Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru a gyflwynir i chi gan Deaf Gwdihŵ (Jonny Cotsen a Heather Williams) a Chapter.

Mae’r dathliad tri diwrnod o 21-23 Tachwedd ar agor i bawb, ac yn cynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.

Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.

Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ddawns, trafodaethau a gweithgareddau i’r teulu, i ffilmiau, perfformiadau a chabaret.

Ymunwch â'n rhestr bostio i fod y cyntaf i wybod am yr holl ddigwyddiadau anhygoel sydd ar y gweill – ac i gael eich tocynnau cyn iddyn nhw werthu allan. Bydd ein digwyddiadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi!

Cefnogir Deaf Gathering Cymru gan Gyngor y Celfyddydau, ond rydyn ni hefyd yn dibynnu ar roddion a gwerthiant tocynnau i wneud yn siŵr ein bod ni’n gallu cynnig rhaglen lawn o weithgareddau dan arweiniad pobl fyddar i chi. Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim neu’n rhad, gan ein bod ni am eu cadw’n agored i bawb. Os allwch chi dalu ychydig yn fwy, ystyriwch ychwanegu rhodd wrth brynu tocyn.

Daw Deaf Gathering Cymru atoch gan Chapter a Deaf Gwdihŵ ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym wrth ein bodd mai Deaf Health Wales yw ein Prif Noddwr eleni.