Er bod y rhelyw ohonom ni’r Cymry yn byw o fewn tafliad carreg i olygfa fendigedig, mae’n ddiddorol mai tirluniau a ddaeth i’r brig o ran y math o gelf a brynwyd yn ystod 2019 trwy Gynllun Casglu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r Cynllun Casglu yn gynllun di-log sy’n ei gwneud hi’n bosib i ymestyn cost prynu gwaith celf, a grëwyd gan artist byw o Gymru, dros gyfnod o 12 mis. Mae’r cynllun yn cynnwys pob math o eitemau celfyddydol gwahanol o baentiadau traddodiadol i flancedi a gemwaith wedi ei lunio â llaw.

Mae darluniau o fynyddoedd ac arfordir prydferth ein cenedl yn amlwg iawn ar restr gweithiau’r artistiaid a werthodd orau, gan arlunwyr megis David Grosvener a Sarah Carvell. Mae’r rhestr hefyd yn cynnwys ysgythriadau pren Colin See-Paynton a phortreadau 3D aml-gyfrwng Luned Rhys-Parri. 

Dywedodd Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Oriel Glyn y Weddw yn Llanbedrog

“Mae’r Cynllun Casglu yn gyfraniad o bwys i wneud celf yn fwy hygyrch i’r cyhoedd ac yn elfen bwysig hefyd o ran helpu orielau Cymru i fod yn gynaladwy’n ariannol.

“Mae’n ddiddorol mai tirluniau oedd y math mwyhaf poblogaidd o gelfyddyd a brynwyd, ond doeddwn i ddim wedi fy synnu’n llwyr. Mae pobl leol a thwristiaid fel ei gilydd yn gwerthfawrogi ein gwlad brydferth, a dyw hi’n ddim syndod felly eu bod eisiau mynd â thirluniau prydferth adref gyda nhw”.

Dywedodd Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd:

“Rydym ni’n credu bod celf ar gyfer pawb ac un o’n hamcanion gyda’r Cynllun Casglu yw ei gwneud hi mor hawdd â phosib i  cynifer o bobl â phosib brynu gweithiau celf. Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau wedi bod â’r ddwy nod o hyrwyddo gwaith gwych ac ehangu mynediad i’r celfyddydau o’r cychwyn cyntaf. Mae’r Cynllun Casglu – sydd wedi bodoli ers 1983 – yn un ffordd y medrwn annog yr ail, tra ar yr un pryd gefnogi creu celfyddyd wych gan artistiaid sy’n byw yng Nghymru.

“Mae’n galondid mawr bod y cynllun yn mynd o nerth i nerth, gyda gweithiau dros 400 o artistiaid wedi cael eu prynu trwy’r cynllun yn ystod 2018-19.”

Mae orielau Cymru yn paratoi ar hyn o bryd ar gyfer rhuthr y siopa Nadolig wrth i ragor o bobl brynu celf a chrefftau cyfoes Cymreig trwy ddefnyddio’r Cynllun Casglu. Mae dros 60 o orielau ar draws Cymru yn rhan o’r Cynllun Casglu ac mae’r Cynllun yn cefnogi’r economi leol: mae orielau lleol yn gweld twf mewn gwerthiant ac yn cynorthwyo artistiaid i wneud bywoliaeth o’u gwaith.

Mae manylion pellach ynghylch amodau a thelerau benthyciad Cynllun Casglu i’w gael yma  ac mae’r adroddiad y cyfeirir ato uchod i’w gael yma.