Glynn Vivian Gyda’r Hwyr, nos Wener 4 Hydref, 5.30pm – 8.00pm

Mae Eavesdropper, a grëwyd mewn ymateb i arddangosfa Heather Phillipson, Out of this World, yn ogystal ag ymchwil i Margaret Watts Hughes yn dyfeisio’r ‘eidoffôn’ ym 1887 (dyfais a grëwyd i ddelweddu’r llais dynol), yn archwilio syniadau gwrthdaro a chyfathrebu drwy ryngweithio, sain ac adnoddau gweledol.

Mae Heather Phillipson: Out of this World yn gomisiwn gan Gronfa Etifeddiaeth 14-18 NOW IWM trwy bartneriaeth ag Oriel Gelf Glynn Vivian. 

Mae’r gosodiad hwn, a fydd yn cael ei osod ar ddau safle, yn gwahodd gwylwyr i ymgymryd â rôl weithredol wrth gyflawni’r gwaith, ac i ystyried sut mae eu presenoldeb yn effeithio ar eu profiad eu hunain yn ogystal â phrofiad pobl eraill.

Artistiaid cydweithredol o Abertawe yn Ne Cymru yw Jason&Becky. Mae eu harfer yn ymateb i amodau gwleidyddol-gymdeithasol presennol drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau a fformatau arbrofol fel y gall cyfranogwyr ymgolli mewn mannau amwys y gellir eu dehongli’n unigol. Maent yn ceisio darganfod ffyrdd newydd o ymgysylltu â’r cyhoedd mewn ffordd greadigol yn gyson, ac mae ganddynt ddiddordeb penodol mewn gweithio o fewn y gwagle ymddangosiadol rhwng diwylliant ‘uchel’ a diwylliant ‘poblogaidd’.

Mae’r comisiynau newydd yn rhan o “Artistiaid Ydym Oll” a gefnogir gan y Prosiect Angori Diwylliant a Thwristiaeth yng Nghyngor Abertawe ac a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae ‘Artistiaid Ydym Oll’ yn rhan o Benwythnos Celfyddydau Abertawe a gynhelir ar draws y ddinas rhwng 4 a 6 Hydref 2024.