Yn cael ei berfformio am y tro cyntaf yng ngŵyl Llais 2024, mae Llwch a Llechi gan y cyfansoddwr ac artist amlddisgyblaethol Gwen Siôn yn gyfuniad o gerddoriaeth electronig, synau amgylcheddol, offeryniaeth cerddorfaol a lleisiau sy’n archwilio cysylltiadau rhwng cerddoriaeth, tirwedd, traddodiad a defod. 

Caiff Llwch a Llechi ei berfformio’n fyw gan 10 cerddor o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Côr y Penrhyn - un o gorau hynaf Cymru (grwp cymunedol a sefydlwyd yn wreiddiol gan weithwyr Chwarel y Penrhyn, Bethesda), a Gwen ar electronig byw yn defnyddio ei hofferynnau arbrofol ei hun wedi eu creu â llaw ganddi o ddeunyddiau naturiol, safle-benodol wedi’u hailgylchu (gan gynnwys llechi, derw ac yw). 

Mae Llwch a Llechi wedi'i ysbrydoli gan fotiffau llên gwerin, hanesion cymdeithasol-wleidyddol, y dreftadaeth ddiwydiannol a’r cydberthynas diwylliannol rhwng cerddoriaeth a thirwedd, a gwreiddiau dyfnach hynny yn nhraddodiad llafar Celtaidd Cymru. 

Mae’r project newydd clyweledol yma’n cyfuno elfennau o gerddoriaeth electronig arbrofol, cyfansoddi cerddorfaol cyfoes, cyfansoddi corawl (wedi’i seilio’n benodol ar draddodiad dosbarth gweithiol corau meibion chwareli’r Gogledd), recordiadau maes a ffilmiau archif gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru i greu perfformiad byw unigryw a deniadol.

Hydref 13 3.30pm Canolfan Mileniwm Cymru