Mae Glan yr Afon yn falch iawn o groesawu amrywiaeth o enwau mawr o fyd comedi i'w llwyfan yn nhymor yr Hydref wrth iddyn nhw gyflwyno sawl noson wych o gomedi.  Gyda chyfuniad o enwau cyfarwydd sefydledig a sêr newydd ym myd comedi, mae pob digrifwr yn siŵr o gael y gynulleidfa yn crio chwerthin gyda'u brand personol ac unigryw o gomedi.

Digrifwr stand-yp i'r sêr John Kearns sy’n dod â'i sioe 'The Varnishing Days' i Gasnewydd nos Sadwrn 2 Medi. Fydd dim ar goll, o jôcs sy’n eich llorio, yr hen sbectol nodweddiadol, roc a rol, ei wig wyllt, steil anghonfensiynol, y llyfu llawr a’r cyfiawnhau, y dannedd dwl, a’r sgwrs yn mynd i bob cyfeiriad.  Brysiwch, gan mai hyn o hyn yn unig o docynnau sydd. 

Digrifwr fu gynt yn nyrs yw Georgie Carroll a bydd ei hiwmor yn eich gadael yn sâl o chwerthin nos Fercher 20 Medi yn ei sioe sydd wedi ennill gwobrau ‘Sista Flo 2.0’. Gwelwyd hi gynt ar Just For Laughs Australia, Have You Been Paying Attention? Would I Lie to You, a The Project, Georgie hefyd enillodd sioe gomedi orau yn yr Adelaide Fringe.  Daw sioe Georgie i Gasnewydd yn syth ar ôl taith 150 noson yn Awstralia, gan gynnwys perfformiad a werthodd bob tocyn yn Sydney Opera House!

Mae Mark Simmons yn feistr ar one-liners a dyma fe gyda’i sioe newydd sbon danlli yn ymweld â Glan-yr-afon nos Iau 21 Medi.  Ond mae mwy yma na’ch sioe one-liner arferol, gan fod yna thema gyson drwyddi draw. Eleni mae rhieni Mark wedi gwerthu'r tŷ ei fagwraeth ac mae'n rhaid iddo gasglu ei focs o hen bethau o'r llofft. Dewch i ddarganfod beth sydd yn y bocs yn y sioe ffraeth arbennig hon wedi'i strwythuro mewn ffordd nad ydych chi erioed wedi'i gweld o'r blaen.  Yn ddiweddar, ymunodd Mark â Dara O'Brian a Hugh Dennis ar hen ffefryn BBC2 Mock the Week a bu hefyd ar raglen BT Sport DIY pundit a The Rugby’s On, Out There ar ITV ac One for the Road ar BBC3.

Yn dilyn Llwyddiant Hydref 2022, mae Mum’s the Word yn ôl nos Mercher 11 Hydref. Llawn y pethau yna nad oes neb yn dweud wrthoch chi am fod yn rhiant nes ei bod hi'n rhy hwyr. Yn y sioe ffraeth a difyr hon mae Cheryl Ferguson o Netflix ac Eastenders a'r actoresau Sarita Plowman a Poppy Tierney. Sioe ddyrchafol a gonest yw Mum's The Word am fod yn fam a’r ddrama y mae bywyd yn ei thaflu atoch chi. P'un a ydych chi’n gadael y tŷ heb eich bra, yn crio yn yr archfarchnad am ddim rheswm neu'n meddwl eich bod wedi rhoi genedigaeth i E.T, ni fyddwch chi’n teimlo ar eich pen eich hun wrth wrando ar y menywod hyn yn portreadu'r "harddwch" o ddod â bywyd newydd i'r byd.

Mae Markus Birdman yn ôl ym myd comedi gyda’i sioe o sioe Edinburgh Fringe a enwebwyd ar gyfer Gwobr Chortle. Roedd ei berfformiad yn rownd cyn-derfynol Britain’s Got Talent 2023 yn un cofiadwy, ac yn awr y mae’n dod i Gasnewydd nos Wener 13 Hydref.  Ar 5 Mehefin 2021, cafodd Markus ei ail strôc a wnaeth iddo golli hanner ei olwg yn barhaol.  Buodd yn yr ysbyty, yng nghanol y cyfnod clo, heb ymwelwyr. Yn ei sioe newydd 'Platinwm' mae'n siarad am ei brofiad, nid i greu teimladau o drueni, ond awch ac edmygedd wrth iddo geisio gwneud i chi chwerthin a chodi ychydig o ymwybyddiaeth hefyd.

Mae Fiona Allen, enillydd Gwobr Emmy ddwywaith a seren 'Smack The Pony' yn teithio yn ei sioe stand-yp gyntaf yr hydref hwn, a bydd yng Nglan-yr-Afon nos Iau 26 mis Hydref.  Fel y rhan fwyaf o famau sy'n gweithio, ers i'w phlant gael eu geni, nid yw hi wedi cael moment iddi hi ei hun.  Bellach yn rhydd, mae hi wedi rhoi cynnig ar hobïau newydd, lleoedd newydd a hyd yn oed yn ceisio cadw'n heini - anodd pan mai arth gysglyd yw eich anifail ysbryd! Heb unman ar ôl i droi penderfynodd fynd ar y ffordd fel stand-yp.  Sioe am deulu, priodas, a phethau sy'n ei gwylltio’n gacwn. Mae'n sioe i bawb, hyd yn oed y mamau ffroenuchel ‘na wrth gât yr ysgol...

Bydd noson ddoniol o stand-yp o'r radd flaenaf o feistr Gwyddelig comedi byw o fri rhyngwladol Jimeoin nos Sul 5 Tachwedd. Wedi ennill gwobrau gydag apêl eang ac ymdeimlad digrifwch chwaethus, di-gimmicks,  mae Jimeoin yn gadael cynulleidfaoedd mewn dagrau o chwerthin ledled y DU, Ewrop, UDA a'i famwlad fabwysiedig yn Awstralia. Mae Jimeoin wedi perfformio yn flaenorol The Royal Variety Performance, Byw yn yr Apollo, Nos Sul yn y Palladium a Conan O'Brien Ac mae wedi clocio cannoedd o filiynau o ymweliadau â'i glipiau comedi ar-lein.

Cyd-gyflwynydd podlediad poblogaidd rhyngwladol All Killa No Filla Fel ac fel a welwyd ar Alan Davies: As Yes Untitled ar Dave, Richard Osman’s House of Games ar y BBC, ac Russell Howard Hour Life Lesson yn Sky, Rachel Fairburn sy’n cyflwyno 'Showgirl'. Bydd Rachel yn ymweld â phob pwnc dan haul o'ch plant i'w bywyd di-alcohol ‘da iawn fi’ newydd (cywir adeg ysgrifennu). Ond mae hi'n poeni.  Ydy hi wedi meddalu ychydig? Mae hi'n cario crisial lwcus nawr.  Daliwch hi cyn iddi ddiflannu i gefn gwlad gyda dim ond ffyn llosgi a thacsidermi’n gwmni iddi.

Yn ogystal â'r holl nosweithiau gwych hyn o gomedi, clwb comedi misol Glan-yr-Afon Sied Gomedi sy’n parhau drwy gydol yr hydref ar nos Wener olaf pob mis wrth i dri digrifwr proffesiynol baratoi i ddiddanu. Mae'r gyfres hon o glwb comedi cabaret-arddull hamddenol wedi croesawu Alan Carr, Michael McIntyre, Russell Kane a llawer mwy yn rhoi cyfle i chi brofi sêr newydd cyn iddyn nhw gyrraedd yr uchelfannau.

Mae tocynnau ar gyfer yr holl nosweithiau comedi gwych hyn ar gael nawr ar-lein yn newportlive.co.uk/Performances neu drwy ffonio 01633 656757.