Mae’r cwmni dawns o Gymru, Jones y Ddawns yn cyflwyno ffordd hollol newydd o brofi perfformiad byw, dawns a ffilm i gymunedau ar draws Cymru'r gwanwyn hwn. Gwahoddir cynulleidfaoedd i ymuno ar daith sinematig hardd mewn profiad byw unigryw, o’u hamgylchedd cyfarwydd i glogwyni epig Ynys Môn, lle byddant yn helpu i siapio’r stori.

Dilyn hanes pedwar o bobl ifanc eithaf cŵl ond sy’n cwestiynu pa lwybr i’w ddilyn, pob un ohonynt â stori i’w hadrodd y mae Y Dewis. Maent yn cyfarfod yn adfeilion unig gwaith brics Porth Wen (sydd ar Ynys Môn, Gogledd Cymru) a gyda chymorth cyflwynydd a gwesteiwr, a’r llefarydd ar y sgrin (sy’n dweud y stori mewn BSL), mae’r gynulleidfa’n penderfynu sut y bydd eu storïau yn datblygu. Bydd y dewisiadau y bydd y gynulleidfa yn eu gwneud ar y cyd yn datgelu pethau fydd yn synnu pob un ohonynt, a’r gynulleidfa hefyd, efallai.
 
Wedi ei gwneud gyda Sekai Media a Theatr Clwyd, gyda chefnogaeth Amdani! Conwy, Dawns i Bawb, Pontio a Hwb Byddar Cymru, mae’r elfen ffilm yn bersonol, rhyngweithiol a sinematig, gan blethu Saesneg, Cymraeg a BSL. Mae ei chymysgedd o ddawns a stori, y cyfan ar gefnlen naturiol eithriadol sy’n cwmpasu gorffennol diwydiannol, yn ddathliad o Gymru, dawns Cymru a gobaith pobl ifanc. Rhoddwyd caniatâd caredig i ffilmio yng Ngwaith Brics Porth Wen gan y perchenogion gan nad oes mynediad cyhoeddus i’r safle. 

“Mae Y Dewis wedi cymryd pum mlynedd i’w chreu. Cefais fy ysbrydoli i greu rhywbeth oedd yn ymateb i’r ffordd y mae pobl ifanc yn teimlo, yn awr yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda llawer o bobl ifanc mewn gwahanol rannu o Gymru, ac maen nhw i gyd wedi helpu i siapio Y Dewis. Mae wedi ei ysbrydoli gan eu storïau a’u teimladau am ddewisiadau bywyd, llesiant, gwleidyddiaeth, rhywedd, rhywioldeb a’r frwydr dros gydraddoldeb; y pethau y maen nhw’n eu dweud am yr hyn y mae’n ei olygu bod yn ifanc yng Nghymru ac wrth benderfynu pwy ydyn nhw yn y byd. Roeddwn hefyd eisiau ceisio creu ffordd newydd i gynulleidfaoedd brofi dawns a ffilm sy’n gyffrous a gwreiddiol ac rwy’n meddwl ein bod wedi llwyddo.” Coreograffydd a Chyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns, Gwyn Emberton. 
 
Fel rhan o’r profiad sinematig rhyngweithiol, bydd ffilm fer a wnaed gan ddawnswyr Cwmni Ifanc Jones y Ddawns, sy’n cynnwys pobl ifanc o’r prosiect Quiet Beats (profiadau gweithdai a dawns i bobl ifanc f/Fyddar) a Jones Bach (gweithdai i bobl ifanc yng ngogledd Powys). Mae eu ffilmiau wedi eu hysbrydoli gan Y Dewis y maent wedi eu gwneud gyda dawnswyr proffesiynol a llunwyr ffilm.

Dywedodd aelod o Jones Bach, “Trwy wneud ffilm, rwy’n gallu perfformio heb i’m hofn ar lwyfan fy atal“. 

Arweinir y tîm creadigol tu ôl i Y Dewis gan Gyfarwyddwr Artistig Jones y Ddawns, Gwyn Emberton, fel crëwr, coreograffydd a chyfarwyddwr. Ymunodd pump o ddawnswyr ag o, o Gymru, Lloegr a Sweden, a’r gwneuthurwyr ffilm sy’n dod i amlygrwydd o Sweden Aaron Lindblom, Kenneth Ly a Victor Söderlund Lundvall. Mae’r cyfansoddwr ffilm, teledu a theatr amlwg o Gymru, Siôn Trefor wedi creu sgôr epig a hyfryd, gyda’r dylunio sain gan Nick Davies; dillad a set wedi eu dylunio gan Lois Prys, a’r testun wedi ei ysgrifennu gan Iola Ynyr, Sarah Adedeji a Gwyn Emberton. Bydd y cyflwynydd a’r gwesteiwr byw yn cael eu cyhoeddi’n fuan. 
 
Bydd Y Dewis yn teithio trwy Gymru rhwng 19 Ebrill a 18 Mai, i bentrefi gwledig, trefi a dinasoedd, gan fynd i lawer o leoedd nad ydynt fel arfer yn cael dawns na sinema. Cefnogwyd nifer o’r perfformiadau gan Gyngor Celfyddydau Cymru trwy’r cynllun Noson Allan.
 
Mae’r ffilm yn cynnwys tair iaith, Saesneg, Cymraeg, ac Iaith Arwyddion, gyda’r elfen fyw yn Gymraeg a Saesneg. Bydd nifer o’r perfformiadau mewn BSL gyda chyfieithiad Saesneg a/neu berfformiwr Byddar/BSL.
 
Mae manylion llawn y daith ar gael ar wefan Jones y Ddawns - jonesthedance.com/ydewis.

Yn addas i bob oedran ond yn ddelfrydol i rai 9 oed a hŷn.  
 
Cefnogir Y Dewis gan gyllid gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Kulturrådet, Tŷ Cerdd, Abderrahim Crickmay Charitable Trust, Magic Little Grant via Local Giving.

Llun: Full Mongrel