Mae Rhwydwaith Ein Llais, mewn partneriaeth gyda Theatr y Sherman, yn cefnogi dau artist o’r Mwyafrif Byd-eang i ddatblygu fel storïwyr ac i feithrin cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru. 

Mae Bwrsarïau Ein Llais 2024 wedi eu bwriadu ar gyfer y rhai nad oes ganddynt brofiad ffurfiol neu broffesiynol o ysgrifennu, ond sy’n angerddol dros adrodd straeon, ac felly dewisir y ddau berson fydd yn derbyn y bwrsarïau drwy broses agored.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cymorth am un flwyddyn (Medi 2024 – Awst 2025) ac yn derbyn y canlynol:

  • sesiynau mentora misol gyda staff Theatr y Sherman i gefnogi eu datblygiad fel storïwyr;
  • cefnogaeth gan yr artist Krystal S. Lowe, sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais, yn cynnwys cymorth gyda llunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, a meithrin cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad eu gyrfa;
  • arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith-ar-waith yn y digwyddiad Rhannu Ein Llais 2025 a drefnir gan Theatr y Sherman a’i gynhyrchu gan Krystal S. Lowe; ynghyd â
  • bwrsari o £500 i helpu gyda chostau a thalu am amser i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd. 

Tafsila Khan ac Aliyy Azad Malik sy’n derbyn Bwrsari Ein Llais 2024.  

Mae Tafsila Khan yn ymgynghorydd mynediad ddall, a gwneuthurwr theatr, yng Nghymru; mae’n teimlo’n angerddol dros straeon gwir a rhoi llais i’r rhai nad ydynt fel arfer yn cael gwrandawiad. Caiff ei symbylu i greu newid o fewn cymdeithas, ac mae hygyrchedd wrth galon ei gwaith er mwyn datblygu ymgysylltiad dyfnach gyda’r celfyddydau. Ar hyn o bryd, mae Tafsila yn datblygu ei sgiliau fel dramatwrg ac awdur. 

Wrth dderbyn ei Bwrsari Ein Llais 2024, dywedodd Khan: “Y peth mwyaf cyffrous i mi ynghylch y bwrsari yw y byddaf yn rhan o rwydwaith o artistiaid talentog o bob cefndir sy’n gweithio mewn amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol; gallaf gyfnewid syniadau a gwybodaeth gyda nhw, a bydd hynny yn ei dro yn cynyddu cyfoeth a dyfnder fy ymarfer creadigol.”

Mae’r awdur Aliyy Azad Malik yn byw yng Nghymru ac yn mwynhau ymchwilio fel rhan o’u proses o ysgrifennu, gan ffocysu ar straeon am bobl, ysbrydolrwydd, ecoleg, a chymuned. Mae Aliyy, sy’n arbenigo ar farddoniaeth a ffuglen, yn datblygu eu hymarfer ysgrifennu mewn nifer o wahanol ffyrdd – o ysgrifennu ar deithiau trên i ymuno â charfan datblygu awduron Cynrychioli Cymru Llenyddiaeth Cymru 2024/2025.

Wrth edrych ymlaen at flwyddyn y bwrsari, dywedodd Malik: “Mae cael cefnogaeth gyson gan fentor ar gyfer fy mhrosiectau ysgrifennu am flwyddyn gron, fel bod modd i mi ffocysu’n llwyr, yn rhywbeth hynod o gyffrous i mi. Bydd y cysylltiad agos a’r argaeledd yn bwysig i’m helpu i oresgyn rhai o’r anawsterau sy’n codi wrth ysgrifennu, megis diffyg cymhelliad o bryd i’w gilydd, neu wrth gael fy llethu gan yr holl rannau symudol sydd mewn stori.”

Dywedodd Davina Moss, Rheolwr Llenyddol Theatr y Sherman: “Mae Aliyy a Tafsila yn artistiaid anhygoel o gyffrous. Rydym wrth ein bodd yn cael bod yn rhan o’u taith drwy Fwrsari Ein Llais 2024 – ac yn aros yn eiddgar at weld beth fyddan nhw’n ei greu.”

Dywedodd Krystal S. Lowe, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Rhwydwaith Ein Llais: “Mae Tafsila Khan ac Aliyy Azad Malik yn artistiaid angerddol, penderfynol sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol, yn gwneud defnydd o’u hysgrifennu ar eu cyfer eu hunain ac i helpu i wneud y byd o’u cwmpas yn lle gwell. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa bethau anhygoel y byddant yn llwyddo i’w gwneud eleni, gyda Theatr y Sherman a Rhwydwaith Ein Llais wrth eu hochr yn eu cefnogi a’u hannog ymlaen!”