Dydd Gwener 21 Tachwedd 2025 - Dydd Sul 12 Ebrill 2026
10:00 am - 4:30 pm
Prynwyd mewn partneriaeth â Chyfeillion y Glynn Vivian.
Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Iau 20 Tachwedd, 17:30 – 20:00.
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn falch o gyhoeddi enillydd Gwobr Wakelin ar gyfer 2025. Rhoddir y wobr flynyddol i artist sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, y prynir ei waith ar gyfer casgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.
Derbynnydd Gwobr Wakelin 2025 yw Lucia Jones. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Brendan Stuart Burns, Anthony Shapland, Catrin Webster, Jonathan Anderson, Meri Wells, David Cushway, Helen Sear, Clare Woods, Alexander Duncan, Philip Eglin, Richard Billingham, Cinzia Mutigli, Anya Paintsil ac Ingrid Murphy.
Y detholwr eleni yw Jonathan Powell, artist a chyfarwyddwr Oriel Elysium, Abertawe. Meddai Jonathan, “Mae arfer Lucia Jones yn archwilio cof a hunanganfyddiad drwy baent a ffilm. Gan ganolbwyntio ar yr enaid benywaidd, daw ei hysbrydoliaeth o ffilmiau cyllideb isel ers y 1950au, hanes celf a’i ffotograffau ei hun, ac mae’n gosod menywod mewn cyd-destun gwahanol fel testunau dienw mewn amgylcheddau toredig a ffugiedig. Mae’r golygfeydd paentiedig hyn yn gweithredu fel seiffr ar gyfer profiad bywyd, pethau i gael cipolwg arnynt a’u harchwilio. Mae ei gwaith diweddar yn archwilio natur berfformiadol benyweidd-dra a geir o bryd i’w gilydd, gan ddarlunio ffigurau mewn gofodau sy’n pylu’r ffiniau rhwng yr hyn sy’n real a’r hyn a ddychmygir, yr hyn a ddatgelir ac a guddir. Maent yn archwilio’r tyndra rhwng cyfyngiadau cymdeithasol ac ymreolaeth bersonol.”
Meddai Lucia Jones, “Mae Gwobr Wakelin wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i artistiaid o Gymru dros y chwarter canrif diwethaf, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar am fod yn dderbynnydd. Mae ennill y wobr hon yn golygu llawer iawn i mi; mae cael gwobr brynu ar gyfer casgliad cyhoeddus yn garreg filltir bwysig yn fy ngyrfa. Mae cael eich cydnabod gan Oriel Gelf Glynn Vivian- sefydliad mor fawreddog sydd wedi bod yn gonglfaen tirwedd artistig Cymru ers dros 100 mlynedd – hefyd yn anrhydedd ryfeddol. Rwy’n falch o ymuno â’r gwaddol o artistiaid anhygoel yng Nghymru sydd wedi derbyn yr anrhydedd hon. Mae Gwobr Wakelin yn gymhelliant a bydd yn fy ngalluogi i barhau i greu a chyfrannu at y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt.”
Gweinyddir y wobr gan Gyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian ac fe’i cefnogir yn hael gan roddion ariannol er cof am Richard a Rosemary Wakelin, a’u mab Martin, yr oeddent hwythau hefyd yn artistiaid ac yn gefnogwyr brwd y celfyddydau yn Abertawe.
Meddai Dr Peter Wakelin, “Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn ased gwych i bobl Abertawe. Rydym wrth ein boddau bod Cyfeillion a staff yr oriel yn parhau i ddefnyddio’r wobr i gryfhau’r casgliad a chefnogi talent o Gymru. Byddai fy rhieni wedi dwlu ar hynny.”
Melvyn Williams, Cadeirydd Cyfeillion y Glynn Vivian, “Mae’n fraint arbennig i Gyfeillion y Glynn Vivian fod yn rhan o ddewis gwaith a ddaw’n rhan o’n treftadaeth genedlaethol. Mae hefyd yn wych gallu cefnogi artistiaid cyfoes drwy gronfa Wakelin i ddatblygu eu gyrfaoedd yn y modd hwn. Bydd y gweithiau enigmatig ac ysgogol hyn gan Lucia Jones yn ychwanegiad gwych at gasgliad parhaol Oriel Gelf Glynn Vivian.”
Meddai Karen Mackinnon, Curadur yn Oriel Gelf Glynn Vivian, “Rydym wrth ein bodd gyda’r detholiad o waith Lucia ac yn ddiolchgar iawn i Peter; y teulu Wakelin a Chyfeillion y Glynn Vivian. Dyma’r tri chelfwaith a brynwyd: ‘I can’t fit into this dress anymore’ (2023); ‘Do you want to form an alliance with me’ (2024) a ‘Fake it till you make it’ (2024). Drwy ei gwaith, mae Lucia yn astudio adeiladwaith benyweidd-dra, yn aml gydag ymdeimlad o hiraeth. Mae’r gweithiau hyn yn rhai deniadol ac annifyr ac maent wir yn cyd-fynd â’r gweithiau eraill yn y casgliad. Diolch yn fawr iawn i Lucia, ac i Jon am fod yn ddetholwr mor ystyriol.”
Gweinyddir a chefnogir y wobr gan Gyfeillion y Glynn Vivian ac fe’i hariennir hefyd drwy roddion er cof am Richard a Rosemary Wakelin.