Taking Flight mewn cydweithrediad â Theatr y Sherman, yn cyflwyno
Martha
Wedi’i sgwennu gan Elise Davison a Stephanie Bailey-Scott
Cyfarwyddwyd gan Elise Davison
2055.
Mae’r Rhaglen wedi gyrru Byddardod dan-ddaear. Mae defnyddio iaith arwyddion wedi ei wahardd ac mae’n weithred brotest radicalaidd sy’n ennyn drwgdybiaeth a gorthrwm.
Ydy clwb cabaret Martha yn loches groesawgar i leiafrif gwaharddedig, yn noddfa i derfysgwyr posibl, neu’n rywbeth hyd yn oed yn fwy sinistr?
Wrth i Edith geisio sleifio i mewn i’r gymuned warchodedig hon, caiff ei byd i chwalu pan ddaw storïau cudd, cyfrinachau teuluol a chelwyddau’r wladwriaeth yn ffrwydrol i’r golwg.
Drama newydd ddeifiol gan gwmni theatr hygyrch arweiniol Cymru, bydd Martha yn cael ei berfformio yn Iaith Arwyddion Prydain sef BSL a Saesneg ar lafar gyda chapsiynau creadigol a sain ddisgrifiad integredig.
Bydd perfformiadau’n rhedeg o’r trydydd ar ddeg tan y cyntaf ar hugain o Fehefin yn Theatr Y Sherman, Caerdydd.
Cefnogwyd gan CCC ac Unlimited.