Yn ddiweddar, cyflwynodd Music Theatre Wales The Scorched Earth Trilogy – tair opera celfyddyd stryd yn codi cwestiynau am Newid Hinsawdd – yn Spit & Sawdust, Caerdydd. Câi’r tair opera 10-munud yr un eu taflunio ar waliau’r parc sglefrio i fynnu newid hinsawdd, ac i roi sylw i ddulliau newydd a chyffrous o gyflwyno opera, y celfyddydau ac actifiaeth.
Ynghyd â’r Scorched Earth Trilogy, roedd MTW hefyd wedi comisiynu PWSH i greu gwaith celf newydd mewn ymateb i’r operâu celfyddyd stryd. Mae Molly Sinclair-Thomson wedi creu murlun PWSH newydd yn Spit & Sawdust.
Mae The Scorched Earth Trilogy yn opera fel actifiaeth, gyda’r lluniau’n cael eu taflunio ar waliau fel celfyddyd stryd. Mae’r darnau byr yn gwneud i bobl chwerthin tra hefyd yn eich sbarduno i fynnu newid. Cyflwynodd Music Theatre Wales y gyfres hon o dair opera celfyddyd stryd fel ffordd newydd o ofyn i bobl ystyried y drychineb hinsawdd rydyn ni’n ei hwynebu, a’r diffyg gweithedu o ddifrif ar yr hinsawdd. Er mwyn creu rhywbeth mwy hir-dymor ochr yn ochr â’r operâu, aeth MTW ati i gomisiynu PWSH i weithio gydag artist i greu murlun i sbarduno a pharhau’r drafodaeth am newid hinsawdd. Dyma ddywedodd Molly Sinclair-Thomson am ei gwaith celf:
“Ro’n i’n awyddus i gyfleu’r problemau mae natur yn eu hwynebu oherwydd bod pobl yn cymryd mantais o adnoddau’r ddaear. Y goleuadau llachar yn drysu’r adar ac yn amharu ar y bywyd gwyllt. Pobl yn mynd ar dir sy’n perthyn i greaduriaid eraill. Wrth i wres yr haul godi’n uwch ac uwch, mae’r coed yn troi’n fatshys a’r sêr yn cwympo o’u lle. Mae’r lliwiau llachar yn eich tynnu i mewn, ond rhaid edrych yn fanylach i ddod o hyd i’r stori.”
Dywedodd Rachel Kinchin, Cyfarwyddwr Artistig PWSH: “Rydw i am i PWSH greu gofodau cynhwysol lle gall artistiaid greu gwaith i wynebu’r cyhoedd, sy’n dathlu gwahaniaeth, yn cyfrannu at ffabrig ein dinas, a chanddo rywbeth i’w ddweud am newid cymdeithasol. Roedd dod â’r bartneriaeth hon ynghyd yn ymddangos fel paru perffaith . . . mae gwaith celf Molly mor llawen i edrych arno ond yna, yn y straeon hyn mae hi wedi eu creu, rydych yn edrych ychydig yn fanylach ac mae yna ddyfnder a dwyster sy’n mynnu ein sylw.”
Ar ran Music Theatre Wales dywedodd y Cyfarwyddwr, Michael McCarthy: “Mae Opera Celfyddyd Stryd yn rhywbeth rydw i wedi bod yn edrych arno ers tro, a phan aeth Irish National Opera ati i greu trioleg am yr argyfwng hinsawdd, fe wyddwn y byddai’n rhaid i ni ddechrau trwy eu dangos hwy. Rydyn ni’n dymuno defnyddio opera i rannu straeon a syniadau sy’n bwysig i ni nawr, ac yn dilyn y digwyddiad hwn byddwn yn comisiynu gwaith newydd gan artistiaid o Gymru i ddefnyddio Opera Celfyddyd Stryd i drafod beth bynnag sy’n fwyaf pwysig iddyn nhw. Mae gweithio gyda PWSH ar gomisiynu gwaith newydd wedi bod yn ffordd ddelfrydol o ddatblygu’r berthynas rhyngom fel rhai sy’n creu opera newydd a chelf newydd, cyffrous ar gyfer y cyhoedd.”
Mae Music Theatre Wales (MTW) yn bodoli er mwyn anadlu bywyd newydd i mewn i opera, gan ei gyflwyno fel adrodd straeon trwy gyfrwng cerddoriaeth ac anelu at adfywio opera fel gweithgaredd sy’n hygyrch i bawb ac yn llawn mynegiant. Rydym yn meithrin artistiaid a fydd yn creu opera’r dyfodol ac yn cyflwyno opera mewn dulliau dychmygus a fydd yn helpu i newid y rhagdybiaethau cyffredin o’r hyn ydyw opera a’r hyn y gall fod. Rydyn ni’n gofyn: Beth yw Opera? Pwy sy’n ei greu? ac Ar gyfer pwy y mae e?
Mae PWSH, yng Nghaerdydd, yn brosiect celfyddyd stryd a chyhoeddus sy’n radical a chwareus; mae’n dathlu gwahaniaeth ac yn ail-ddychmygu gofodau cyhoeddus.
Mae Molly Sinclair-Thomson yn artist Gymreig yng Nghaerdydd sy’n gweithio’n bennaf ar greu peintiadau unigryw ar gynfas, a nwyddau y gellir eu hargraffu; mae hi’n mwynhau creu darnau o gelf sy’n gyflyrau breuddwydiol a swreal, yn llawn lliwiau a siapiau sy’n mynnu sylw. Gan ddefnyddio paent fel ei ffordd hi o gyfathrebu gan ddefnyddio symboliaeth a lliw, mae hi hefyd yn mwynhau dod â bywyd i fydoedd haniaethol. Mae’n peintio pobl ac anifeiliaid gan anelu at sbarduno’r meddwl a chreu naws briodol ar gyfer chwarae a chysylltiad.
Mae Spit & Sawdust yn ofod cymunedol yng Nghymru sy’n cynnwys parc sglefrio, caffi, gofod celfyddydol a stiwdio. Wedi’i sefydlu yn 2014, ei nod yw cynnig gofod unigryw a chroesawgar, celfyddydol, creadigol a chymdeithasol yn y ddinas.
Cafodd The Scorched Earth Trilogy ei greu gan DUMBWORLD mewn cyd-gynhyrchiad gydag IRISH NATIONAL OPERA. Y geiriau a’r cyfarwyddo gan John McIlduff. Cerddoriaeth gan Brian Irvine. Cyflwynwyd mewn perthynas â Chanwr y Byd Caerdydd 2023 ac yng Nghymru gan Music Theatre Wales.