Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o'r Grŵp Llywio sy'n adolygu’r mater hwn ac yn annog sefydliadau i ymateb i'r arolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd, sy'n eithrio rhai darparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau yng Nghymru, rhag gorfod cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd.

Mae darparwyr gweithgareddau celfyddydau gweledol a chelfyddydau perfformio i blant ymhlith y rhai sydd wedi’u heithrio ar hyn o bryd rhag gorfod cofrestru gydag AGC. Mae’r eithriad hwn yn cael ei adolygu ac mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am adborth gan ddarparwyr y gweithgareddau hyn. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn rhan o'r Grŵp Llywio sy'n adolygu’r mater hwn ac yn annog sefydliadau i ymateb i'r arolwg hwn ac i’w rannu gyda'u rhwydweithiau.

Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i'r rhai nad ydynt wedi cofrestru gyda AGC ac sy'n cynnig gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant 0-12 oed yng Nghymru, lle nad yw'r rhiant neu'r prif ofalwr yn bresennol, i roi eu barn i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall:

  • pa fath o wasanaethau a chyfleoedd y maent yn eu cynnig i blant a theuluoedd yng Nghymru 
  • sut mae'r gosodiadau hyn yn gweithredu a pham eu bod yn gweithredu fel hyn 
  • pa bolisïau, gweithdrefnau ac o bosib oruchwyliaeth sydd ar waith
  • sut mae'r gosodiadau hyn yn teimlo am gofrestru gyda AGC

Arolwg

Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mewn clywed gan ddarparwyr gofal plant, chwarae a gweithgareddau i blant nad ydynt wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru fel Gwarchodwr Plant neu ddarparwr Gofal Dydd o dan y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010.

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15 munud i'w gwblhau a bydd ar gael tan 08/11/2024 

Cwblhau’r arolwg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/EANZAY/

Os hoffech wneud unrhyw ymholiad am yr arolwg, ein proses adolygu neu ddarparu gwybodaeth y credwch a fyddai'n ddefnyddiol ond heb ei chynnwys yn yr arolwg, e-bostiwch ni ar:  Ymgynghoriad.GofalPlantAGwaithChwarae@llyw.cymru