Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i gymryd rhan yn ‘The Hobby Cave’, yr arddangosfa fwyaf erioed o hobïau'r DU. O wneuthurwyr ac addaswyr i grefftwyr a chasglwyr, mae Oriel Gelf Glynn Vivian ochr yn ochr â'r artist arobryn sy'n frwdfrydig dros Spider-Man, Hetain Patel ac Artangel, yn gwahodd cynulleidfaoedd i rannu manylion eu hobïau i lywio prosiect cenedlaethol a chaiff ei gynnal mewn 12 lleoliad ledled y DU o haf 2024, gan gynnwys yn Oriel Gelf Glynn Vivian. 

Bydd miloedd o wrthrychau unigryw o waith llaw y'u rhoddwyd ar fenthyg gan gannoedd o bobl yn cael eu harddangos, gyda chyfraniadau'n cael eu gwahodd gan hobïwyr fel gwneuthurwyr gwisgoedd a gwisg-chwarae, croswyr a gwewyr, cerfwyr pren a gwneuthurwyr modelau, ceramegwyr, peirianwyr roboteg, arbenigwyr origami, selogion ceir estynedig a llawer mwy. 

Bydd ‘The Hobby Cave’, sydd wedi'i gomisiynu gan Artangel, yn dathlu'r miliynau o bobl ledled y DU sy'n rhoi o'u hamser hamdden i weithgareddau y maent yn frwd iawn amdanynt. Bydd yn archwilio sut mae unigolion yn mynegi eu hunaniaeth, eu cymeriad a'u creadigrwydd trwy eu hoff ddifyrion. Bydd yr arddangosfa agoriadol yn agor yn Llundain ym mis Gorffennaf 2024, a dilynir hyn gan gyflwyniadau wedi'u curadu mewn lleoliadau partner ledled y DU drwy gydol 2025. 

Wrth wraidd y prosiect mae ffilm newydd gan Patel, sy'n archwilio'r creadigrwydd a'r brwdfrydedd eithriadol y mae pobl yn eu rhoi i'w hobïau. Mae'r ffilm yn mabwysiadu arddull nodweddiadol yr artist o gyfuno cynhyrchiad sinematig o safon â golygfeydd o fywyd pob dydd i arddangos difyrion byrhoedlog a gwrthrychau o waith llaw mewn iaith weledol a gedwir fel arfer ar gyfer ffilmiau Hollywood a hysbysebu moethus. 

Meddai Hetain Patel,

"Mae pethau o waith llaw bob amser wedi bod yn obsesiwn gennyf. Wrth dyfu i fyny yn Bolton, mewn cartref dosbarth gweithiol a oedd yn ddiwylliannol Indiaidd, roeddem yn bwyta gyda'n dwylo, ac roedd llawer o fy mherthnasau'n gweithio fel rhan o'r gweithlu llafuriol mewn ffatrïoedd lleol. Y peth grymusol am hobïau yw dewis, a gwneud rhywbeth ar ein telerau ein hunain. Mae'r weithred greadigol yn wirioneddol obeithiol, a chanddo fanteision enfawr i ni yn unigol ac yn rhywbeth sy'n ein cysylltu ag eraill, waeth beth fo'n gwahaniaethau."   

Meddai Mariam Zulfiqar,

"Mae gwaith Hetain Patel bob amser wedi'n gwahodd i fyfyrio ar hunaniaeth fel rhywbeth amlddimensiynol a chymhleth. Ar gyfer ‘The Hobby Cave’ mae'n estyn gwahoddiad yn hael i bobl o gwmpas y wlad, gan ofyn iddynt rannu'r gwrthrychau, y gweithgareddau a'r difyrion sy'n ffurfio rhan o'u hunaniaeth. Mae'r cyflwyniad uchelgeisiol hwn lle'r arddangosir cannoedd o wrthrychau y'u rhoddwyd ar fenthyg gan yr un faint o hobïwyr yn creu math newydd o lun, lle gwelir pobl a'u hunaniaethau y tu hwnt i gategorïau cenedlaethol, hiliol, rhyweddol neu sy'n gysylltiedig ag oedran sy'n categoreiddio pwy yr ydym yn gonfensiynol.  

"Mae Artangel yn gweithio gyda rhwydwaith o sefydliadau celfyddydol a diwylliannol blaenllaw i wireddu'r prosiect uchelgeisiol hwn ar draws y DU ac yn cefnogi un o'n hartistiaid mwyaf cyffrous sy'n gweithio heddiw i greu prosiect eithriadol o gofiadwy a chynhwysol." 

Mae Hetain Patel yn artist ac yn wneuthurwr ffilmiau arobryn Prydeinig-Gwjarataidd. Mae llawer o'i ymarfer yn deillio o hobïau a diddordebau ei blentyndod, gan gynnwys ei frwdfrydedd gydol oes am Spider-Man. Yn 2013, creodd yr artist ei gerflun cyntaf, Fiesta Transformer, pan drawsnewidiodd ei gar yn robot Trawsffurfio go iawn gyda chymorth ei dad. The Hobby Cave yw prosiect mwyaf uchelgeisiol a phellgyrhaeddol Patel hyd yn hyn. 

Ychwanegodd Karen MacKinnon, Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian, 

“Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect cenedlaethol hwn sy’n dathlu hobïau’r genedl ac i gael y cyfle i weithio gyda’r artist gwych Hetain Patel. Mae’n brosiect unigryw ac ysbrydoledig, sy’n dathlu’r pethau gwych y mae pobl yn eu creu! Rydym yn sicr y bydd pobl yn Abertawe a de Cymru’n dwlu ar y cyfle i rannu eu difyrion. Mae hefyd yn hyfryd gallu gweithio gyda sefydliad anhygoel fel Artangel unwaith eto.” 

Mae partneriaid cenedlaethol yn cynnwys Factory International, Manceinion; Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe; Oriel Gelf ‘The Grundy’, Blackpool; Museum of Making, Derby Museums Trust; National Festival of Making gydag Amgueddfa ag Oriel Gelf Blackburn; Oriel Gelf Wolverhampton, Barnsley Civic; Amgueddfa ac Oriel Gelf Inverness; Northern Gallery for Contemporary Art, Sunderland; CCA Derry~Londonderry; Hospitalfield, Arbroath a Tate St Ives. 

Gall y cyhoedd gyflwyno manylion ynghylch eu hobïau drwy artangel.org.uk/mapping-our-hobbies 

#TheHobbyCave 

#MapioEinHobïau