Mae menter arddangos Dyma Gymru, Caeredin 2019 yn cefnogi un ar ddeg sioe yng Ngŵyl Ymylol Caeredin. Darllennwch amdanynt oll isod.

Cwmni: National Theatre Wales
Teitl y Sioe: For All I Care
Dyddiadau: 31/07/19 - 25/08/19 (dim sioe ddydd Llun)
Amser: 13:30 | Hyd y Sioe: 60 munud | Oedran addas: 14+
Lleoliad: 26 | Summerhall – Prif Neuadd
@NTWtweets | #NTWCare

Clara a Nyri. Dwy fenyw wahanol iawn. Dau fywyd cymhleth.
Y ddwy yn cael diwrnod gwael iawn. Mae Nyri, y nyrs iechyd meddwl wedi deffro gyda phen mawr a dyn iau. Yn y cyfamser, mae Clara wedi datblygu winc orfodol ac yn methu cofio a gymerodd hi ei meddyginiaeth. Mae angen i Nyri gyrraedd Ysbyty Glyn Ebwy gan alw yn Greggs ar y ffordd, ac mae angen i Clara fwrw ati gyda’i rhestr siopa i’r Diafol.

Mae cysylltiadau rhyngweol ac annisgwyl yn gwrthdaro yn y sioe gyflym, ddoniol, deimladwy un fenyw hon gan Alan Harris.

Cwmni: Mr & Mrs Clark yng nghwmni Jonny Cotsen
Teitl y Sioe: Louder Is Not Always Clearer
Dyddiadau: 31/07/19 - 25/08/19 (heblaw am 7, 12, 19)
Amser: 14.30 | Hyd y Sioe: 65 munud | Oedran addas: 14+
www.mrandmrsclark.co.uk | #LouderVClearer | @MrandMrs_Clark | @JonnyCotsen

Canolbwyntia ‘Louder Is Not Always Clearer’ ar bwysigrwydd cysylltu ag eraill a’r anhawster i wneud hyn yn effeithiol.  Mae’r sioe un dyn hon yn bortread gonest o fregusrwydd dyn llawn hyder a chymdeithasol ar y tu allan. Mewn byd sy’n clywed, mae Jonny yn wahanol a dengys Louder Is Not Always Clearer y gwahaniaethau hynny’n glir. I’r gynulleidfa sy’n clywed, mae’n brofiad goleuol ac emosiynol. I’r gynulleidfa fyddar, mae’r sioe yn stori gyfarwydd o gamddealltwriaeth ac ynysiad. I’r holl gynulleidfa, mae’n stori ddoniol a theimladwy weithiau am ymdrechion dyn i ymdopi, bod yn rhan o gymdeithas a chael ei dderbyn.

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough
Teitl y Sioe: Daughterhood
Dyddiadau: 05/08/19 -25/08/19 (heblaw 6, 10, 13, 18, 20, 24 Awst)
Amser: 14:15 bob dydd Llun, dydd Iau a phenwythnosau;
11:20 bob dydd Mercher a dydd Gwener
Hyd y Sioe: 70 munud | Oedran addas: 14+
Lleoliad: 26 | Roundabout @ Summerhall
@ClwydTweets | @painesplough | #Daughterhood

Arhosodd un chwaer gartref i ofalu am Dad. Gadawodd y llall i “wneud gwahaniaeth”. Â hwythau’n ail-gyfarfod o dan do eu plentyndod, maen nhw’n darganfod mwy na’r 10 mlynedd sydd rhyngddynt. Mae’r bwlch yn enfawr. Bron yn annoresgynnol. A’r ddwy’n benderfynol o fod yr un sydd wedi gwneud pethau’n iawn. Drama hyfryd, ffyrnig am y rhwymau sy’n ein clymu a pham fod angen i ni eu torri weithiau. Ysgrifennwyd gan Charley Miles, awdur y ddrama dorcalonnus o dyner, Blackthorn a oedd yn archwilio ‘cariad coll a bregusrwydd a phwer natur...pumdeg munud a aeth heibio fel breuddwyd’ (i Newspaper).

Cwmni: Bardd
Teitl y Sioe: Bardd
Dyddiadau: 13/08/19 - 18/08/19 yn gynhwysol
Amser: 15:00 | Hyd y Sioe: 55 munud | Oedran addas: Addas i bawb
Lleoliad: 18 | Sweet 2, Grassmarket
@BigBarddByd | @martindaws | @MrPhormula

Mae Uniad Cerddoriaeth Byd-eang Dwyieithol unigryw Bardd yn tywys y gynulleidfa ar daith o wreiddiau barddonol Cymru i ddisgo ffynci rhydd.

Mae Bardd, sy’n cynnwys Martin Daws (Bardd Ieuenctid Cymru 2013-16) a Mr Phormula (Pencampwr Bît Bocs Cymru ddwywaith), yn adeiladu eu sain ar ailadrodd telynaidd Kalimba Martin a gwychder technegol bît bocs Mr Phormula, ac ehangir ar hyn gan y cerddorion aml-offeryn rhagorol Neil Yates (Trwmped/Bas) a Henry Horrell (Allweddell/Gitar).  

Nod Bardd yw  “cyfuno popeth yr ydym i un sain brydferth: offerynnau, ieithoedd, arddulliau cerddorol - Hip Hop, Jazz, Celtaidd - mae ganddo bopeth.”

Cwmni: iCoDaCo (cynhyrchwyd yng Nghymru/DU gan Gwyn Emberton Dance)
Teitl y Sioe: it will come later
Dyddiadau: 11/08/19 -25/08/19 (dim 14 na 20)
Amser: 13:00 | Hyd y Sioe: 60 munud | Oedran addas: Addas i bawb
Lleoliad: 82 | ZOO Southside
@gwynembertondan | #icodaco | #itwillcomelater

Gwaith dawns gyfoes noeth, cyffrous ac arbrofol. Wedi’i berfformio a’i wylio o amgylch set sy’n troi, caiff chwe chorff eu gwthio yn erbyn ei gilydd mewn llif trawsnewidiol parhaus.

Daeth chwe choreograffydd/perfformiwr (gan gynnwys Eddie Ladd a Mui Cheuk Yin) ynghyd i ddod o hyd i ffordd newydd o gydweithio. Fe wnaeth aflonyddwch gwleidyddol eu mamwledydd gynnau papur tanio’r cyfnewid rhyngddynt, gan greu meicrocosm ffisegol o gydweithio a chyd-drafod sy’n angenrheidiol ar gyfer yr oes gythryblus sydd ohoni.

Mae iCoDaCo yn brosiect rhyngddiwylliannol ddwyflynyddol, wedi’i greu gan ilDance a’i gynhyrchu yng Nghymru/DU gan Gwyn Emberton Dance.

Cwmni: Theatr Volcano
Teitl y Sioe: The Populars
Dyddiadau: 31/07,  02/08 (cip ymlaen llaw) 03/08 - 25/08 (heblaw am 12, 19)
Amser: 21:20 | Hyd y Sioe: 60 munud | Oedran addas: 14+
Lleoliad: 26 | Summerhall (Y Library Gallery)
@VolcanoUK | #ThePopulars

Ymunwch â’r Populars – pedwar perfformiwr yn cynnal parti dawns ar gyfer cenedl ar chwâl. Maen nhw’n edrych i’r dyfodol ac yn meddwl sut deimlad fydd hi i gyrraedd yno. Maen ganddyn nhw gwestiynau i chi, pethau ar eu meddwl, a set o ganeuon gwych sy’n plycio llinynnau’r cof a’r cyhyrau. Dywedwch eich barn wrthyn nhw ar yr awyrgylch, lle wnaethoch chi ddawnsio o ddifrif ddiwethaf, a phwy yw’r mwyaf cwl yn eich tyb chi. Gallwch ddisgwyl chwys, secwins a barn ysgafn, ystyriol ar yr hyn sy’n
ein huno neu’n ein rhannu yn y cyfnodau ansicr hyn.

Cwmni: Cyd-gynhyrchiad Carys Eleri a Chanolfan Mileniwm Cymru
Teitl y Sioe: Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)
Dyddiadau: 13/08/19 - 25/08/19 (yn gynhwysol - dim sioe ar ddydd Llun)
Amser: 22.40 | Hyd y Sioe: 60 munud | Oedran addas: 16+
Lleoliad: 61 | Belly Button, Cowgate, Underbelly
@the centre | @caryseleri | #Lovecraft

Wedi ei llwyddiant yn Adelaide Fringe, mae’r sioe arobryn ‘Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)’ yn sioe gerdd gomedi wyddonol un fenyw am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd. Sioe llawn hwyl a chwerthin a thamaid o wyddoniaeth ddiddorol yn y gymysgedd.  Bydd Carys yn eich tywys ar daith drwy ei hoes; chwant, bywyd ac unigrwydd gyda baled-roc o’r 80au i broffil Tinder.

Darganfyddwch sut mae cariad yn gweithio’r tu mewn i ni, pam mae’n peri i ni wneud pethau twp a pham mae cwtshio yw’r ateb.

I’r diawl â thi’r epidemig unigrwydd - mae gan Carys ti wrth dy geilliau.

Cwmni: Jo Fong a Sonia Hughes
Teitl y Sioe: Neither Here Nor There
Dyddiadau: 15/08/19 -25/08/19
Amser: 19:15 | Hyd y Sioe: 85 munud
Oedran addas: Addas ar gyfer 16+ oed (croeso i fabanod dan 1 oed)
Lleoliad: 26 | Summerhall – Courtyard
@NHNThere | @jofong | @chaptertweets | #NeitherHereNorThere

Pryd wnaethoch chi wneud amser i siarad ddiwethaf? Mae bywyd yn wyllt, ac mae teimlo cysylltiad dynol yn dod yn fwyfwy prin.

Mae’r artistiaid Sonia Hughes a Jo Fong yn hyrwyddo’r gallu i arafu a chael sgyrsiau go iawn yn eu perfformiadau artistig byw, Neither Here Nor There. Wedi’i ddisgrifio fel sioe ‘ysbrydoledig a thwymgalon’ gan gynulleidfaoedd, defnyddia’r profiad hwn leisiau, safbwyntiau a bywydau gwahanol i ofyn, ‘sut gallwn ni fyw gyda’n gilydd?’ Ymunwch â Sonia a Jo ar daith fer, a sgyrsiau a ddyluniwyd i ‘gymryd siawns’ (Cylchgrawn CCQ) ac ildio i’r darlun ffres hwn o bwer cyfathrebu.

Cwmni: Flossy and Boo mewn cyd-gynhyrchiad â Theatrau RCT
Teitl y Sioe: Ned and the Whale
Dyddiadau: 03/08/19 - 18/08/19 (heblaw am 8, 12 a 13 Awst)
Amser: 11:00 a 14:00 (Amseroedd amrywiol, ewch i wefan y Fringe
am fanylion) | Hyd y Sioe: 45 munud
Oedran addas: Addas ar gyfer 3 oed+ ond croeso i bawb
Lleoliad: 43 | theSpace@Symposium Hall - ‘theSpace Tent’
@flossyandboo | @flossyandbootheatre | /flossyandboo | #nedandthewhale

Mae hanes hudol ‘Ned and the Whale’ yn dechrau ychydig fel hyn...
Llawn swagro a thasgu, mae’r stori ‘ma’n boddi
ag arogl rhyfedd o bysgod.

Er bod Ned yn ddeallus, roedd ei ddewrder yn warthus
Am fod ei chwaer yn un annheg gan adrodd straeon y twyllwyr - “bydd teyrnas yr ysbïwyr,
yn eich cipio a chymryd eich dueg!”

Stori llawn pysgod, hyd ac antur. Hwyliwch ar antur i helpu
Ned i fagu hyder a darganfod y gwir y tu ôl i ‘Deyrnas yr ysbïwyr’
dirgel. Daw Flossy and Boo a’u ffordd hudolus ryfedd o ddweud stori i chi.

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough
Teitl y Sioe: On The Other Hand, We’re Happy
Dyddiadau: 04/08/19 -24/08/19 (heblaw am 6, 11, 13, 17, 20 Awst)
Amser: 11:20 bob dydd Llun a dydd Iau; 14:15 bob dydd Mercher,
dydd Gwener a phenwythnosau
Hyd y Sioe: 70 munud | Oedran addas: 14+
Lleoliad: 26 | Roundabout @ Summerhall
@ClwydTweets | @painesplough | #OnTheOtherHandWereHappy

Mae Tad sengl yn cwrdd â’i ferch fabwysiedig am y tro cyntaf. Yna mae’n cytuno i gwrdd â’i mam enedigol. Pan fydd bydoedd y ddau’n gwrthdaro, a fydd y pethau sy’n gyffredin rhyngddynt yn gwrthbwyso’u gwahaniaethau? Un cyfarfod. Ond bydd tri bywyd yn newid am byth. Drama dyner, ddoniol a gobeithiol
yw On the Other Hand, We’re Happy, sy’n edrych ar fod yn fam pan mai’ch enw yw Dad. Wedi’i ysgrifennu gan Daf James, awdur, cyfansoddwr a pherfformiwr arobryn. Gwnaeth ei ddrama drobwyntiol gyntaf, Llwyth, newid tirlun theatr Gymraeg am byth.

Cwmni: Theatr Clwyd a Paines Plough
Teitl y Sioe: Dexter and Winter’s Detective Agency
Dyddiadau: 04/08/19 -25/08/19 (penwythnosau’n unig)
Amser: 11:20
Hyd y Sioe: 50 munud
Oedran addas: 14+
Lleoliad: 26 | Roundabout @ Summerhall
@ClwydTweets | @painesplough | #DexterandWintersDetectiveAgency

Pan gaiff mam Dexter ei charcharu am fod yn rhan o ladrad gemwaith, rhaid i Dexter a’i ffrind gorau, Winter, geisio ei rhyddhau. Yn ystod eu taith i ddarganfod y gwirionedd a rhyddhau mam, mae eu gwaith ditectif yn eu harwain at rai darganfyddiadau syfrdanol. Mae Dexter and Winter’s Detective Agency yn stori antur wirion i’r holl deulu gan un o’r awduron y tu ôl i’r rhaglenni CBeebies poblogaidd, Rastamouse, Apple Tree House a Swashbuckle.