Cystadleuaeth gelf flynyddol yw Abertawe Agored sy'n agored i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu celf a chrefft gan artistiaid a gwneuthurwyr ledled y ddinas. Dangosir y gweithiau a ddewiswyd o’r rheini a gyflwynwyd yn ystafell 3 yr oriel.
Gwahoddir panel gwahanol i ddethol y darnau o waith bob blwyddyn ac mae hyn yn annog amrywiaeth o safbwyntiau yn flynyddol. Mae'r arddangosfa'n ceisio adlewyrchu ymwybyddiaeth feirniadol a diwylliannol gan gynnwys amrywiaeth eang o weithiau gan artistiaid proffesiynol ac amatur. Dewisir tri enillydd o'r ymgeiswyr a arddangosir bob blwyddyn, gyda gwobr gyntaf o £250, ail wobr o £150 a thrydedd wobr o £100. Cyhoeddir enwau'r enillwyr ar ddiwrnod agor y gystadleuaeth ddydd Sadwrn 3 Chwefror.
Hefyd, bydd Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian yn cyflwyno gwobr £200 am waith celf penodol.
Y detholwyr gwadd eleni yw Alan Whitfield, artist gweledol a Swyddog Datblygu Celfyddydau Gweledol Celfyddydau Anabledd Cymru, a Dr Zehra Jumabhoy, hanesydd celf, curadur, awdur a Darlithydd Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste.
Meddai curadur Oriel Gelf Glynn Vivian, Karen MacKinnon,
“Mae bob amser yn hyfryd pan ddaw’n amser cynnal ein harddangosfa flynyddol, Abertawe Agored. Mae'n cynnig cyfle gwych i ddathlu holl greadigrwydd pobl ein dinas. Rydym yn annog cynigion gan bawb, gan gynnwys artistiaid proffesiynol ac amatur, myfyrwyr celf a chrewyr o bob rhan o Abertawe.
“Hyd yn oed os nad ydych yn cyflwyno’ch gwaith eleni, lledaenwch y gair a dewch â’ch ffrindiau a’ch teulu i weld y dathliad hyfryd hwn o gelfweithiau amrywiol a chyffrous.”
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn yr oriel tan ddydd Sul 19 Mai 2024, gyda llawer o’r gwaith ar werth fel rhan o’r arddangosfa.