Bydd Penwythnos Animeiddio Caerdydd yn arddangos rhaglen fywiog a hybrid o animeiddiadau hiraethus, clasuron cwlt, a pherlau newydd sbon. Ar draws dangosiadau, sgyrsiau, gweithdai, a digwyddiadau cymdeithasol, gall cynulleidfaoedd fwynhau ffilmiau gyda’i gilydd, cymryd rhan mewn trafodaethau, treulio amser yn ailgysylltu, cwrdd â ffrindiau newydd, a chael hwyl!
Bydd y rhaglen yn cynnwys:
Dangosiadau Ffilm Nodwedd: y clasur deinosoriaid annwyl gan Don Bluth The Land Before Time; bil dwbwl Feather’s McGraw, Wallace & Gromit: The Wrong Trousers cyn y ffilm ddiweddaraf Vengeance Most Fowl; stori freuddwydiol a swreal ddod-i-oed Boys Go To Jupiter; ffilm nodwedd anime newydd sbon Ghost Cat Anzu; a’r clasur cwlt Cymraeg Y Dywysoges a’r Bwgan gyda dangosiad prin ar y sgrin fawr!
Ffilmiau Byrion: Ffefrynnau’r Ŵyl, uchafbwyntiau dethol o dros ddegawd o ddigwyddiadau Animeiddio Caerdydd; goreuon gŵyl Oska Bright, arddangosiad beiddgar o leisiau, arddulliau a themâu unigryw; a bydd cystadleuaeth Ffilm Fer ar Fyrder Caerdydd yn gofyn i dimau ledled y byd roi cynnig ar y gamp amhosib o greu ffilm animeiddio dros un penwythnos.
Sgyrsiau: Bydd yr arwr animeiddio sydd wedi’i enwebu am wobr Academy John R. Dilworth yn dod i Gaerdydd o Efrog Newydd i ddathlu chwarter canrif o’r clasur cwlt Courage the Cowardly Dog ar Cartoon Network, o stori anghredadwy cynnig y sioe, i’w gwaddol yng nghenhedlaeth heddiw o ffans animeiddio; a bydd Chris Shepherd yn rhannu ei nofel graffig gyntaf hiraethus ‘Anfield Road’ mewn trafodaeth gyda Hannah Lau Walker.
Gweithdai Rhyngweithiol, gan gynnwys gweithdy ymarferol animeiddio stop-symud gyda’r animeiddiwr Helen Piercy, a fydd yn defnyddio ffosilau lleol a hud technegau animeiddio traddodiadol i greu ffilm ddeinosor fach, a chyfle hefyd i greu eich Gromit a’ch Feathers McGraw eich hunan dan arweiniad arbenigol Aardman.
Bydd digwyddiad newydd sbon Brwydr Braslunio! yn dod ag artistiaid benben mewn brwydr cof cartŵn epig ar y llwyfan. Bydd y grŵp celf a ffilm lleol Sinema Colomendy yn cynnal sesiwn ymlaciol a hwyliog Darlunio Cŵn yn Fyw yn Corporation Yard.
Bydd arddangosfa o waith animeiddwyr o Gymru ochr yn ochr â’u trysorau ysbrydoledig. Mae Clwb Sinema One Bum, o bosib y sinema leiaf yn y byd, yn dychwelyd i Chapter. Ac mae Nosweithiau Animeiddio Caerdydd yn cychwyn y Penwythnos gyda pharti lansio yn nhafarn The Underdog yng nghanol dinas Caerdydd.
Bydd bob digwyddiad yn yr ŵyl yn cynnwys capsiynau a dehongliad Iaith Arwyddion Prydain, a bydd pob dangosiad a digwyddiad ar-lein yn cynnwys capsiynau.
Mae Pàs Dydd, Pàs Penwythnos, a thocynnau nawr ar werth ar wefan Gŵyl Animeiddio Caerdydd: