Yn y gweithdy hwn, bydd Katy yn helpu cyfranogwyr i archwilio gwahanol ffyrdd y gallwn roi ein bywydau a’n meddyliau ar lwyfan heb ddilyn naratif taclus.
Drwy broses ddyfeisio, byddwn yn arbrofi gyda fideo, sain, testun, symudiad ac ailadrodd – gan gymysgu’r cyfan gyda’i gilydd i greu rhywbeth sy’n gwneud synnwyr yn ei ffordd ryfedd ei hun. Rydyn ni’n blaenoriaethu teimladau dros neges, pethau go iawn dros bethau caboledig.
Meddai Katy, “Rydw i eisiau gwneud gwaith sy’n teimlo’n amrwd – sy’n dangos y llanast, y diflastod, y llawenydd, y darnau afiach – y cyfan. Rydw i eisiau i gynulleidfaoedd ddod o hyd i’w hystyr eu hunain yn y gwaith. Sut gallwn ni wneud gwaith nad yw’n esbonio bywyd, ond sy’n gadael i ni ei deimlo?
Bydd gwahoddiad i ddod â’ch sain, ffilm a thestun eich hun i’r gweithdy ymlaen llaw i arbrofi gyda nhw. Bydd manylion hyn yn cael eu hanfon atoch pan fyddwch chi’n cadw lle.
PWY? Unrhyw un 18 oed a hŷn
PRYD? Dydd Sul 29 Mehefin, 10:30 - 2:30
BLE? Hyb Llaneirwg, Caerdydd. CF3 0EF
PRIS? Mae'r gweithdi am ddim ond mae angen blaendal o £5, a bydd hwn yn cael ei ad-dalu wrth ddod i’r gweithdy.