Mae Menter Iaith Abertawe a R*E*P*E*A*T yn meddiannu y Bunkhouse, Abertawe penwythnos yma ar gyfer pâr o gigs ar y cyd.

Sefydlwyd ffansin R*E*P*E*A*T yn 1994 fel teyrnged at y Manic Street Preachers, cyn datblygu’n gyflym i fod yn label recordiau, hyrwyddwr gigs, a gwefan yn llawn newyddion, adolygiadau, cyfweliadau, a chelf. Fel rhan o rwydwaith y Mentrau Iaith, mae gwaith Menter Iaith Abertawe yn cynnwys creu cyfleoedd i bobl o bob oedran i ddefnyddio a mwynhau’r iaith Gymraeg yn yr ardal.

Ar nos Wener y 24ain o Dachwedd bydd noson yng nghwmni rhai o’r bandiau roc trwm gorau ar y sîn yng Nghymru, gydag Alffa, Grey-FLX, Breichiau Hir, a People and Other Diseases.

Mae Alffa yn ddeuawd roc sy’n adnabyddus am eu sain ffrwydrol, eu hegni amrwd, ac am fod y band Cymraeg cyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar Spotify. Grey-FLX yw alias Logan Powles, cynhyrchydd ac aml-offerynnwr dawnus sy’n hanu o Abertawe, sy’n cynnig profiad bywiog a phwerus gyda’i fand. Chwechawd sy’n gorlifo gydag alawon, breuder ac angerdd, ac yn neidio o egni ffyrnig i gyfnodau ysgafn i donnau cryf o sain yw Breichiau Hir, ac mae People and Other Diseases yn driawd post-punk cyntefig.

Ar nos Sadwrn y 25ain o Dachwedd mae noson gyda Los Blancos i gefnogi eu hail albwm, “Llond Llaw”. Wedi ei rhyddhau ar Recordiau Libertino, mae “Llond Llaw” yn dangos cynnydd clir yn natblygiad Los Blancos fel band. Yn debyg i Bukowski, Kerouac neu Tom Waits, mae Los Blancos yn gweld y da yn y drwg a'r harddwch yn yr amherffaith. Bydd Akimbo, Cyn Cwsg, a Swan Hill yn cefnogi ar y noson.

Mae tocynnau i’r ddwy gig dim ond £8 o flaen llaw, ac ar gael i brynu fan hyn: www.ticketsource.co.uk/menter-iaith-abertawe

Mae'r Bunkhouse yn far, lleoliad cerddoriaeth a gofod cymunedol sydd wedi ennill sawl gwobr. Wedi'i leoli ar strydoedd cefn canol dinas Abertawe, mae’r lleoliad yn rhoi llwyfan i artistiaid newydd lleol a bandiau teithiol mawr. Wedi'i sefydlu yn 2017 gan dîm cyfunol o gariadon cerddoriaeth a misfits, daeth The Bunkhouse yn gyflym yn ganolbwynt o'r sîn gerddoriaeth yn Ne Cymru fel lleoliad bach sy'n gyson yn taro mwy na'i bwysau.

Mae’r digwyddiadau yma yn rhan o brosiect ehangach gan Menter Iaith Abertawe i hybu’r sin gerddoriaeth Gymraeg yn y ddinas. Bydd y prosiect yn gorffen ar gyfer 2023 y penwythnos canlynol gydag Ynys, The Eggmen Whoooo!, ac Y Dail yn fyw yn Nhŷ Tawe ar nos Wener y 1af o Ragfyr, gyda llawer mwy o gigs i ddilyn yn 2024.