Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn llawn cyffro wrth gyhoeddi y bydd eu gŵyl Sblash Mawr yn dychwelyd Ddydd Sadwrn 22 a Dydd Sul 23 Gorffennaf. Yr ŵyl hon yw'r ŵyl gelfyddydol awyr agored fwyaf yng Nghymru ac mae'n denu dros 20,000 o ymwelwyr i'r ddinas. Mae Theatr Glan yr Afon wrth eu boddau i fod yn croesawu’r ŵyl yn ôl ac yn methu aros i groesawu ymwelwyr o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt.

Bydd y ddinas yn dod yn fyw wrth i’r ŵyl unwaith eto ryfeddu, difyrru a diddanu pobl leol ac ymwelwyr o bob oed gyda theatr stryd, cerddoriaeth fyw, gweithdai a gweithgareddau celf a chrefft, a’r cyfan ar gael i’w mwynhau am ddim. Bydd perfformiadau mewn nifer o leoliadau ar hyd a lled canol y ddinas gan gynnwys rhodfa'r afon, Sgwâr John Frost a Commercial Street wrth i Gasnewydd gael ei thrawsnewid yn llwyfan awyr agored mawr.

Gyda changarŵs enfawr yn neidio, ungyrn swrth, pili-pala yn codi pwysau a gwlithen yn nofio, roedd gŵyl y llynedd yn fwrlwm enfawr o liw ac egni ar strydoedd Casnewydd, gan adael cymaint o bobl yn galw am fwy. Roedd yr adborth a gafodd Glan yr Afon yn hynod gadarnhaol ac yn dangos cymaint y mae pobl Casnewydd a thu hwnt yn mwynhau'r digwyddiad.

Gwnaed Sblash Mawr 2023 yn bosibl o ganlyniad i'r arian hael gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Casnewydd Fyw, Ardal Gwella Busnes Casnewydd a Thrafnidiaeth Casnewydd. Mae cyfleoedd ar gael i noddi'r ŵyl eleni o hyd. Os hoffech noddi'r ŵyl, e-bostiwch marketing@newportlive.co.uk.

Dywed Andrea Ovey, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Casnewydd Fyw, 'Rydym wrth ein bodd yn gweld y Sblash Mawr yn dychwelyd yn 2023, mae'r tîm ar draws Glan yr Afon a Casnewydd Fyw yn parhau i ddatblygu'r ŵyl, y mwyaf o'i math yng Nghymru erbyn hyn, mae'n ddechrau gwych i gyfnod swyddogol Gwyliau’r Haf, ac mae’n bwysig ei bod yn cael effaith hynod gadarnhaol ar y ddinas a'i chymunedau, gan wneud y theatr, y celfyddydau a diwylliant yn hygyrch ac yn bleserus i bawb. Mae yna effaith hynod gadarnhaol hefyd i fusnesau canol y ddinas dros y penwythnos trwy'r nifer cynyddol o ymwelwyr y mae'r ŵyl yn eu denu. Diolch o galon unwaith eto i Gyngor Celfyddydau Cymru am wneud y digwyddiad yn bosibl, ynghyd â'n noddwyr masnachol sy'n darparu cymorth ychwanegol y mae mawr ei angen.”

Mae'r digwyddiad yn ddiwrnod perffaith i deulu a ffrindiau wylio, chwerthin, cymryd rhan ac ymgolli yn yr adloniant. Bydd pob gweithgaredd a sioe ar gael i'w mynychu am ddim. Bydd rhaglenni digidol ac wedi’u hargraffu ar gyfer y digwyddiad yn cael eu rhyddhau'n nes at yr amser er mwyn i chi gael gweld pwy sy'n perfformio ac ar ba lwyfan. Bydd rhagor o wybodaeth am y perfformwyr yn cael ei rhyddhau'n fuan. I gael y newyddion diweddaraf, cadwch lygad ar wefan a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol Glan yr Afon.