r Memorandwm yn enghraifft wych o hynny.
"Mae'r celfyddydau mewn iechyd yn rhan ddefnyddiol o'r gwasanaeth iechyd. Datblygwyd prosiectau sy'n mynd i'r afael ag anghenion iechyd megis dawns i atal cwympo, darllen ar goedd i atal unigrwydd ar y wardiau, gweithdai drama i gefnogi lles staff a chomisiynu artistiaid i greu adeiladau hardd a dymunol i wella cleifion yn gyflymach.
"Fel y dywedodd un claf wrthyf yn ddiweddar, 'mae cael cerddoriaeth fyw ar y ward wedi trawsnewid fy mywyd' – mewn geiriau eraill, creu llawenydd drwy gelf."