Diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol drwy’r BFI.
Am y gronfa:
- Cyfanswm sydd ar gael: Oddeutu £95,000
- Cyllid: hyd at £10k
- Cronfa’n cau: 9am ddydd Llun 15 Ebrill 2024 (rownd gyntaf) a dydd Llun 24 Mehefin 2024 (ail rownd)
- Ffenestr gweithgarwch: Mai 2024 - Mawrth 2025. Gallai cyllid amlflwyddyn fod ar gael, yn ddibynnol ar gronfeydd a phrawf bod gofyn amdano.
Blaenoriaethau: Mae diddordeb arbennig gennym mewn cynigion prosiect sy’n cynrychioli cymunedau ledled Cymru. Yn benodol – cynulleidfaoedd anabl, cynulleidfaoedd ifanc, cynulleidfaoedd Du a Mwyafrif Byd-eang, cynulleidfaoedd dosbarth gweithiol a phrosiectau sy’n chwalu rhwystrau economaidd.
Delwedd: Monmouth Savoy © Credit David Broadbent Photography