Bydd y cerddor a pherfformiwr arobryn Mared Williams yn chwarae’r brif rôl yn y sioe Branwen: Dadeni, mae Canolfan Mileniwm Cymru a Frân Wen wedi cyhoeddi wrth iddyn nhw ddatgelu castio a rhaglun ar gyfer y sioe gerdd dramatig Gymraeg newydd.
Bydd yr aelod o’r grŵp Welsh of the West End, a gyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Britain’s Got Talent, yn arwain cast talentog yn yr ailddychmygiad cyfoes o stori enwog a thrasig Branwen o straeon mytholegol hynafol y Mabinogi, a fydd ar daith ar draws Cymru ym mis Tachwedd.
Ar ôl graddio o’r Royal Academy of Music, cyflenwodd Mared Williams rôl Eponine yng nghynhyrchiad newydd y West End o Les Miserables yn 2019-2022. Yn 2021 enillodd albwm ddwyieithog gwerin/pop gyntaf Mared, ‘Y Drefn,’ wobr Albwm y Flwyddyn. Yn ddiweddar chwaraeodd rôl Clara yn y premiere Ewropeaidd o ddrama Mark Blitzstein, ‘No For An Answer’ yn yr Arcola Theatre.
Caitlin Drake (Miss Littlewood, RSC & Cunard; Pavilion, Theatr Clwyd) fydd yn chwarae Efnisien, chwaer Branwen, tra bydd Rithvik Andugula o Gaerdydd (debut broffesiynol) yn chwarae Matholwch, Brenin Iwerddon – gan loywi ei Gymraeg ar ôl peidio ei ddefnyddio ers bod yn yr ysgol. Tomos Eames (BBC Shakespeare and Hathaway Private Investigators; S4C Gwaith/Cartref) fydd yn chwarae Bendigeidfran – brawd Branwen a Brenin Cedyrn – tra bydd Ioan Hefin (Netflix Apostle; BBC Steeltown Murders) yn chwarae Picell – presenoldeb dirgel newydd yn y stori. Rhagor o gast a thîm creadigol i’w gyhoeddi.
Dywedodd Mared Williams: "Rwy'n edrych ymlaen ac yn nerfus i fod yn rhoi fy sbin fy hun ar Branwen a dechrau ystyried cymeriad Cymreig mor eiconig a chymhleth. Mae cael prosiect mor fawr wedi'i wneud yn yr iaith Gymraeg yn rhywbeth rwy'n angerddol iawn amdano ac mae'n golygu llawer i fod yn rhan o'r sioe hon."
Mae Branwen: Dadeni wedi’i ysgrifennu gan Hanna Jarman, Elgan Rhys a Seiriol Davies, gyda geiriau a cherddoriaeth gan Seiriol Davies. Caiff ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Frân Wen Gethin Evans, gyda’r tîm creadigol sydd eisoes wedi’i gyhoeddi yn cynnwys y dylunydd set a gwisgoedd Elin Steele, y dylunydd goleuo Bretta Gerecke, y sgoriwr Owain Gruffudd Roberts, a’r cyfarwyddwr castio Hannah Marie Williams.
Bydd Branwen: Dadeni yn agor yn Theatr Donald Gordon Canolfan Mileniwm Cymru (8–11 Tachwedd 2023), yn teithio i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth (15–17 Tachwedd 2023) ac yn gorffen yng Nghanolfan Pontio, Bangor (22–25 Tachwedd 2023). Mae tocynnau eisoes ar werth ymhob lleoliad.
Teyrnas ar chwâl. Brenhiniaeth lwgr. Cenhedlaeth newydd yn ysu am newid. Sioe gerdd epig Gymraeg yw Branwen: Dadeni sy’n dod ag un o’n chwedlau mwyaf adnabyddus i mewn i’r byd cyfoes.
Ar ôl rhyfel cartref gwaedlyd, teulu Llŷr sy’n rheoli gwlad Cedyrn. Mae Branwen, y dywysoges ifanc garismatig sydd wedi ennill calonnau’r bobl, yn awyddus i symud ei gwlad ymlaen, ond dyw ei brawd, y brenin, ddim yn gwrando.
Yn ystod ymweliad annisgwyl Brenin Iwerddon, mae hi’n gweld ei chyfle: dianc i wlad flaengar a llewyrchus lle bydd ei llais hi’n cyfrif a bydd ganddi’r grym i newid pethau. Ond, wrth i’w seren hi godi, mae pob bargen, bradychiad a chorff yn ei harwain yn ddyfnach i’r tywyllwch, tan, ar drothwy diwedd popeth, fe ddaw’r gost yn glir.
Beth fyddech chi’n ei aberthu i greu byd cyfiawn?
Branwen: Dadeni yw’r diweddaraf mewn rhediad o gynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru sy’n meithrin awduron a thalent greadigol yng Nghymru ac o Gymru. Mae eu cynyrchiadau llwyddiannus yn cynnwys sioe arobryn Jennifer Lunn, Es & Flo (2023); The Boy with Two Hearts (2021) gan Hamed Amiri, a drosglwyddodd yn ddiweddar i’r National Theatre yn Llundain; The Making of a Monster (2022) gan Connor Allen, Anthem (2022) gan Llinos Mai a The Beauty Parade (2020) gan Kaite O’Reilly.
Mae gwaith diweddar Frân Wen yn cynnwys taith genedlaethol y ddramedi Gymraeg am dyfu i fyny, Croendena, a werthodd allan; Ynys Alys (2022) a oedd yn dilyn stori merch ifanc wrth iddi chwilio am ei hannibyniaeth; a Faust & Greta (2021), cyd-gynhyrchiad gyda Theatr Genedlaethol Cymru a Pontio – profiad theatraidd digidol wedi’i ysbrydoli gan gyfieithiad Cymraeg T. Gwynn Jones o glasur Goethe ‘Faust & Greta’.