Ar nos Iau 13 Gorffennaf, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai’r nofel Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn) yw enillydd Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mai Drift gan Caryl Lewis (Doubleday) sydd yn derbyn y teitl yn y Saesneg.

Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n cael ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mewn seremoni fawreddog yn y Tramshed yng Nghaerdydd y cyhoeddwyr y newyddion, gyda’r cyflwynydd – a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, Ffion Dafis – yn llywio’r noson. Gwobrwywyd llyfrau mewn pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc. Cyhoeddwyd hefyd pa lyfrau oedd ffefrynnau’r cyhoedd yng ngwobrau Barn y Bobl Golwg360 a’r Wales Arts Review, cyn symud ymlaen i ddatgelu enw un prif enillydd ym mhob iaith.

 

Yr Enillydd Cymraeg - Pridd gan Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Yn ei nofel fer Pridd mae Llŷr Titus yn creu darlun cignoeth ond cyfareddol o fywyd Hen Ŵr yng nghefn gwlad Llŷn. Drwy bedwar tymor y flwyddyn mae ddoe a heddiw, tristwch a llawenydd a holl flerwch byw yn llifo i’w gilydd. Draw yn y caeau mae’r hen gerrig mawr yn llefaru eu doethineb. Ac mae’r Llwynog yn llercian.

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus, sydd erbyn hyn yn byw yng Nghaernarfon. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 2011, a’r Fedal Ddrama y flwyddyn olynol. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, Wobr Tir na n-Og yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Sefydlodd ar y cyd yn ogystal gylchgrawn Y Stamp a’r wasg Cyhoeddiadau’r Stamp.

Yn ôl Megan Hunter:

“Cafodd y pedwar ohonom ein swyno gan y nofel fer ond trawiadol hon. Mae yma symlrwydd a chynildeb cynnes yn y disgrifiadau o’r hyn a wna’r Hen Ŵr ar ei fferm o ddydd i ddydd, ond rhywsut, ar yr un pryd, mae pob brawddeg yn disgleirio o dlysni. “

Yn ôl Savanna Jones:

“Mae'r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg. O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei fyd. Mae'r cyfeiriad at berthynas pobl gyda lle, newid traddodiad, galar, a tir yn unigryw ac yn eich annog i adlewyrchu ac i gwestiynu fel darllenwr. Gwreiddioldeb y darn oedd wedi ein plesio fel panel. Mae’n llwyddiannus yn y ffordd mae’n ein hannog i fynd ar antur gyda’r prif gymeriad ac i ymrwymo yn ei fyd wrth iddo garlamu drwy daith bywyd.”

 

Dyma’r llyfrau a gipiodd y gwobrau ym mhob categori yn y Gymraeg:

Gwobr Plant a Phobl Ifanc: Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol)

Gwobr Ffuglen: Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Ffeithiol Greadigol: Cylchu Cymru, Gareth Evans-Jones (Y Lolfa)

Y Wobr Farddoniaeth: Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Barn y Bobl Golwg360: Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)

Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000 a derbyniodd prif enillwyr y wobr £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal, derbyniodd enillwyr y categorïau a’r prif enillwyr dlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Dyfernir gwobrau Llyfr y Flwyddyn gan banel beirniadu annibynnol a benodir bob blwyddyn. Ar y panel Cymraeg eleni oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones; awdur ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.

Mae’r wobr yn rhan annatod o weithgaredd Llenyddiaeth Cymru, ac yn cyfrannu tuag at ei strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â llwyfan arbennig i gynnig cydnabyddiaeth i rai o awduron amlycaf Cymru.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong:

Llongyfarchiadau gwresog i Llŷr, Caryl ac i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023. Mae’r ddwy nofel sy’n cipio’r prif wobrau eleni yn dra wahanol, ond mae eu geiriau hudolus wedi gwreiddio’n ddwfn mewn lleoliadau penodol yng Nghymru. Mae’n ein llonni fod Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn profi, bob blwyddyn, fod Cymru mor gyfoethog ei llên. Gobeithiwn yn fawr fod y wobr yn tynnu sylw hyd yn oed rhagor o bobl at y cyfrolau arbennig yma, a bod cynulleidfaoedd ehangach yn cael eu denu i ddarllen Cymru.”

 

Y Gwobrau Saesneg

Enillydd y Brif Wobr Saesneg eleni yw Drift gan Caryl Lewis. Mae Caryl yn ddramodydd a sgriptiwr Cymraeg sydd wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2016 gydag Y Bwythyn. Dyma’r tro cyntaf erioed i awdur gipio’r brif wobr yn y ddwy iaith.

 

Dyma’r llyfrau a ddaeth i’r brig:

Gwobr Plant a Phobl Ifanc: When the War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies: Drift, Caryl Lewis (Doubleday - Transworld, Penguin Random House)

Gwobr Ffeithiol Greadigol: And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)

Y Wobr Farddoniaeth: As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)

Gwobr People’s Choice Wales Arts Review: The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children’s)

 

Ar y panel beirniadu Saesneg oedd yr awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett; yr awdur a’r athro Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd gwobr Ffeithiol-Greadigol Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales, a’i gyllidwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.