Sesiwn gyflwyno ar gyfer pob sefydliad diwylliannol (neu’r rhai sydd angen eu hatgoffa)
Oeddech chi’n gwybod bod unrhyw sefydliad diwylliannol yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth am ddim i ddeall eu cynulleidfaoedd yn well?
Ers 2019, mae cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru wedi golygu bod pob sefydliad yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at y canlynol:
- Cymorth a chyngor un-i-un gan arbenigwyr datblygu cynulleidfaoedd
- Help i adnabod cynulleidfaoedd presennol a darpar gynulleidfaoedd
- Dadansoddiadau o arolygon a thocynnau trwy Audience Answers
- Setiau data meincnodi cenedlaethol
- Segmentau’r Audience Spectrum
- Cymorth i ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd/cynhwysol
- Arolygon dwyieithog o gynulleidfaoedd
- Hyfforddiant sgiliau rheolaidd a gweminarau ar ganfyddiadau’r dystiolaeth ddiweddaraf
- Fframweithiau, adnoddau, astudiaethau achos a sesiynau rhannu gwybodaeth wedi’u hwyluso
Mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu darparu gan dîm o ymgynghorwyr ac arbenigwyr cymorth yn Audience Agency, ac maent ar gael i bob canolfan gelfyddydau, oriel, theatr, lleoliad ffilm neu gerddoriaeth, safle treftadaeth, gŵyl, sefydliad celfyddydau cymunedol a sefydliad celfyddydau awyr agored yng Nghymru.
Yn y sesiwn ar-lein am ddim yma, byddwn yn rhoi trosolwg o’r gwasanaethau sydd ar gael (gan gynnwys dangosfwrdd Audience Answers), yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ac yn eich cyfeirio at y camau nesaf.
Sesiwn yn y Saesneg.
Am ddim, ar-lein (Zoom)
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2.00pm - 3.00pm