Yn dilyn chwe wythnos hynod lwyddiannus yn Polka Theatre yn Wimbledon yn gynharach eleni, mae Theatr Iolo yn paratoi i deithio Tidy, cynhyrchiad hudolus o stori ddarluniadol a doniol Emily Gravett.
Mae’r cyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Iolo a Polka Theatre yn dod â stori Pete y mochyn daear yn fyw. Mae Pete yn hoffi cadw popeth yn dwt ac yn daclus, ond wrth dacluso’r goedwig mae e’n dinistrio’i gartref ei hun.
Yn seiliedig ar y llyfr darluniadol i blant gan Emily Gravett, yr awdur a darluniwr sydd wedi ennill gwobrau niferus, mae Tidy yn chwedl dyner ond rhybuddiol am werth y byd o’n cwmpas a’r hyn sy’n digwydd os na fyddwn yn gofalu amdano. Wedi’i gyhoeddi yn 2016 gan Two Hoots, sy’n perthyn i Macmillan Children’s Books, mae teuluoedd ac athrawon fel ei gilydd wrth eu boddau â Tidy. Am y tro cyntaf bydd Tidy hefyd yn cael ei berfformio ochr yn ochr â Taclus, fersiwn Cymraeg o’r ddrama sydd wedi’i ysbrydoli gan addasiad Mari George o’r llyfr a gyhoeddwyd gan Rily.
“Yn dilyn cyfnod anhygoel yn Polka Theatre yn gynharach eleni, dw i’n edrych ymlaen yn arw at ddod â stori ddoniol, wirion ac ystyrlon Emily Gravett yn fyw dros y gwanwyn. Rydyn ni’n arbennig o gyffrous ein bod yn cydweithio â’r cast rhagorol yma i drawsnewid y sioe yn gynhyrchiad Cymraeg ei iaith, a fydd yn cael ei berfformio ochr yn ochr â’r perfformiadau Saesneg. Rydym yn gobeithio y bydd Tidy a Taclus yn ysbrydoli ac yn swyno cynulleidfaoedd ifanc ledled Cymru a thu hwnt.”
- Lee Lyford, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo
Gyda phypedau hardd, cerddoriaeth wreiddiol a thamaid o ddwli, bydd y sioe chwareus hon yn swyno cynulleidfaoedd ifanc, gan ei bod yn archwilio sut mae angen tamaid o anrhefn ym mywydau bob un ohonom ni.
Wedi’u cyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Artistig Theatr Iolo, Lee Lyford, bydd Tidy a Taclus yn agor yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 2025, cyn teithio i ganolfannau yn Lloegr a Chymru.
Bydd y cynhyrchiad yn serennu Owen Alun fel Pete the Badger / Pete y Mochyn Daear, Elin Phillips fel Rabbit / Cwningen a Carwyn Jones fel Fox / Cadno. Bydd y tri actor yn perfformio yn Tidy a Taclus.
Fe grëwyd Tidy yn wreiddiol ar y cyd rhwng Lee Lyford, Lucy Rivers a Rachael Canning. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn dod â Llinos Mai i’r tîm i addasu’r sgript wreiddiol i’r Gymraeg. Bydd y cynhyrchiad yn cyflwyno cerddoriaeth a gyfansoddwyd gan Lucy Rivers a set, gwisgoedd a phypedau wedi’u dylunio gan Rachael Canning. Bydd Jane Lalljee fel Cynllunydd Goleuo ac Yvonne Gilbert fel Cynllunydd Sain yn cwblhau’r tîm creadigol.
Fe berfformir Tidy a Taclus yn Theatr y Sherman Theatre yng Nghaerdydd, The Egg yn Bath, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Glan-yr-afon Casnewydd, Canolfan y Celfyddydau Memo yn y Barri, Galeri yng Nghaernarfon, Canolfan Garth Olwg ym Mhentre’r Eglwys, Neuadd y Dref Maesteg a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o 11 Chwefror tan 15 Mawrth 2025. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â thaith Tidy a Taclus, ewch i theatriolo.com a chofrestrwch i dderbyn eu newyddion drwy e-lythyr.