Arwyddo llyfrau gan artist sydd wedi ennill gwobrau

Dydd Sul 13 Hydref 2-4pm 

Bydd Celfyddydau Canolbarth Cymru, Caersws yn croesawu’r artist, darlunydd ac awdur arobryn Bonnie Helen Hawkins ar gyfer y digwyddiad ‘diwedd sioe’ arbennig hwn.

Mae ei chyfrol newydd, Under Milk Wood yn ‘hot off the press’ ac yn cynnwys ei holl ddarluniau pensil bendigedig sydd wedi’u hysbrydoli gan gampwaith Dylan Thomas. Bydd yn rhoi sgwrs am ei harddangosfa gyfredol, yn ateb cwestiynau ac yn arwyddo llyfrau.

Dyma fydd eich cyfle olaf i weld yr arddangosfa hynod lwyddiannus hon, peidiwch â cholli darluniau pensil gwreiddiol Bonnie o gymeriadau o Under Milk Wood wedi’u harddangos gyda cherfluniau gan Jo Mattox a Hilary Cowley Greer.

Mae’r artist Cymreig adnabyddus, Mary Lloyd Jones hefyd yn dangos ynghyd â serameg Jean Sampson a llyfrau artistiaid gan Jean Duncan, Jeb Loy Nichols, Sara Philpott, Estella Scholes ac Amy Sterly’.