Bydd yr arddangosfa hon, a guradwyd gan Dr Ceri Thomas, yn dathlu dau guradur amser llawn cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian a'u harweiniad arloesol o arddangosfeydd, casgliadau a rhaglenni caffael yr oriel yn y 1950au a'r 1960au. Bydd paentiadau a darluniau'n cynnwys gweithiau gan Alfred Janes, Josef Herman, John Elwyn, Gwen John, J D Innes, Paul Nash, Kyffin Williams, Glenys Cour, Ivon Hitchens, Karel Appel, Sam Francis, Ceri a Frances Richards, Evan Walters a cherfluniau gan Jonah Jones, Ron Lawrence a Peter Nicholas — y cyfan o gasgliad parhaol yr oriel.

Bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar y rolau allweddol a chwaraeodd y curaduron David Bell (1915-1959) a Kathleen Armistead (1902-1971) wrth sefydlu a datblygu byd celf gyfoes Cymru. Roedd cyflawniadau nodedig Bell ac Armistead yn cynnwys datblygu amgylcheddaeth Gymreig a moderniaeth Gymreig ac Ewropeaidd yng Nghymru, yn ogystal â dyrchafu statws lleol a chenedlaethol yr oriel.

Gan ddefnyddio ei waith fel arlunydd yn dilyn ei hyfforddiant yn y Coleg Celf Brenhinol a'r profiad a gafodd gyda Chyngor Celfyddydau Prydain Fawr yng Nghaerdydd (1946-51), ysgrifennodd David Bell yn rheolaidd ar gyfer y South Wales Evening Post yn ystod ei gyfnod yn Abertawe, lluniodd ganllaw cyntaf i gasgliad yr oriel (a gyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth) a sefydlodd Gymdeithas Cyfeillion Oriel Gelf Glynn Vivian ym 1958. Roedd Bell yn canolbwyntio’n arbennig ar hyrwyddo artistiaid cyfoes o Gymru ac artistiaid a oedd yn gweithio yng Nghymru fel Ceri Richards a aned yn Dyfnant, Josef Herman a aned yn Warsaw a oedd yn byw yn Ystradgynlais a John Elwyn a aned ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr.

Dechreuodd Kathleen Armistead, curadur benywaidd cyntaf Oriel Gelf Glynn Vivian, ei gyrfa fel curadur amgueddfa yn Lloegr (1943-59), ar ôl hyfforddi i ddechrau fel pianydd ac astudio hanes cymdeithasol cerddoriaeth. Oherwydd ei diddordeb arbennig mewn cerflunio, cerameg a gwaith haniaethol, ehangodd uchelgais y rhaglen gaffaeliadau i gynnwys efydd gan Barbara Hepworth a Jacob Epstein, cerameg gan Lucie Rie, a gweithiau dau ddimensiwn gan yr artistiaid rhyngwladol Karel Appel, Sam Francis a Henry Moore, a thrwy hynny ychwanegu at uchafbwyntiau rhaglen arddangosfeydd a chaffaeliadau cyfoes yr oriel yn ystod ei chyfnod yn y swydd.

Cyhoeddir y llyfr, Shaping Wales: Bell, Armistead and the Modern Artist, a ymchwiliwyd ac a ysgrifennwyd gan Dr Ceri Thomas RCA/AFG, ym mis Medi/Hydref 2023, gan Ali Anwar, The H'mm Foundation. Mae'n cwmpasu cyfnod 1915 i 1969 a holl fywyd a gyrfa David Bell, ynghyd â chyfnod Armistead yn Oriel Glynn Vivian, gan ddatgelu eu rolau arloesol wrth lunio'r byd celf yn y Gymru fodern.