Mae Hear We Are wedi cael eu dewis o blith 3,750 o fudiadau ledled Prydain i fod ar y rhestr fer, er mwyn cyrraedd cam pleidlais y cyhoedd yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, sy’n dathlu pobl a phrosiectau ysbrydoledig sy’n gwneud pethau rhyfeddol gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol.    

Mae 17 o enwau ar y rhestr fer o bob rhan o wledydd Prydain, a bydd pob un yn cystadlu mewn pleidlais gyhoeddus dros bedair wythnos rhwng 11 Medi a 9 Hydref, i gael eu henwi’n Brosiect y Flwyddyn gan y Loteri Genedlaethol. Bydd yr enillwyr yn cael gwobr ariannol o £5,000 ar gyfer eu prosiect, a thlws eiconig Gwobrau’r Loteri Genedlaethol.  

Prosiect o dan arweiniad pobl Fyddar yw Hear We Are, sydd wedi cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol ac sy’n archwilio safbwyntiau rhyngblethol pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, yn enwedig y rhai sy’n gweithio yn y sector creadigol, neu sydd wedi’u heithrio ohono. Gan archwilio sut gall safbwyntiau a phrofiadau’r cyfranogwyr ddod at ei gilydd i greu newid cadarnhaol, maen nhw’n gweithio i wella mynediad at y sector ar gyfer pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw, drwy agor deialog a chreu strwythurau cymorth a chyflwyno mawr eu hangen. 

Ers i’r prosiect ddechrau yn 2021, mae’r tîm - sy’n cael ei arwain gan yr ymgynghorydd creadigol a’r artist perfformio Byddar Jonny Cotsen - wedi gweithio gyda Chapter i sefydlu rhwydwaith o fannau diogel i bobl Fyddar a Thrwm eu Clyw ledled Cymru gael cwrdd, rhannu profiadau, a phrofi syniadau creadigol. Gan adeiladu grwpiau rhanbarthol, dan arweiniad mentoriaid creadigol Byddar, mae’r tîm wedi helpu i feithrin a datblygu doniau, gan annog sector celfyddydol sy’n fwy hygyrch i bawb, gyda’r cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i rannu eu profiadau byw er mwyn llywio a siapio digwyddiadau. 

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar ym mis Mai, trefnodd y tîm ddigwyddiad tri diwrnod Deaf Together, sef yr ŵyl gyntaf o dan arweiniad pobl Fyddar yng Nghymru, a oedd yn arddangos doniau creadigol anhygoel pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw. Y gobaith yw y bydd yr ŵyl yn dod yn ddigwyddiad blynyddol, ac mae’r nesaf wedi’i chynllunio ar gyfer mis Medi 2024. Er mwyn gwireddu hyn, maen nhw’n gofyn am gymorth drwy eich pleidlais i ennill Prosiect y Flwyddyn 2023 Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. 
  

Meddai Hannah Firth, Cyfarwyddwr Artistig / Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Gelfyddydau Chapter: “Mae’n teimlo’n arbennig iawn cael ein henwebu ar gyfer y wobr fawreddog yma, a chael ein cydnabod am yr holl waith rydyn ni’n ei wneud er mwyn gwneud y celfyddydau’n fwy hygyrch i bobl Fyddar a thrwm eu clyw yng Nghymru. Mae prosiect Clywch Ni wedi bod yn hanfodol wrth alluogi pobl Fyddar i deimlo’n fwy hyderus, gweladwy ac wedi’u cysylltu â sector y celfyddydau. Mae tipyn o ffordd i fynd eto, ond gobeithio y gallwn ni gefnogi mwy o bobl drwy’r wobr yma, gan greu dyfodol mwy teg a chynhwysol i bawb. Pleidleisiwch amdanon ni!”  

  

Ychwanega Jonny Cotsen, artist arweiniol Hear We Are: “Roedd gen i weledigaeth i ddatblygu a churadu rhaglen o dan arweiniad pobl Fyddar sy’n pontio’r bwlch rhwng ein cymunedau, er mwyn cael y sgyrsiau mawr yna mewn mannau diogel a hygyrch. Fel rhan o Hear We Are, roedd gŵyl Deaf Together yn ddathliad o undod, amrywiaeth a chreadigrwydd, gan gysylltu gyda chymunedau Byddar ac sy’n clywed fel ei gilydd, wrth i ni ddod at ein gilydd i anrhydeddu cyfoeth diwylliant Byddar. Dw i’n falch iawn bod Hear We Are wedi gwneud yn union hynny, ac rydyn ni’n gyffrous iawn i gael ein henwebu ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol er mwyn gwneud y gwaith yma’n fwy gweladwy. Er ein bod ni’n wlad fach, mawr yw’r angen am y gwaith yma, i weld cymdeithas fwy cynhwysol. Pleidleisiwch amdanon ni i weld y newid yna rydyn ni eisiau ei greu yn y byd.”  

Dywedodd Jonathan Tuchner o’r Loteri Genedlaethol: “Rydyn ni mor falch o fod wedi cael cymaint o enwebiadau yn amlygu’r gwaith ardderchog mae prosiectau sy’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol yn ei wneud ar hyd a lled gwledydd Prydain. Dydy hi ddim yn gyfrinach bod pethau’n anodd ar hyn o bryd, felly mae’n wych gweld cymaint o bobl a phrosiectau’n rhoi cymaint o amser ac egni i roi rhywbeth yn ôl i’w cymunedau.  

Diolch i gyfraniad chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy’n codi dros £30 miliwn bob wythnos at achosion da, mae gwaith y prosiectau anhygoel yma’n bosib.” 

 

Er mwyn pleidleisio am Hear We Are, ewch i lotterygoodcauses.org.uk/awards a dewiswch Hear We Are.  Neu defnyddiwch yr hashnod Twitter #NLAHearWeAre. Mae’r bleidlais ar agor rhwng 9am 11 Medi a 12pm 9 Hydref.